Gweithio gartref: Byrddau ystafelloedd bwyta ymhlith y lleoedd sydd hefyd yn ddesgiau swyddfa i hanner y gweithwyr
2 Ebrill 2025

Mae hanner y bobl sy'n gweithio gartref yn gwneud hynny yn y gegin, ar fwrdd bwyta neu yng nghornel ystafell a ddefnyddir at ddibenion eraill.
Dyma un o’r canlyniadau a ddaeth i’r amlwg yn Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth 2024, yr astudiaeth academaidd fwyaf hirsefydlog a manwl o brofiadau gweithwyr y DU. Ffrwyth gwaith academyddion o Brifysgol Caerdydd, Coleg Prifysgol Llundain, Coleg Nuffield Rhydychen a Phrifysgol Surrey yw’r arolwg hwn. Mae wedi bod yn casglu data ers bron ddeugain mlynedd erbyn hyn, ac mae wyth arolwg wedi’u cyhoeddi i gyd.
Cynhelir yr arolwg bob rhyw chwe blynedd, ac mae’r un a gynhaliwyd yn 2024 yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae byd gwaith wedi newid ers y pandemig.
Dyma rai o’r prif ganfyddiadau:
Lleoliad gwaith: Pan yn gweithio gartref, mae chwarter y gweithwyr yn gwneud hynny (27%) mewn mannau a fwriedir at ddibenion eraill megis y gegin neu’r ystafell fwyta; mae gan un o bob pump (22%) weithfan yng nghornel ystafell; mae 6% yn rhannu swyddfa ag aelod arall o’r aelwyd; ac mae gan 45% eu swyddfa eu hunain gartref. Mae'r rhai sy'n cyfrannu mwy at gyllideb yr aelwyd, y rhai sy’n byw mewn cartrefi mwy, a'r rhai sy'n treulio mwy o amser yn gweithio gartref, yn fwy tebygol o fod â'r adnoddau a'r lle i greu swyddfa gartref. O ganlyniad, mae dynion yn fwy tebygol na menywod o gael swyddfa bwrpasol ac mae menywod yn fwy tebygol o weithio mewn mannau a fwriedir at ddibenion eraill fel y gegin neu'r ystafell fwyta.
Cam-drin yn y gweithle: Cafodd mwy nag un o bob saith (14%) o weithwyr y DU brofiad o ryw fath o gam-drin yn y gweithle yn ystod y flwyddyn cyn yr arolwg, gan gynnwys bwlio, trais ac aflonyddu rhywiol. Mae nyrsys (32%), athrawon (28%) ac eraill sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus ymhlith y galwedigaethau sy'n wynebu'r risgiau mwyaf o gam-drin. Mae’r risg yn uwch i weithwyr nos (24%) hefyd, ac mae'n llawer uwch i fenywod (19%) o gymharu â dynion (10%).
Deallusrwydd artiffisial (AI): Mae deallusrwydd artiffisial yn prysur ennill ei blwyf a gwelwyd bod cyfran y defnyddwyr wedi cynyddu o 15% i 24% rhwng trydydd chwarter 2023 ac ail chwarter 2024. Er bod dros 10% o’r gweithwyr mewn dwy ran o dair o alwedigaethau yn defnyddio AI, mewn rolau cyflogau uchel, sgiliau uchel ac ymhlith dynion, gweithwyr iau a'r rhai ag addysg lefel prifysgol y gwelwyd y defnydd mwyaf.
Undebau: Mae dylanwad canfyddedig undebau ar sut y trefnir gwaith wedi cynyddu ers 2006. Mae dros draean y gweithwyr (36%) sy'n gweithio i sefydliadau sydd heb undeb yn dweud y byddent yn pleidleisio i sefydlu undeb pe byddent yn cael y cyfle. Cynyddodd y ffigur hwn i tua hanner y gweithwyr (51%) sy’n 20-29 oed. Mae hyd yn oed yn uwch ymhlith y gymuned LHDTC+ a'r rhai y mae eu hiechyd yn cyfyngu'n ddifrifol ar eu gweithgareddau. Yn y naill achos, byddai chwech o bob deg yn pleidleisio i sefydlu undeb llafur.
