Ewch i’r prif gynnwys

Mae ImmunoServ wedi ennill Gwobr Dewi Sant 2025 am Arloesi, Gwyddoniaeth a Thechnoleg

4 Ebrill 2025

ImmunoServ yn derbyn eu gwobr gan Brif Weinidog Cymru Eluned Morgan MS.

Mae'r cwmni biotechnoleg ImmunoServ o Medicentre Prifysgol Caerdydd wedi ennill categori Arloesi, Gwyddoniaeth a Thechnoleg Gwobrau Dewi Sant 2025, sef gwobrau cenedlaethol Cymru.

Mae ImmunoServ, a sefydlwyd yn 2020 gan y Cymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd, Dr Martin Scurr, ac Arweinydd Imiwnoleg Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, yr Athro Andrew Godkin, wedi dyfeisio pecynnau profi celloedd T sy'n gallu dangos pa mor ddiogel yw pobl rhag clefydau heintus. Mae’r ystod gynyddol o gynnyrch a gwasanaethau profi celloedd T sydd ganddyn nhw’n cefnogi sawl corff iechyd cyhoeddus a sefydliad ymchwil, gan ein helpu i ddeall yn well imiwnedd rhag sawl clefyd gan gynnwys COVID-19, ffliw tymhorol, ffliw yr adar, Streptococws Grŵp A, yn ogystal â gwella’r gwaith o ddiagnosio a thrin clefydau fel sglerosis ymledol a chanser.

Bellach yn eu 12fed flwyddyn, mae Gwobrau Dewi Sant yn dathlu unigolion a sefydliadau rhagorol ledled Cymru, gan gydnabod yr hyn maen nhw wedi’i gyflawni ym maes gwirfoddoli, dewrder, busnes, y gymuned, a mwy. Ymhlith enillwyr eraill y wobr eleni mae'r cwmni cynhyrchu dramâu teledu Bad Wolf Ltd, yr amgylcheddwr Peter Stanley, y seiclwr trac Olympaidd Emma Finucane MBE, a'r actores a'r awdur teledu Ruth Jones a enillodd Wobr Arbennig y Prif Weinidog.

Ar ôl iddo derbyn y wobr gan Brif Weinidog Cymru, Eluned Morgan AS, dyma a ddywedodd Prif Swyddog Gweithredol ImmunoServ a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, Dr James Hindley: "Roedd campau pobl eraill yn y Senedd yn ysbrydoli dyn. Allwn i ddim bod yn falchach o dîm ImmunoServ wrth dderbyn y gydnabyddiaeth ar y cyd â nhw. Mae ein gwaith caled a'n hymroddiad yn parhau i yrru’r gwaith o arloesi wrth fonitro imiwnedd. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn hefyd am y gefnogaeth a gawson ni gan sefydliadau fel Prifysgol Caerdydd, Cotton Mouton Diagnostics, MediWales a Llywodraeth Cymru dros y blynyddoedd.“

Dyma a ychwanegodd Martin Scurr, Prif Swyddog Gwyddonol ImmunoServ: "Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi chwarae rhan yn llwyddiant ImmunoServ - ein cydweithwyr gwyddonol, ein cwsmeriaid a'r unigolion anhygoel sy'n cymryd rhan yn ein hymchwil. Mae eu cefnogaeth yn parhau i'n helpu i ehangu a ffynnu."

Tîm ImmunoServ (chwith i dde) Yr Athro Andrew Godkin, Dr Martin Scurr, a Dr James Hindley.

Yn 2021, lansiodd ImmunoServ eu Pecyn Prawf Imiwno-T sy'n defnyddio darnau mân o'r feirws neu'r bacteria o ddiddordeb i weld a yw gwaed yn cynnwys y celloedd T sy'n amddiffyn pobl rhag y clefyd. Gall y prawf gwaed fonitro ymateb imiwnedd rhywun ar ôl haint neu frechiad. Dyma'r prawf Imiwno-T COVID-19 cyntaf yn y byd y gellir ei ddefnyddio gartref ac mae ar gael i unrhyw un yn y DU sy'n dymuno profi ei imiwnedd celloedd T. Gall prawf y cwmni hefyd fesur imiwnedd carfanau mawr o bobl ac astudiaethau poblogaeth. Mae hefyd yn golygu bod modd cynnal ac ehangu profion celloedd T safonedig mewn unrhyw labordy ledled y byd.

Cartref ImmunoServ yw MediCentre Prifysgol Caerdydd, ein hwb deori biotechnoleg a thechnoleg feddygol arbenigol ar diroedd Ysbyty Athrofaol Cymru. Ar y safle mae mwy na 1000 o droedfedd sgwâr i labordai a swyddfeydd ac ynddo mae tîm o saith o imiwnolegwyr yn gweithio, gan gynnwys pum gwyddonydd PhD.

Dyma a ddywedodd Rhys Pearce-Palmer, Rheolwr Arloesi Medicentre Caerdydd: "Ar ran Medicentre Caerdydd rydyn ni wrth ein boddau bod tîm ImmunoServ yn cael ei gydnabod am ei waith pwysig. Mae ImmunoServ yn enghraifft ysbrydoledig o gwmni sy'n magu nerth drwy gyplysu ymarfer clinigol â’r byd academaidd. Rydyn ni’n falch o ddarparu lleoliad strategol wrth ymyl Ysbyty Athrofaol Cymru a Phrifysgol Caerdydd lle gall cwmnïau fel ImmunoServ feithrin prosiectau ar y cyd sy'n helpu i sbarduno’r gwaith o arloesi."

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.