Ewch i’r prif gynnwys

Sgrinio serfigol gartref – gwyddonwyr yn cynghori ar brofion hunan-samplu

31 Mawrth 2025

Patient and doctor in healthcare environment - Cleifion a meddyg mewn amgylchedd gofal iechyd

Mae sgrinio serfigol drwy hunan-samplu gartref yn debygol o fod yn opsiwn yn y dyfodol. Ond mae gwyddonwyr yn rhybuddio bod yn rhaid cymryd camau i sicrhau nad yw'r cynnig o samplu gartref yn cael effaith negyddol ar gyfraddau sgrinio serfigol ac yn arbennig eu bod yn cael eu defnyddio gan grwpiau nad ydyn nhw’n cael eu gwasanaethu’n ddigonol a sydd mewn perygl.

Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd yn gosod y strategaethau cyfathrebu sydd eu hangen os cynigir hunan-samplu gartref ar gyfer HPV fel dewis ar gyfer sgrinio serfigol, er mwyn cynyddu ymddiriedaeth yn y broses a chyfranogiad cleifion.

Dywedodd Dr Denitza Williams, Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: "Mae'r defnydd o sgrinio serfigol wedi gostwng yn raddol yn y DU dros y degawd diwethaf ar 69.6% - gan aros o dan y targed o 80%, sydd ei angen i leihau nifer yr achosion o ganser serfigol.

"Mae embaras, pryderon ynglŷn â delwedd y corff, diffyg apwyntiadau, amser i fynd iddyn nhw a sensitifrwydd diwylliannol yn rhwystrau cyffredin i sgrinio serfigol. Gallai sgrinio HPV drwy hunan-samplu y gellir ei wneud gartref leihau'r rhwystrau hyn, gan ei fod yn caniatáu i'r person gymryd sampl i wirio am HPV gartref neu mewn lleoliad arall o’u dewis."

Gan fod hunan-samplu yn cael ei baratoi i'w gyflwyno o bosibl yn y DU, mae'n bwysig ein bod yn deall y ffordd orau o gyfathrebu'r opsiwn newydd hwn ag unigolion ar gyfer y cyflwyniad gorau a’r defnydd mwyaf.
Dr Denitza (Deni) Williams Lecturer

Yn yr astudiaeth SUCCEED, nod yr ymchwilwyr oedd datblygu argymhellion sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer strategaeth gyfathrebu i gefnogi unigolion wrth ddewis rhwng hunan-samplu HPV neu samplu HPV gyda chlinigydd.

Dyma’r astudiaeth gyntaf i gyfuno newid ymddygiad a theori cymorth penderfyniadau i lywio strategaeth gyfathrebu i hwyluso penderfyniadau gwybodus ar gyfer sgrinio serfigol.

"Mae'n bwysig, cyn cyflwyno hunan-samplu ar gyfer sgrinio serfigol, ein bod yn deall yn llawn sut y gall hunan-samplu fynd i'r afael â rhai o'r rhwystrau i’r dull traddodiadol o gasglu samplau gyda chlinigwyr, ond hefyd sut y gallai gyflwyno rhwystrau unigryw," ychwanegodd Dr Williams.

Mae'r astudiaeth yn edrych ar wybodaeth, gwerthoedd a dewisiadau ymhlith ymatebwyr sgrinio serfigol, a'r rhai nad ydynt yn draddodiadol wedi derbyn y gwahoddiad sgrinio - gan gynnwys edrych ar oedran, grŵp economaidd-gymdeithasol, ethnigrwydd, hunaniaeth rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol.

Mae angen cefnogi cyflwyno hunan-samplu HPV fel dewis i unigolion yn y DU gyda strategaeth gyfathrebu gadarn. Mae hyn yn hanfodol i gynyddu ymwybyddiaeth ac ymgysylltiad y cyhoedd. Rhaid i hyn hefyd gyd-fynd â chymorth penderfyniadau i hwyluso penderfyniadau gwybodus pan fydd unigolion yn cael dewis.
Dr Denitza (Deni) Williams Lecturer

Amlygodd yr ymchwil tra bod cyfranogwyr yn gadarnhaol am y posibilrwydd o hunan-samplu ar gyfer sgrinio serfigol, mae yna hefyd rywfaint o amheuaeth ynghylch y rhesymeg y tu ôl i'r cynnig o ddewis, ceir yr argraff bod diffyg tryloywder am fanteision hunan-samplu a dryswch ynghylch effeithiolrwydd hunan-samplu.

Mae'r ymchwilwyr hefyd wedi datgelu diffyg dealltwriaeth gyffredinol o sgrinio serfigol, gyda lefelau isel o wybodaeth am HPV yn gwneud y cynnig o ddewis yn anodd ei gymharu. Adroddodd unigolion hefyd bryder am gywirdeb y canlyniadau wrth hunan-samplu.

"Mae angen i ni sicrhau bod ein holl ganfyddiadau'n cael eu hystyried mewn cyfathrebu yn y cyfnod cyn i sgrinio serfigol drwy hunan-samplu gael ei gyflwyno.

We must also ensure that there is tailored content for communities and individuals, such as those who have been through sexual violence, immigrants, and certain religious and LGBTQ+ groups.
Eleanor Clarke Research Assistant

Mae’r gwaith hwn yn ehangu ar eu hymchwil flaenorol, a ganfu fod postio pecynnau hunan-samplu HPV yn uniongyrchol at unigolion o grwpiau statws economaidd-gymdeithasol isel, grwpiau ethnig lleiafrifol a menywod hŷn â’r potensial i gynyddu’r nifer sy’n manteisio ar hunan-samplu HPV ar gyfer sgrinio serfigol.

Dywedodd Dr Williams: "Mae'r astudiaeth hon yn nodi'r llwybr ar gyfer creu ymgyrch gyfathrebu ar gyfer cefnogi penderfyniadau yn y cyfnod cyn bod hunan-samplu ar gael i unigolion yn y DU. Rydyn ni’n amlygu’r ffordd orau o gyfathrebu ag unigolion, er mwyn sicrhau bod unigolion yn cael eu cynorthwyo i wneud y dewis cywir iddyn nhw wrth ystyried sgrinio serfigol – i fynd i glinig traddodiadol neu hunan-samplu gartref.

"Rydyn ni’n gobeithio, trwy gyflwyno dewis i unigolion, a chefnogi’r cyflwyniad gyda strategaeth gyfathrebu, ein bod yn grymuso unigolion i wneud y dewisiadau gorau iddyn nhw eu hunain o ran gofal iechyd, ond hefyd y gallwn gynyddu'r niferoedd sy'n mynd i sgrinio serfigol - yn enwedig ymhlith grwpiau sy'n llai tebygol o ymwneud â sgrinio neu sy'n amharod i wneud."

Gydag unrhyw newid i ffyrdd sefydledig o sgrinio, mae'n hynod bwysig i sefydliadau gofal iechyd gyfathrebu'n glir fel bod pobl yn parhau i ymwneud â sgrinio. Mae'r astudiaeth hon dan arweiniad ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd yn rhoi mewnwelediadau pwysig i'r ffordd orau o gefnogi dewisiadau gwybodus ynghylch sgrinio serfigol, fel y gellir dod o hyd i ganser serfigol yn gynnar mewn mwy o bobl.
Yr Athro Katherine Brain Reader