Dywedodd arweinydd prosiect yr Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth, yr Athro Alan Felstead, sy’n gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae byd gwaith wedi newid yn sylweddol ers ein harolwg diwethaf yn 2017. Er enghraifft, mae lle rydym yn gweithio wedi newid, rydym yn defnyddio mwy o AI, mae disgresiwn o ran tasgau wedi gostwng, ac mae mwy o aflonyddwch diwydiannol. Mae'r arolwg hwn yn edrych ar sut mae'r newidiadau hyn wedi effeithio ar fywydau gweithwyr.
“Yn ôl pob tebyg, un o'r newidiadau mwyaf dramatig yw’r ffordd y mae gwaith wedi symud i'r cartref yn sgîl cyfyngiadau’r cyfnodau cloi. Ond nid yw pawb yn gallu gweithio fel hyn. Mae tua dau o bob bump (38%) o’r boblogaeth gyflogedig yn parhau i weithio mewn mannau gwaith sefydlog fel swyddfeydd, ffatrïoedd neu siopau. Hyd yn oed pan fo gweithio gartref yn bosibl, mae rhai cyflogwyr wedi cyhoeddi bod yn rhaid i weithwyr ddychwelyd i'r swyddfa, gan olygu bod gwrthdaro ar y gweill rhwng y cyflogwyr hyn â'u gweithwyr. Yn yr arolwg, dywedodd tua dau o bob tri o’r rhai sy’n gweithio gartref ei fod yn rhan hanfodol neu bwysig iawn o'r pecyn cyflogaeth.
“Ond mae heriau’n gysylltiedig â gweithio gartref hefyd, yn enwedig i bobl nad ydynt yn gallu creu swyddfa gartref, fel y rhai sy'n byw mewn cartrefi llai neu lety a rennir. Yn gyffredinol, mae canlyniadau'r arolwg yn dangos bod arian a phŵer yn dylanwadu ar bwy sy'n cael y cyfle i weithio gartref, ac a yw'r gweithwyr hyn yn gallu mynd ati i greu swyddfa yn y cartref. Felly, mae angen i bolisïau ganolbwyntio ar hyrwyddo pob math o weithio hyblyg ac nid yr opsiwn o weithio gartref yn unig, sy'n tueddu i ffafrio’r rhai gwell eu byd.”
Dywedodd yr Athro Francis Green o Goleg Prifysgol Llundain, a arweiniodd yr astudiaeth am gam-drin yn y gweithle: “Mae cam-drin yn y gweithle yn cael effeithiau niweidiol parhaol ar ddioddefwyr, gan gynnwys colli ymrwymiad ac iechyd gwael. Ac eto, daw i’r amlwg yn ein harolwg bod cam-drin yn y gwaith yn llawer rhy gyffredin bob blwyddyn, yn enwedig yn y sector cyhoeddus. Mae menywod a gweithwyr LHDTC+ yn dioddef aflonyddu rhywiol yn fwy nag unrhyw grŵp arall o weithwyr. Mae angen i gyflogwyr fod yn ymwybodol o'r risgiau sy'n deillio o bŵer anghyfartal yn y gwaith, er mwyn meithrin diwylliant o barch, a sefydlu polisïau adnoddau dynol priodol i fynd i'r afael â phroblemau. Ar ben hynny, mae ein hadroddiad yn galw ar y Swyddfa Ystadegau Gwladol i fonitro’r tueddiadau sy’n gysylltiedig â phob math o gam-drin.”
Drwy gymysgedd o gyfweliadau personol manwl ac arolygon ar-lein, fe holwyd 5,469 o bobl ar gyfer yr astudiaeth. Fe ganolbwyntiodd yr arolwg, sy’n rhoi darlun cenedlaethol, ar oedolion 20-65 oed sy’n gweithio ac yn byw yn y DU.
Mae’r arolwg yn amlygu’r canlynol hefyd:
Gwaith ystyrlon: Dim ond 5% o weithwyr sy'n cwestiynu gwerth eu swyddi. Nododd menywod a gweithwyr hŷn lefelau uwch o arwyddocâd ac ystyr i’w gwaith o’u cymharu â’r lefelau a nodwyd gan ddynion a gweithwyr iau. Ym meysydd iechyd, addysg ac adeiladu mae'r lefelau uchaf o waith ystyrlon, ac ym meysydd llety, cludiant, gwerthu a gwasanaethau ariannol y gwelwyd y lefelau isaf.
