Gwobrion ariannu Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
2 Ebrill 2025
Mae chwech o ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd wedi bod yn llwyddiannus yn y rownd ddiweddaraf o wobrau cyllid Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Heddiw (1 Ebrill 2025), cyhoeddwyd derbynwyr gwobrau cyllid personol a chyllid prosiect Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Mae cyllid gwobr personol wedi'i ddyfarnu i ymchwilwyr o bob cwr o Gymru, gan gynnwys pum gwobr Ymchwilydd sy'n Datblygu, dwy wobr Dyfarniad Cyflymydd Personol ac un wobr Datblygu Treialon.
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru hefyd yn cyhoeddi gwobrau prosiectau'r Cynllun Cyllido Integredig.
Dywedodd Michael Bowdery, Pennaeth Rhaglenni a Chyd-gyfarwyddwr Dros Dro yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Rydym unwaith eto yn falch o allu darparu cyllid ar gyfer ystod o wobrau personol a phrosiectau a fydd yn cefnogi datblygiad ein hymchwilwyr wrth fynd i'r afael â meysydd pwysig o anghenion iechyd a gofal."
Ychwanegodd yr Athro Monica Busse, Cyfarwyddwr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru,: "Roedd y ceisiadau a gyflwynwyd i'r rownd ddiweddaraf o wobrau personol unwaith eto 'n gymhellol ac amrywiol. Edrychwn ymlaen at eu croesawu i gymuned ymchwilwyr Cyfadran Cymru Gyfan a gobeithiwn y bydd y cyllid hwn yn eu galluogi i wneud cynnydd ystyrlon wrth symud ymlaen yn eu gyrfaoedd ymchwil yn eu dewis meysydd."
Mae derbynwyr Prifysgol Caerdydd fel a ganlyn:
Gwobrau Personol
Dyfarniad Ymchwilydd sy'n Datblygu
- Mr David Westlake, Prif Gymrawd Ymchwil, Prifysgol Caerdydd - Gwerthuso triniaethau ac ymyriadau therapiwtig - cydgrynhoi'r gwaith sydd eisoes wedi'i wneud i mewn i PhD trwy weithiau cyhoeddedig, sy'n archwilio sut i wneud gwerthusiadau achosol mewn Gofal Cymdeithasol Plant
- Dr Sarah Thompson, Cydymaith Ymchwil, Prifysgol Caerdydd - Ymchwil gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol - Ymchwil bellach i Brofiadau a chanlyniadau plant awtistig mewn gofal ac i sicrhau bod plant a gofalwyr yn cael cefnogaeth briodol
- Dr Alison Cooper, Uwch Gymrawd Ymchwil Glinigol, Prifysgol Caerdydd - Rheoli clefydau a chyflyrau - Optimeiddio iechyd mislif i wella cyfranogiad mewn gweithgarwch corfforol
Dyfarniad Cyflymydd Personol
- Dr Matthijs Backx, Meddyg Ymgynghorol Clefydau heintus a microbioleg feddygol, Prifysgol Caerdydd - Atal clefydau a chyflyrau - adeiladu ar ddata peilot a gynhyrchwyd gan ein hadran ar y risgiau o ddatblygu clefyd ffwngaidd ymledol
Gwobrau prosiect
Gwobrau'r Cynllun Cyllido Integredig
- Dr Freya Davies, Uwch Gymrawd Ymchwil Glinigol, Prifysgol Caerdydd - Deall profiadau o ffitio dyfeisiau mewngroth (sef IUD) i gyd-gynhyrchu dulliau cefnogi penderfyniadau effeithiol ynghylch lleddfu poen.
- Dr David Gillespie, Prif Gymrawd Ymchwil / Cyfarwyddwr Treialon Heintiau, Llid ac Imiwnedd - Effeithiolrwydd negeseuon testun o bractisau teulu i gynyddu profion ar gyfer heintiau a drosglwyddir yn rhywiol trwy lwyfan profi postio ar-lein (Tecstio i Brofi)