Ewch i’r prif gynnwys

Cwmni arloesol o Brifysgol Caerdydd, Nisien.AI, yn arwain y ffordd yn adfywiad entrepreneuriaeth Cymru

14 Ebrill 2025

Derbyniodd gwmni Nisien.AI fuddsoddiad gan Gronfa Fuddsoddi Cymru yn ddiweddar, ac mae’n cael ei gefnogi gan raglen Airbus Endeavr Cymru.

Mae Nisien.AI yn fusnes newydd arloesol o Gymru ym maes deallusrwydd artiffisial (AI) sy’n arbenigo mewn canfod bygythiadau ar-lein a dulliau sy’n cael eu pennu gan y gwyddorau data i liniaru risg. Ei genhadaeth yw creu amgylchedd ar-lein mwy diogel trwy gyfuno technoleg AI uwch â deallusrwydd dynol i fynd i'r afael â gwahanol niwed ar-lein yn effeithiol ac yn foesegol.

Mae llwyddiant y cwmni yn cyd-fynd â ffocws strategol Cymru ar y sector seiber ac AI, gyda Phrifysgol Caerdydd a’r sector prifysgolion Cymraeg ehangach yn chwarae rhan allweddol wrth feithrin cydweithrediad rhwng y byd academaidd a diwydiant. Mae Nisien.AI wedi creu 14 o swyddi newydd eleni, gan ddangos y twf y gall y sector seiberddiogelwch a deallusrwydd artiffisial ei gynnig i farchnad gyflogaeth Cymru.

Sefydlwyd Nisien.AI yn 2023 gan ddau academydd blaenllaw o Brifysgol Caerdydd - yr Athro Matt Williams a'r Athro Pete Burnap. Athro troseddeg, cyd-sylfaenydd a Phrif Wyddonydd yw’r Athro Williams, ac efe yw Cyfarwyddwr cwmni HateLab a sylfaenodd yn 2017. Mae’r Athro Burnap, Cyd-sylfaenydd a Phennaeth AI, yn athro gwyddor data a seiberddiogelwch, ac mae’n gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Hyb Arloesedd Seiber Cymru, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Seiberddiogelwch Caerdydd, Cyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Arloesi Trawsnewid Digidol, a Dirprwy Gyfarwyddwr HateLab.

Mae cynnyrch blaenllaw'r cwmni, yr Harms Evaluation & Response Observatory (HERO), yn defnyddio algorithmau AI blaengar i ganfod a dosbarthu bygythiadau ar-lein mewn amser real ar draws llwyfannau lluosog. Mae HERO yn mynd y tu hwnt i ddadansoddi allweddair syml trwy ddeall cyd-destun a bwriad ieithyddol, gan ganiatáu gwneud penderfyniadau cynnil a lleihau positifau ffug. Mae'r dechnoleg hon yn darparu mewnwelediadau y mae modd eu rhoi ar waith trwy ddangosfyrddau ac adroddiadau manwl, gan alluogi sefydliadau i wneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar ddata a gweithredu ymyriadau wedi'u targedu.

Mae Nisien.AI wedi cydweithio â sefydliadau amrywiol i wella diogelwch ar-lein. Mae’r cwmni wedi gweithio gyda llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i fireinio canllawiau cymunedol a datblygu strategaethau i liniaru lleferydd casineb ar-lein. Mae hefyd wedi sefydlu partneriaeth ag adrannau llywodraeth y DU i fonitro cynnwys niweidiol sy’n gysylltiedig â digwyddiadau sensitif, gan gyfrannu data gwerthfawr at asesiadau bygythiad cenedlaethol.

Tîm Nisien.AI

Cronfa Fuddsoddi Cymru

Yn ddiweddar, derbyniodd Nisien.AI fuddsoddiad Cronfa Fuddsoddi Cymru Banc Busnes Prydain gwerth £130 miliwn, mewn buddsoddiad ar y cyd gan Foresight Group a Banc Datblygu Cymru.

Daw’r buddsoddiad ychydig dros flwyddyn ers lansio Cronfa Fuddsoddi Cymru ym mis Tachwedd 2023 gan Fanc Busnes Prydain a gefnogir gan y llywodraeth, i hybu’r cyflenwad o gyllid cyfnod cynnar i fusnesau bach a chanolig ledled Cymru.

Dywedodd Hannah Mallen, swyddog gweithredol buddsoddiadau Banc Datblygu Cymru: “Mae Nisien.AI yn enghraifft wych o fusnes Cymraeg yn gweithio ar flaen y gad mewn maes sy’n datblygu’n gyflym. Rhan o’n nod yn y Banc Datblygu yw cefnogi busnesau yng Nghymru sydd â llawer o botensial i dyfu ac effaith gymdeithasol gadarnhaol. Bydd gwaith Nisien.AI yn gynyddol bwysig ym myd y cyfryngau cymdeithasol sy'n datblygu'n gyflym ac sy’n fwyfwy cyfoes, ac rydym yn falch o fod wedi ei gefnogi. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Foresight i gefnogi’r busnes.”

