Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol Caerdydd yn llongyfarch Partneriaeth Aber Hafren ar lwyddiant cyllid treftadaeth

1 Ebrill 2025

Mae Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd wedi estyn ei llongyfarchiadau twymgalon i Bartneriaeth Aber Hafren (SEP) ar dderbyn grant sylweddol o £992,285 ar gyfer eu prosiect "Diogelu Dyfodol Aber Hafren".

Nod y cyllid, a ddyfarnwyd gan y Gronfa Rhwydweithiau Natur, yw gwarchod a hybu cynaliadwyedd Ardaloedd Arfordirol a Morol Gwarchodedig unigryw Aber Hafren, gan gyfrannu at yr ymdrech barhaus i ddiogelu un o dirweddau pwysicaf y DU o ran ecoleg.

Mae Prifysgol Caerdydd, sy'n gartref i Bartneriaeth Aber Hafren, yn falch o gefnogi'r fenter arloesol hon. Meddai’r Athro Jenny Pike, Pennaeth Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd yng Nghaerdydd, "Mae'n dyst go iawn i’w hymroddiad a'u hymrwymiad i warchod yr amgylchedd. Fel prifysgol, rydyn ni’n falch o barhau â'n hymdrechion cydweithredol i warchod Aber Hafren, meithrin addysg, a grymuso dinesydd-wyddonwyr a gwyddonwyr graddedig. Edrychwn ymlaen at gryfhau ein partneriaeth ymhellach yn y blynyddoedd i ddod."

Nod y Gronfa Rhwydweithiau Natur, menter gydweithredol rhwng Llywodraeth Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Cyfoeth Naturiol Cymru, yw ceisio gwella cyflwr a gwytnwch tiroedd a safleoedd morol gwarchodedig Cymru. Mae prosiect SEP, a fydd yn cryfhau bioamrywiaeth yr aber ac yn ymgysylltu â chymunedau lleol a dinesydd-wyddonwyr, yn gam hanfodol tuag at sicrhau iechyd hirdymor yr aber ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Pwysleisiodd Alys Morris, Rheolwr Partneriaeth Aber Hafren, bwysigrwydd y cyllid hwn wrth ddiogelu ecosystemau bregus yr aber. "Mae cynllun cynhwysfawr wedi'i ddatblygu i adeiladu ar y gwaith pwysig sydd eisoes ar y gweill o amgylch Aber Hafren," esboniodd. "Mae hyn yn cynnwys diweddaru ein Hadroddiad Cyflwr Aber Hafren, a fydd yn ffynhonnell ddata hanfodol ar gyfer monitro, datblygu cynaliadwy, a diogelu'r amgylchedd nawr ac yn y dyfodol. Yn ogystal, rydyn ni’n anelu at gefnogi cymunedau a busnesau lleol i ddod yn stiwardiaid ar gyfer yr adnodd naturiol rhyfeddol hwn."

Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar amrywiaeth o fentrau, gan gynnwys rheoli rhywogaethau goresgynnol, gwella ansawdd dŵr, a chefnogi’r rhaglen Bird Aware Severn i leihau’r tarfu ar boblogaethau adar yr aber. Bydd cymunedau lleol yn cymryd rhan weithredol trwy brosiectau gwyddoniaeth dinasyddiaeth, gan helpu i fonitro a diogelu bioamrywiaeth gyfoethog y rhanbarth.

Cadarnhaodd Dr. Rhoda Ballinger, Cadeirydd Partneriaeth Aber Hafren a (Chymrawd Anrhydeddus yr Ysgol?), ymrwymiad hirdymor y sefydliad i warchod ecosystemau'r aber. "Mae'r prosiect hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ddiogelu'r aber a'i ecosystemau. Fel sefydliad annibynnol, trawsffiniol, byddwn ni’n parhau i gydweithio â chymunedau a’u cefnogi ar ddwy ochr yr aber, ac rydyn ni’n ceisio cyllid ychwanegol i ymestyn yr ymdrechion hyn yn Lloegr."

Tynnodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru, sylw at bwysigrwydd y bartneriaeth wrth warchod treftadaeth naturiol Cymru. "Mae'r rownd ddiweddaraf hon o ddyfarniadau’n dangos uchelgais y Gronfa Rhwydweithiau Natur a phwysigrwydd cysylltu pobl â'r byd naturiol ar garreg eu drws. Mae gwarchod a chryfhau ein treftadaeth naturiol yn flaenoriaeth allweddol i ni yn y Gronfa Dreftadaeth. Er mwyn cwrdd â'r heriau sy'n wynebu ein cynefinoedd a'n bywyd gwyllt, mae angen dull cynaliadwy, cydweithredol arnom o ran adfer natur. Felly, rydyn ni’n falch o weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru i ddarparu'r Gronfa Rhwydweithiau Natur."

Aber Afon Hafren yw un o'r aberoedd mwyaf ym Mhrydain ac yno mae ail amrediad llanw mwyaf y byd. Mae ganddo dreftadaeth naturiol a diwylliannol sy'n haeddu sylw arbennig ac mae'n amgylchedd byw a gweithio i'r cymunedau sy'n byw o amgylch y glannau. Sefydlwyd Partneriaeth Aber Hafren (SEP) ym 1995 fel menter annibynnol wedi’i chynnal gan Brifysgol Caerdydd, i weithio gyda rhanddeiliaid lleol i hyrwyddo dull cynaliadwy o gynllunio, rheoli a datblygu Aber Hafren i bawb sy'n byw ac yn gweithio yno.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Partneriaeth Aber Hafren neu dilynwch nhw ar y cyfryngau cymdeithasol yn @severnestuary.

Rhannu’r stori hon