Ewch i’r prif gynnwys

Amgueddfa Gyda'r Hwyr: Noson o Hwyl STEM yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

28 Mawrth 2025

Cynhaliodd Ysgol Beirianneg Prifysgol Caerdydd, ar y cyd ag Amgueddfa Cymru, ddigwyddiad blynyddol Amgueddfa Gyda'r Hwyr yn ystod hanner tymor mis Chwefror. Roedd hon yn noson unigryw o weithgareddau ymarferol STEM i'r teulu.

Daeth tua 1,200 o ymwelwyr i’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn, am noson o ddarganfod ac archwilio yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Dywedodd Debbie Syrop, Swyddog Ymgysylltu â’r Cyhoedd, a helpodd i drefnu’r digwyddiad: “Mae bob amser yn hyfryd gweld cymaint o deuluoedd yn ymwneud â’r gwaith cyffrous sy’n digwydd ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r digwyddiad hwn yn amlygu’r gwahaniaeth cadarnhaol y mae ymchwil academaidd yn ei gael ar ein bywydau ac yn helpu i’w wneud yn hygyrch i bob oed.”

Am un noson yn unig, trawsnewidiodd staff y brifysgol a’r amgueddfa orielau a mannau dysgu’r amgueddfa yn ganolfannau STEM rhyngweithiol, gan roi cyfle i deuluoedd lleol gwrdd â pheirianwyr, gwyddonwyr a myfyrwyr tra’n dysgu am y gwaith hynod ddiddorol y maen nhw’n ei wneud.

Cafodd yr ymwelwyr fwynhau amrywiaeth o weithgareddau, a oedd yn arddangos y prosiectau ymchwil a pheirianneg blaengar sy’n cael eu cynnal ym Mhrifysgol Caerdydd. Un o'r uchafbwyntiau oedd sioe coiliau Tesla yn Theatr Reardon Smith, a gyflwynwyd gan ymchwilwyr o labordy mellt y brifysgol. Roedd yn arddangos gwreichion yn hedfan ar draws y llwyfan, gan roi darlun clir i ymwelwyr o bŵer trydan.

Roedd y gweithgareddau eraill yn cynnwys adeiladu datrysiadau cynaliadwy ar gyfer trafnidiaeth gyda LEGO, edrych ar y cysylltiad rhwng rhediadau marblis a mecaneg cwantwm, a chreu moduron gyda grŵp ymchwil MAGMA y brifysgol. Roedd arbenigwyr o’r amgueddfa wrth law i gynnig cyfle i ymwelwyr gyffwrdd â’r casgliadau a chymryd golwg ar ryfeddodau byd natur.

Roedd myfyrwyr peirianneg hefyd wrth law i gyflwyno eu prosiectau arloesol. Roedd tîm Rasio Caerdydd yno i arddangos eu car Formula Student ac i wahodd ymwelwyr i roi cynnig ar efelychydd gyrru. Bu myfyrwyr mecatroneg yn arddangos robotiaid sy'n gallu canfod difrod mewn llinellau rheilffordd a chamera sy'n olrhain symudiad sêr yn ystod ffotograffiaeth yn y nos.

Roedd ymwelwyr hefyd yn gallu rhyngweithio â robot deudroed dynolffurf NAO, a ddefnyddir gan yr Ysgol Cyfrifiadureg i astudio rhyngweithio dynol, ac edrych ar fyd technoleg is-goch gyda chamerâu o'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth. Cyflwynodd yr Ysgol Mathemateg amrywiaeth o bosau a gemau ar gyfer yr ymwelwyr.

Roedd adborth yr ymwelwyr yn gadarnhaol, gyda llawer yn dweud eu bod wedi mwynhau’r gweithgareddau. Dywedodd un ymwelydd, “Da iawn, pum seren, llawer o hwyl!” a dywedodd un arall, “Fe wnes i fwynhau fy hun heddiw yn dysgu am lawer o bethau.”

Nododd rhieni’r “amrywiaeth eang o weithgareddau” a’r cyfleodd i ymgysylltu roedden nhw’n cynnig ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd. Yn ôl un ymwelydd iau, fe wnaeth grynhoi’r profiad drwy ddweud, “Popeth! Dwi ddim eisiau iddo ddod i ben!”

Ychwanegodd yr Athro Rhys Pullin, Cyfarwyddwr Ymgysylltu â’r Cyhoedd: “Fel bob amser, roedd Amgueddfa Gyda'r Hwyr yn gyfle gwerthfawr i deuluoedd ymgysylltu â STEM mewn ffordd hygyrch a difyr, gan danio chwilfrydedd a helpu i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr a gwyddonwyr.”

Rhannu’r stori hon