Ewch i’r prif gynnwys

Dathlu Hanner Canrif o Bartneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth

3 Ebrill 2025

Mae 2025 yn nodi hanner canrif o gydweithio rhwng byd busnes a’r byd academaidd i gyflawni arloesedd a thwf.

Rhaglen Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTPs), a sefydlwyd ym 1975, yw un o'r rhaglenni hynaf sy’n cael eu hariannu gan y Llywodraeth yn y DU.  Gan fynd i’r afael â heriau busnes yn y byd go iawn, mae'r rhaglen yn bartneriaeth ddeinamig rhwng sefydliad, tîm academaidd arbenigol a myfyriwr graddedig neu ôl-raddedig talentog (y Cydymaith). Nod y partneriaethau hyn yw datblygu atebion sy'n sicrhau arloesedd, twf economaidd a manteision cymdeithasol neu amgylcheddol.

Amcangyfrifir bod Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth wedi cyfrannu £2.3 biliwn i economi’r DU rhwng 2010 a 2020. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae prosiectau Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth yng Nghymru wedi creu 78 swydd newydd ac wedi denu £6.5 miliwn mewn buddsoddiadau arloesedd. Mae hyn yn cynnwys £1.8 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru, sy’n cynnal y cynllun ar y cyd ag Innovate UK.

I ddathlu’r garreg filltir hon, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ddigwyddiad dathlu yn Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd yn ddiweddar, a oedd yn arddangos llwyddiannau Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth yng Nghymru heddiw ac yn y gorffennol ac a ddaeth â sefydliadau academaidd a sefydliadau allanol o bob cwr o Gymru ynghyd.

Yn y digwyddiad hwn, cafodd dwy Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth lwyddiannus yng Nghaerdydd â Cerebra ac Eriez eu harddangos yn bartneriaethau rhagorol sy'n dangos y manteision economaidd a chymdeithasol helaeth sy’n cael eu cynnig gan y rhaglen.

Elusen yng Nghaerfyrddin yw Cerebra sy’n helpu i wella bywydau plant ag anhwylderau’r ymennydd trwy gefnogi eu teuluoedd gyda’u hanghenion iechyd, addysg a chymdeithasol hirdymor. Mae'r cwmni nid-er-elw wedi elwa’n fawr o'r ddwy Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth lwyddiannus. Mae eu Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth ddiweddar gydag Ysgol Busnes Caerdydd a’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg wedi datblygu dull wedi’i ysgogi gan ddeallusrwydd artiffisial o gynyddu effeithiolrwydd ymgyrchoedd marchnata Cerebra.

Dywedodd Ricky Howells, Goruchwyliwr Partner Busnes Cerebra:

“Mae'r Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth hon wedi dangos yn glir yr angen i wneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar ddata ym mhob agwedd ar godi arian.  O ganlyniad byddwn ni’n gallu cyrraedd a chefnogi mwy o deuluoedd yn y dyfodol, gan wneud gwahaniaeth ystyrlon i fywydau plant sy’n byw gyda chyflwr ar yr ymennydd.”

“Mae ein Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth gyda Cerebra yn dangos sut mae Prifysgol Caerdydd yn gweithio ar y cyd â sefydliadau i gael effaith yn y byd go iawn. Trwy gyfuno ein harbenigedd ym meysydd marchnata, dadansoddeg data, a deallusrwydd artiffisial, fe wnaethon ni ddatblygu strategaethau wedi’u hysgogi gan ddata a oedd yn cryfhau ymgysylltiad a chynaliadwyedd hirdymor Cerebra – gan ddangos sut mae Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth yn ysgogi twf sefydliadol a gwerth cymdeithasol ehangach.”
Dr Simon Jang Darllenydd (Athro Cyswllt) mewn Dadansoddeg Marchnata

Cydweithiodd Eriez®,  arweinydd byd-eang ym maes technolegau gwahanu, gydag Ysgol Peirianneg Caerdydd ar Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth uwch (eKTP) lwyddiannus. Caiff eKTPs eu hariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru, ac maent yn ychwanegu elfen ryngwladol at y rhaglen KTP, gan gynnig cyllid i gwmnïau cymwys o Gymru a allai elwa o wybodaeth a thechnoleg ryngwladol. Mae Eriez sydd â’i bencadlys yn Erie, Pennsylvania, UDA, yn dylunio, cynhyrchu a chreu marchnadoedd ar chwe chyfandir trwy 12 is-gwmni rhyngwladol sy'n eiddo i gwmni arall.  Mae ei ganolfan Ewropeaidd, Eriez Magnetics Europe Limited ym Medwas, Caerffili. Gan ganolbwyntio ar brosesu signalau a dyluniad electronig rheolydd synhwyrydd metel, mae'r eKTP wedi arwain at ddatblygu cyfres newydd arloesol o synwyryddion metel, y bwriedir eu lansio yn gynnar yn 2024.

Canmolodd Gareth Meese, Rheolwr Gyfarwyddwr Eriez-Europe, lwyddiant yr eKTP:

“Arweiniodd gyfuno pwerau medrus technegol y Brifysgol ac arbenigedd diwydiant Eriez at ddatblygiadau sylweddol mewn prosesu signalau a dylunio electronig ar gyfer ein synwyryddion metel newydd.”

Dyma a ddywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Economi, Ynni a Chynllunio:

“Mae KTPs yn rhan bwysig o ecosystem arloesi Cymru, gan sbarduno canlyniadau gwell i'n busnesau, ein sefydliadau academaidd, ein preswylwyr a'n hamgylchedd.

“Ers 50 mlynedd mae'r rhaglen arloesol hon wedi galluogi busnesau a sefydliadau i fanteisio ar arbenigedd yr ymchwil gorau sydd gan y DU i'w gynnig. Mae hefyd wedi cyflymu dilyniant i raddedigion, gan greu swyddi gwerth uchel a chyflogau da ledled Cymru.”

Yn y digwyddiad, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd ei chyfraniad cyllid o 75% ar gyfer KTPs BBaChau Cymru yn parhau tan fis Mawrth 2027. Am ragor o wybodaeth am KTPs a sut i wneud cais, anfonwch e-bost: BEP@caerdydd.ac.uk