Anrhydeddu arwresau heddwch Gogledd Iwerddon mewn arddangosfa arbennig
1 Ebrill 2025

Mae arddangosfa arbennig sy’n dathlu cryfder a gwydnwch menywod oedd yn rhan greiddiol o’r broses heddwch yng Ngogledd Iwerddon wedi agor ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae'r Arddangosfa deithiol Arwresau Heddwch, neu Peace Heroines yn cynnwys atgynyrchiadau digidol o bortreadau trawiadol o naw ymgyrchydd dros heddwch. Fe’u crëwyd yn wreiddiol gan yr artist gweledol cyfoes blaenllaw o Iwerddon, FRIZ. Comisiynwyd y portreadau i ddechrau gan lwyfan amlddisgyblaethol Herstory, i nodi 25 mlynedd ers Cytundeb Dydd Gwener y Groglith yn 2023.
Trefnwyd yr arddangosfa gan Rwydwaith Hanes a Gwleidyddiaeth Gyfoes Iwerddon GW4, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caerdydd a Chonswl Cyffredinol Iwerddon yng Nghaerdydd, a bydd y gweithiau’n cael eu harddangos yn Oriel Viriamu Jones (VJ), Y Prif Adeilad, tan 11 Ebrill.
Mae’n cynnwys yr ymgyrchwyr canlynol: Pat Hume, Bronagh Hinds, Eileen Weir, Susan McRory, Saidie Patterson, Monica McWilliams, Pearl Sagar, Anne Carr a’r Farwnes May Blood. Fe’u dewiswyd i dynnu sylw at eu cyfraniad amhrisiadwy a'u hymrwymiad diwyro i broses heddwch Gogledd Iwerddon mewn amrywiaeth o rolau, ar lawr gwlad yn y gymuned ac mewn llywodraeth.
Dywedodd Conswl Cyffredinol Iwerddon, Denise McQuade: “Mae'r gweithiau celf unigryw hyn gan FRIZ yn cydnabod yr Arwresau Heddwch am eu hymrwymiad diwyro i broses heddwch Gogledd Iwerddon. Yn ogystal â dal cryfder a gwytnwch digamsyniol y menywod hyn, mae'r portreadau yn tynnu sylw at gyfraniad menywod o bob cefndir yng Ngogledd Iwerddon at heddwch, deialog traws-gymunedol a chymod.”
Lansiwyd yr arddangosfa yn swyddogol mewn digwyddiad oedd yn cynnwys sgyrsiau gan yr Arwresau Heddwch Bronagh Hinds ac Eileen Weir.
Ymunodd Eileen â’r Ulster Defence Association yn 16 oed, ond gadawodd ar ôl cwestiynu amcanion y grŵp. Bu’n gweithredu mewn undebau llafur ac yn ymgyrchu dros hawliau menywod a hawliau cymunedol dros gyfnod o 20 mlynedd. Mae hi bellach yn gweithio fel gweithiwr cyswllt cymunedol yng Nghanolfan Menywod y Shankill yn Belfast.
Cyd-sefydlodd Bronagh Fudiad Hawliau Menywod Gogledd Iwerddon ym 1975, a Llwyfan Ewropeaidd Menywod Gogledd Iwerddon yn ddiweddarach. Yn 1996, cyd-sefydlodd Gynghrair Menywod Gogledd Iwerddon, gan wasanaethu fel prif strategydd, cydlynu rôl y Gynghrair yn yr etholiad a'r trafodaethau heddwch, a gweithredu yn uwch-gynghorydd a thrafodwraig yng Nghytundeb Dydd Gwener y Groglith.
Mae Dr Thomas Leahy yn Uwch Ddarlithydd yng Ngwleidyddiaeth Prydain ac Iwerddon a Hanes Cyfoes yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd, ac yn Brif Ymchwilydd yn Rhwydwaith Hanes a Gwleidyddiaeth Gyfoes Iwerddon GW4.
Dywedodd: “Mae'n hanfodol bod Rhwydwaith GW4 yn helpu rhannu adegau allweddol y gwrthdaro, y broses heddwch a gwleidyddiaeth Iwerddon yng Nghymru a Lloegr. Mae cael y cyfle i gynrychioli barn a phrofiadau menywod allweddol oedd yn rhan o'r broses heddwch yn gwbl hanfodol i feithrin dealltwriaeth gymdeithasol o bob agwedd ar y gwrthdaro a’r broses heddwch.”
Mae Rhwydwaith Hanes a Gwleidyddiaeth Gyfoes Iwerddon GW4 yn dod ag academyddion ac ymchwilwyr ynghyd o brifysgolion GW4, sef Caerfaddon, Bryste, Caerdydd a Chaerwysg, i ymdrin ag ystod o themâu yn hanes a gwleidyddiaeth gyfoes y Weriniaeth a Gogledd Iwerddon.
Mae Arddangosfa Arwresau Heddwch gan FRIZyn agored i bawb, ac yn rhad ac am ddim. Bydd yr arddangosfa ar agor tan 11 Ebrill, rhwng 9am a 6pm yn Oriel Viriamu Jones, Y Prif Adeilad, Prifysgol Caerdydd, CF10 3AT.
Rhannu’r stori hon
Am ragor o wybodaeth ewch i dudalennau gwe yr Ysgol.