Hwb i gynghrair ffiseg lled-ddargludyddion Prifysgol Bremen a Phrifysgol Caerdydd
1 Ebrill 2025

Cysylltiadau ymchwil newydd yn cael eu creu yn ystod ymweliad academyddion o Brifysgol Bremen â Chaerdydd
Daeth academyddion o Brifysgol Bremen i weithdy ffiseg lled-ddargludyddion yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth ym mis Chwefror yn rhan o bartneriaeth ehangach rhwng Prifysgol Bremen a Phrifysgol Caerdydd.
Nod y gweithdy, a gefnogwyd hefyd gan Sefydliad Arloesi Sero Net Prifysgol Caerdydd, oedd cryfhau'r gynghrair ffiseg lled-ddargludyddion bresennol rhwng Prifysgol Bremen a Phrifysgol Caerdydd, a hynny drwy gefnogi cysylltiadau ymchwil presennol a chreu rhai newydd.
Dywedodd yr Athro Wolfgang Langbein, Pennaeth y Grŵp Mater Cywasgedig a Ffotoneg: “Daeth ystod o syniadau ymchwil newydd i'r amlwg yn sgil y gweithdy diddorol hwn, a oedd yn cynnwys cyflwyniadau, ymweliadau â'n Ganolfan Ymchwil Drosi a'n labordai a thrafodaethau unigol at ddibenion datblygu prosiectau”.

Rydyn ni’n falch iawn o gefnogi'r gweithdy ar y cyd hwn, gan ddod ag arbenigwyr blaenllaw o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bremen ynghyd i hyrwyddo ymchwil ym maes lled-ddargludyddion. Mae'r syniadau arloesol a drafodwyd, boed dyfeisiau sy’n effeithlon o ran ynni neu ddeunyddiau ystod bŵer eang iawn, yn hanfodol wrth inni geisio rhoi hwb i’n huchelgeisiau sero net. Drwy gryfhau'r partneriaethau ymchwil hyn, rydyn ni’n gosod y sail ar gyfer atebion trawsnewidiol a fydd o fudd i’r diwydiant a chymdeithas am flynyddoedd i ddod.
Trafodwyd ystod o brosiectau ymchwil ar y cyd newydd gan gynnwys technolegau blaengar megis delweddu thermol, microsgopeg sganio a thrawsyrru electronau ar ddotiau cwantwm CuInS2 coloidaidd, dynameg gyflym iawn mewn deunyddiau 2D ag aloi anhrefnus a microsgopeg electronau ynni isel ar gyfer astudio arwynebau diemwnt amlgrisialog.
Roedd y digwyddiad hybrid yn cynnwys cyflwyniadau gan y ddwy brifysgol a oedd yn trin a thrafod pynciau megis twf diemwntau ac alwminiwm nitrid (AlN) ar ddeunyddiau electronig pŵer uchel a nodweddion a chymwysiadau optegol y lled-ddargludyddion ystod bŵer eang iawn Ga2O3 ac AlN sy'n dod i'r amlwg ac sy'n bwysig i gyflawni sero net.
Dywedodd yr Athro Jens Falta, Prifysgol Bremen: “Roedd hwn yn weithdy gwych gyda chyfraniadau rhagorol gan y ddwy brifysgol.”
“Cawson ni ddau ddiwrnod o drafodaeth ddwys a chinio cyfeillgar a oedd yn cynnig cyfle i gyfnewid gwybodaeth yn bersonol, yn ogystal ag ysgogi’r gwaith o ddatblygu prosiectau ar y cyd presennol a phellach ar ddeunyddiau newydd a'u nodweddion at ddibenion ffiseg lled-ddargludyddion a thechnoleg cwantwm. Hoffen ni ddiolch i'n cydweithwyr o Brifysgol Caerdydd am eu hymrwymiad a'u lletygarwch.”
Dechreuodd partneriaeth Prifysgol Caerdydd â Phrifysgol Bremen yn 2019, a hynny er mwyn cryfhau cysylltiadau Ewropeaidd yn sgil Brexit.
Un agwedd unigryw ar y bartneriaeth yw cysylltiad aelodau staff academaidd o un brifysgol i'r llall. Mae hyn yn galluogi staff i gymryd rhan mewn prosiectau ymchwil ar y cyd tymor hir a goruchwylio myfyrwyr PhD.
Mae’r agwedd ffiseg lled-ddargludyddion ar y gynghrair yn cefnogi datblygu ceisiadau ymchwil a chyllid cyffredin i gynlluniau ariannu'r DU a'r Almaen.
Mae hefyd yn galluogi sawl myfyriwr o Brifysgol Caerdydd i fynd ar leoliad dros yr haf, a ariennir gan Taith, i Brifysgol Bremen yn ogystal â myfyriwr Erasmus+ o Brifysgol Bremen i wneud lleoliad ym Mhrifysgol Caerdydd.