Bydd y buddsoddiad newydd yn galluogi'r cwmni i barhau i arloesi a thyfu, gan gyflogi gweithwyr allweddol a chyflymu prosesau ymchwilio a datblygu i greu cynhyrchion newydd ac aflonyddgar a’u cyflwyno i'r farchnad. Yn ogystal â nodi ac ymateb i niwed ar-lein, mae'r cwmni hefyd yn gweithio ar gynhyrchion AI newydd yn seiliedig ar dystiolaeth wyddonol sy'n dod i'r amlwg ynglŷn â’r ‘hyn sy'n gweithio' wrth adeiladu mannau ar-lein integredig a chydlynol. Mae'r cynhyrchion nodedig hyn yn mynd i'r afael â materion cadw defnyddwyr/cwsmeriaid ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol a sianeli brandiau, trwy ddefnyddio dull di-sensoriaeth sy'n amddiffyn rhyddid mynegiant.

Bydd y cynhyrchion hyn yn cefnogi cymedroli cynnwys a sgwrsio ar-lein iach yn y tymor hwy ac integreiddio cymunedol. Mae'r swyddogaeth hon yn hanfodol o ystyried y ddadl polareiddio ynghylch materion rhyddid i lefaru, lle dydy'r opsiwn presennol i sensro cynnwys ddim yn optimaidd ar gyfer defnyddwyr, llwyfannau a brandiau.

Ychwanegodd Lee Gainer, Prif Swyddog Gweithredol Nisien.AI: “Mae'n amser hynod gyffrous i fod yn tyfu busnes sy’n herio yn y sector hwn."

Gyda'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn cael ei rhoi ar waith yn fuan, credwn fod potensial i Nisien.AI dyfu’n enfawr. Gyda chefnogaeth Foresight, Banc Datblygu Cymru a Banc Busnes Prydain, edrychwn ymlaen at gyflymu’r cychwyn gwych y mae’r busnes wedi’i wneud ers ei ffurfio a pharhau i dyfu, gan greu swyddi cynaliadwy newydd ym maes technoleg yma yng Nghaerdydd.
Lee Gainer CEO, Nisien.AI

Yr Athro Pete Burnap, Lee Gainer a Tyrone Stuart o Nisien.AI gydag Ysgrifennydd yr Economi, Rebecca Evans MS

Airbus Endeavr Cymru

Mae rhaglen Airbus Endeavr Cymru , a ddathlodd 15 mlynedd o lwyddiant yn ddiweddar, yn fenter ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, Airbus Defence and Space, a Phrifysgol Caerdydd – sy’n cynrychioli’r sector prifysgolion yng Nghymru.

Dros y tair blynedd diwethaf mae menter Endeavr, sy’n gyfle i brifysgolion a busnesau bach a chanolig weithio gydag Airbus a datblygu atebion arloesol i broblemau cymhleth, wedi derbyn £1.6 miliwn o gyllid - sy’n fwy na’r buddsoddiad cychwynnol gan Lywodraeth Cymru a’i bartneriaid. Mae bellach wedi derbyn estyniad cyllid gan Lywodraeth Cymru ac Airbus Defense and Space.

Mae Nisien.AI wedi elwa o’r rhaglen hon ac wrthi’n gweithio gydag Airbus i ganfod gwybodaeth sydd wedi’i chynhyrchu gan ddefnyddio AI, er mwyn dod o hyd i wybodaeth anghywir bosibl ar draws llwyfannau ar-lein mewn amser real.

Dyma a ddywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: “Mae gwaith arloesol Nisien.AI yn union y math o ddatrysiad arloesol oedd gennym ni mewn golwg pan lansiwyd ein strategaeth Cymru’n Arloesi. Catalydd yw Endeavr sy’n annog arloesi o’r radd flaenaf o’r byd academaidd a’r gymuned busnesau bach a chanolig ledled Cymru gyfan, gan wreiddio technoleg a gallu Airbus yn ecosystem busnes Cymru. Efallai ein bod yn genedl fach, ond trwy alluogi cydweithredu rhwng pobl, consortia a busnesau i weithio tuag at nodau a rennir, gallwn gael presenoldeb mawr a darparu cyfraniad gwerthfawr at weledigaeth gyffredinol y DU ar gyfer arloesi.”

Meddai’r Athro Pete Burnap: “Mae’r gwaith gydag Airbus yn adeiladu ar ddegawd o gydweithio rhwng Prifysgol Caerdydd ac Airbus, a ddechreuodd gyda grant Endeavr. Roeddwn yn ddigon ffodus i ddysgu llawer am drosi ymchwil i gymwysiadau byd go iawn yn ystod fy secondiad yn Airbus, ac rwy bellach yn Gyfarwyddwr Hyb Arloesedd Seiber Cymru – sy’n ceisio cynyddu nifer y busnesau seiberddiogelwch ac unigolion medrus ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd a’r cyffiniau. Fel cyd-sylfaenydd Nisien.AI, mae’n fraint cael gweithio gyda’r un rhaglen 10 mlynedd yn ddiweddarach, i helpu i ddatblygu gallu seiber newydd sydd â’r potensial i gyrraedd graddfa fyd-eang drwy ein partneriaeth ag Airbus. Rydym wedi gallu creu a chynnal swyddi newydd yn lleol o ganlyniad i’r gwaith hyd yn hyn, a bydd y rhaglen ddiweddaraf yn ein galluogi i ehangu hyn ymhellach.”