Disgresiwn o ran tasgau: Mae gallu gweithwyr i wneud penderfyniadau am eu tasgau gwaith uniongyrchol wedi bod yn gostwng ers 2012. Yn 2024, roedd gan tua thraean (34%) o weithwyr gryn ddylanwad dros ba dasgau yr oeddent yn eu gwneud, sut yr oeddent yn mynd ati i’w gwneud, pa mor galed yr oeddent yn gweithio, ac i ba safonau, o gymharu â 44% yn 2012. Roedd y gostyngiad yn arbennig o amlwg i’r rhai a oedd mewn galwedigaethau proffesiynol cyswllt, neu’n gweithio ym meysydd gofalu a gwerthu, ac ymhlith menywod.
Sgiliau: Mae'r galw am gymwysterau lefel gradd yn parhau i gynyddu. Ym 1986, dywedodd un o bob pump o weithwyr y byddai angen cymhwyster lefel gradd arnynt i gael eu swydd bresennol. Erbyn 2024, roedd y ffigur hwn wedi cynyddu i bron hanner (46%). Gwelwyd hefyd gynnydd yng nghanran y gweithwyr a gymerodd ran mewn hyfforddiant sy’n gysylltiedig â swyddi rhwng 2017 a 2024, a bu gostyngiad yn lefelau gorgymhwyso o 39% yn 2017 i 35% yn 2024.
Ansawdd swyddi a’r bwlch rhwng y rhywiau: Mae'r bwlch rhwng y rhywiau o ran ansawdd swyddi wedi lleihau'n raddol mewn perthynas â nifer o agweddau. Mae'r bwlch mewn cyflogau wedi gostwng yn gyson, ond mae'r bwlch o ran amgylchedd gwaith ffisegol, ansawdd oriau gwaith, ac o ran sgiliau swyddi wedi lleihau hefyd. Yn 2001, dywedodd llawer mwy o ddynion na menywod bod eu hiechyd a’u diogelwch mewn perygl, ond erbyn 2024 roedd y risg ganfyddedig yr un fath i ddynion a menywod fel ei gilydd. Mewn categorïau eraill, yn enwedig sicrwydd swyddi a dwysedd gwaith, bach iawn yw'r bwlch rhwng y rhywiau..
Dywedodd yr Athro Ying Zhou o Ysgol Busnes Surrey, a ymchwiliodd i brofiadau pobl o waith ystyrlon: “Mae'r rhai sy'n gallu cymhwyso eu sgiliau, gweithio o’u pen a’u pastwn eu hunain, ac sy’n gallu dibynnu ar reolwyr cefnogol, yn llawer mwy tebygol o feddwl bod eu gwaith yn ystyrlon. Mewn cyferbyniad â hynny, ychydig iawn o wahaniaeth y mae cyflog yn ei wneud. Mae'r astudiaeth yn awgrymu bod gwaith yn fwyaf ystyrlon pan fydd yn bodloni anghenion dynol sylfaenol o ran cymhwysedd, annibyniaeth, a pherthnasedd, yn ogystal â chynnig manteision diriaethol i eraill. Mae'n amlygu pwysigrwydd polisïau sy’n ceisio gwella ansawdd sylfaenol swyddi a’u diogelu mewn sectorau sy'n cyfrannu'n uniongyrchol at iechyd a lles y cyhoedd.”
Yr Athro Duncan Gallie o Goleg Nuffield ym Mhrifysgol Rhydychen a arweiniodd yr astudiaeth am gymryd rhan yn y gwaith. Dywedodd:“Mae cynnwys gweithwyr mewn penderfyniadau am sut i wneud eu gwaith ac am newidiadau sefydliadol sy’n effeithio ar eu gwaith, yn cael effaith arwyddocaol ar eu lles a’u cymhelliant i weithio. Fodd bynnag, er gwaethaf argyfwng mewn cynhyrchiant a straen gwaith cynyddol dros y degawdau diwethaf, mae cyflogwyr ym Mhrydain wedi lleihau’r disgresiwn sydd gan weithwyr dros eu swyddi a'u gallu i ddylanwadu ar benderfyniadau sefydliadol. Mae'r ffaith fod gan weithwyr lai o rôl a dylanwad erbyn hyn wedi effeithio ar y rhai mewn swyddi uwch a swyddi is fel ei gilydd. Ond mae’r gostyngiad o ran defnyddio disgresiwn yn y gwaith wedi effeithio ar weithwyr benywaidd yn benodol.”
Mae Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth 2024 wedi’i ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), yr Adran Addysg, Acas ac Adran Economi Gogledd Iwerddon.
Rhannu’r stori hon
Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.