Prifysgol Caerdydd yn cynnal rownd derfynol genedlaethol Top of the Bench y Gymdeithas Gemeg Frenhinol
1 Ebrill 2025

Roedd hi’n bleser gennyn ni groesawu cemegwyr ifanc a’u hathrawon o 28 o ysgolion ledled y DU a Gwlad Belg ar gyfer rownd derfynol genedlaethol Top of the Bench 2025.
Yn ystod digwyddiad Top of the Bench, a drefnwyd gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol (RSC), bu 112 o fyfyrwyr mewn timau o bedwar yn ymchwilio i arbrawf y "botel las", lle mae hydoddiant di-liw yn troi'n las yn ddramatig wrth ei ysgwyd. Roedden nhw’n ymchwilio i'r newidynnau sy'n rheoli ei newidiadau lliw diddorol mewn ymchwiliad ymarferol.
Llongyfarchiadau i’r tîm o Goleg Winchester, enillwyr y gystadleuaeth, a phob clod i’r holl dimau a gymerodd ran am eu gwaith caled a’u rhagoriaeth. Llongyfarchiadau arbennig i Bailey ac Olivia o Academi Armfield, a rannodd wobr Jacqui Clee am eu gwaith tîm eithriadol, yn gweithio’n drefnus ac yn bwyllog i gyfrannu at berfformiad rhagorol eu tîm.
Dywedodd Cat Miedziak, technegydd yn Ysgol Cemeg Prifysgol Caerdydd: 'Roedd yn hyfryd gweld cymaint o fyfyrwyr brwd yn mwynhau bod yn y labordai - roedd yr awyrgylch yn fywiog ac yn hwyl, er yn gystadleuol!'
Dywedodd yr Athro Deborah Kays, Pennaeth Ysgol Cemeg Prifysgol Caerdydd: “Roedden ni’n falch iawn o gael croesawu’r unigolion ifanc disglair hyn i Brifysgol Caerdydd. Mae cynnal rownd derfynol Top of the Bench yn tanlinellu ein hymrwymiad i feithrin y genhedlaeth nesaf o gemegwyr ac yn rhoi cyfle gwerthfawr i fyfyrwyr brofi gwyddoniaeth ymarferol mewn prifysgol. Roedd ymdrechion ein staff technegol a’r arddangoswyr ôl-raddedig yn hanfodol er mwyn sicrhau llwyddiant y sesiwn ymarferol."
Daeth y diwrnod i ben gyda chyflwyniad diddorol ar yrfaoedd ym maes cemeg gan Dr. Alison Paul (Prifysgol Caerdydd) a Ross Christodoulou (RSC). Dechreuodd Ross drwy dynnu sylw at wefan 'A Future in Chemistry' yr RSC, sy'n cynnig adnoddau gwerthfawr i ddarpar gemegwyr. Yna trafododd Alison y llwybrau gyrfaol amrywiol y gall cefndir ym maes cemeg arwain atyn nhw, gan bwysleisio’r ffyrdd amrywiol y gellir defnyddio gwybodaeth a sgiliau mewn cemeg. Gorffennodd Ross gydag ambell gem fywiog a rhyngweithiol iawn, cyn cyhoeddi canlyniadau terfynol y gystadleuaeth.
Roedd y profiad ymarferol hwn yn bosibl diolch i gefnogaeth amhrisiadwy technegwyr ymroddedig y labordai cemeg a’r biowyddorau. Cefnogwyd y myfyrwyr gan wyth o arddangoswyr ôl-raddedig mewn cemeg, gan sicrhau bod y sesiwn ymarferol yn rhwydd, yn atyniadol ac yn hwyliog i bawb.
Roedd y digwyddiad hwn yn gyfle gwych i arddangos Prifysgol Caerdydd ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o gemegwyr. Edrychwn ymlaen at gynnal digwyddiadau tebyg yn y dyfodol!