Mae hwyliau da yn helpu brechlynnau Covid-19 i weithio'n well
2 Ebrill 2025

Mae brechlynnau mRNA, fel brechlynnau Covid-19, yn gweithio'n well os yw cleifion mewn hwyliau da, yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd.
Mae astudiaeth newydd wedi datgelu sut y gall ein cyflwr seicolegol effeithio ar ymateb gwrthgyrff i ddau ddos o'r brechlyn mRNA SARS-CoV-2. Yn rhan o’r astudiaeth, gwelwyd bod hwyliau cadarnhaol a llai o symptomau o iselder yn gysylltiedig ag ymateb imiwn gwell i frechlynnau mRNA.
Roedd lefel y gwrthgyrff yn y bobl hynny sy’n teimlo’n arbennig o gadarnhaol 16% yn uwch na lefel y gwrthgyrff yn y bobl hynny sy’n teimlo’n isel. Dangosodd pobl ag iselder cymedrol ymateb imiwn 18% yn is i’r brechlyn COVID-19 o’u cymharu â phobl heb unrhyw symptomau o iselder.
Dyma a ddywedodd yr Athro Kavita Vedhara, Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd: “Mae ymchwil ar frechlynnau traddodiadol, fel y ffliw, wedi dangos bod rhai ffactorau seicolegol, fel straen, yn gysylltiedig â brechlynnau’n gweithio’n llai effeithiol, yn enwedig yn achos oedolion hŷn.
“Fodd bynnag, mae brechlynnau mRNA yn gweithio’n wahanol. Yn hytrach na defnyddio fersiwn wan o feirws, mae brechlynnau mRNA yn dysgu ein celloedd sut i wneud protein sy'n sbarduno ymateb imiwnedd i'r feirws.
“Yn ystod y pandemig cafwyd rhywfaint o dystiolaeth i awgrymu bod y brechlynnau mRNA hyn yn amddiffyn yn fwy na brechlynnau mwy traddodiadol. Er gwaethaf y ffaith eu bod yn well, roedden ni eisiau gwybod a allai ffactorau seicolegol barhau i ddylanwadu ar ba mor dda yr oedd y brechlynnau hyn yn gweithio. Dyma’r tro cyntaf i’r mathau hyn o berthynas fod yn destun ymchwil yng nghyd-destun brechlynnau mRNA.”
Ar y diwrnod y cafodd 184 o bobl eu brechlyn cyntaf, aeth yr ymchwilwyr ati i gasglu samplau gwaed a gofynnwyd i’r cleifion lenwi holiaduron a oedd yn mesur straen, gorbryder, iselder ysbryd a hwyliau cadarnhaol. Casglwyd ail sampl gwaed tua phedair wythnos ar ôl iddyn nhw gael yr ail frechlyn.
Drwy ddilyn pobl yn agos yn ystod y ddau ddos o’r brechlyn, rydyn ni wedi gallu ymchwilio i ganfod a ddylanwadodd ffactorau seicolegol ar ymateb y gwrthgyrff ar ôl ail ddos y brechlyn a’r olaf, ac os felly, sut.
Datgelodd yr astudiaeth i bobl a nododd lai o symptomau iselder a mwy o hwyliau cadarnhaol ar adeg eu brechiad cyntaf fynd ymlaen i gael ymatebion sylweddol uwch o ran gwrthgyrff ar ôl eu hail ddos a'r dos olaf.
Ni chafwyd tystiolaeth i gefnogi’r ddamcaniaeth bod gorbryder neu straen yn effeithio ar ymatebion gwrthgyrff i frechiadau mRNA SARS-CoV-2.
Ychwanegodd yr Athro Vedhara: “Mae ein hymchwil yn cynnig rhywfaint o’r dystiolaeth orau hyd yma bod ffactorau seicolegol yn gysylltiedig ag ymatebion brechlyn yr mRNA. Er bod yr effeithiau hyn yn rhai cymedrol, maen nhw’n drawiadol oherwydd ein bod yn gweld y mathau hyn o berthynas mewn brechlynnau sydd fel arall yn effeithiol iawn ac, yn arbennig, yn achos oedolion iau - sydd fel arfer yn ymateb yn dda i frechlynnau.
Mae'r canfyddiadau hyn yn cefnogi'r angen i ddeall sut mae'r effeithiau hyn yn digwydd a sut y gallen ni ddatblygu triniaethau newydd i fanteisio i’r eithaf ar hwyliau pobl ar adeg eu brechlynnau i sicrhau eu bod yn gweithio cystal â phosibl.
“Mae brechlynnau’n cael eu hystyried ymhlith y mesurau iechyd pwysicaf a ddatblygwyd erioed, ac mae ymchwil yn awgrymu bod brechlynnau yn arbed 6 bywyd bob munud yn fyd-eang. Ond nid yw pawb ar eu hennill yn sgil brechlynnau. Mae’r gwaith hwn yn ein helpu i ddeall sut y gallen ni eu helpu i weithio’n well yn y grwpiau sydd fwyaf agored i niwed.”
Cyhoeddwyd yr ymchwil, Psychological correlates of antibody response to mRNA SARS-CoV-2 vaccination: a prospective observational cohort study, yn Brain, Behaviour, and Immunity.