Ewch i’r prif gynnwys

School of Geography and Planning subjects among the world’s best

28 Mawrth 2025

Adeilad Morgannwg
Adeilad Morgannwg

Mae’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio unwaith eto wedi’i chydnabod ymhlith adrannau mwyaf blaenllaw’r byd. Mae Daearyddiaeth a Phensaernïaeth / Amgylchedd Adeiledig ymhlith y 100 uchaf yn Rhestr QS o Brifysgolion Gorau'r Byd yn ôl Pwnc 2025.

Mae Rhestr QS o Brifysgolion Gorau'r Byd yn ôl Pwnc yn darparu dadansoddiad cymharol annibynnol o berfformiad mwy na 18,300 o raglenni prifysgol unigol ledled y byd, ar draws 55 o ddisgyblaethau academaidd. Mae’r canlyniadau diweddaraf yn amlygu rhagoriaeth barhaus Prifysgol Caerdydd mewn addysgu ac ymchwil, gan atgyfnerthu ei henw da byd-eang am ansawdd ac effaith academaidd.

Mae QS yn defnyddio pum metrig allweddol i sgorio safleoedd y pynciau. Mae dangosyddion enw da yn seiliedig ar ymatebion mwy na 240,000 o gyflogwyr ac academyddion i arolygon QS, tra bod Nifer y Cyfeiriadau fesul Erthygl a Mynegai H yn mesur effaith ymchwil a chynhyrchiant. Caiff y Rhwydwaith Ymchwil Ryngwladol (IRN) ei ddefnyddio i asesu gwaith ymchwil ar y cyd trawsffiniol.

Mae gan yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio hanes cryf mewn ymchwil ac addysg, gan fynd i'r afael â rhai o heriau mwyaf y byd, o gynaliadwyedd trefol i wydnwch newid hinsawdd. Mae arbenigedd yr Ysgol yn parhau i sbarduno arloesi mewn dylunio cynaliadwy a datblygu seilwaith.

Mae’r ffaith ei bod yn gyson yn un o’r 100 gorau ar restr QS yn dyst i’w hymrwymiad i ragoriaeth academaidd a chydweithio rhyngwladol. Mae’r Ysgol yn parhau i fod ar flaen y gad o ran llunio dyfodol daearyddiaeth, cynllunio, a’r amgylchedd adeiledig gyda’i hymchwil arloesol a chysylltiadau cryf â diwydiant.

Rhannu’r stori hon