Tueddiadau iechyd meddwl pobl ifanc: cymharu'r DU a Brasil
27 Mawrth 2025

Mae astudiaeth newydd gan Ganolfan Wolfson er Iechyd Meddwl Pobl Ifanc ym Mhrifysgol Caerdydd wedi dangos gwahaniaethau pwysig yn y ffordd y mae iechyd meddwl pobl ifanc yn y DU a Brasil wedi newid dros amser.
Er bod tystiolaeth yn dangos cynnydd parhaus mewn problemau iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc yn y DU dros y tri degawd diwethaf, ni welir y duedd hon ym mhob cwr o’r byd.
Roedd yr astudiaeth, a arweiniwyd gan Dr Jessica Armitage, yn trin a thrafod data o bedair carfan i gymharu problemau iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc a aned yn y 1990au cynnar a dechrau’r 2000au.
Yn y DU, dangosodd y canfyddiadau gynnydd mewn problemau iechyd meddwl dros amser. Fodd bynnag, yn Pelotas ym Mrasil, roedd ymchwilwyr wedi canfod gostyngiad mewn problemau emosiynol ymhlith plant 11 oed, gyda chanran y bobl ifanc a sgoriodd yn yr ystod annormal yn gostwng o 41.7% (carfan a aned ym 1993) i 20.1% (carfan a aned yn 2004). O gymharu â hyn, gwelodd y DU gynnydd o 7.3% i 10.9% dros yr un cyfnod.
Er gwaethaf y duedd gadarnhaol hon yn Pelotas, roedd problemau iechyd meddwl yn parhau i fod yn llawer mwy cyffredin yno o gymharu â'r DU. Mae'r canfyddiadau hyn yn dangos yn glir yr angen am ymchwil pellach i'r ffactorau sy'n cyfrannu at y tueddiadau gwahanol hyn a'r hyn y gallwn ni ei ddysgu i gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc yn fwy effeithiol.
“Syndod oedd gweld y gostyngiad mewn problemau emosiynol dros amser yng ngharfannau Pelotas. Fodd bynnag, mae'n bwysig peidio â chyffredinoli’r canfyddiadau i blant sy'n byw yn rhywle arall ym Mrasil, a fydd yn debygol o amrywio ar ystod o ffactorau sy'n berthnasol i iechyd meddwl. Y cam hollbwysig nesaf yw deall pam rydyn ni’n gweld y gwahaniaethau hyn ar draws carfannau.”
Mae’r astudiaeth yn dangos pwysigrwydd deall sut mae heriau iechyd meddwl yn esblygu mewn gwahanol gyd-destunau ac yn galw am ymdrech parhaus i fynd i’r afael â’r gwahaniaethau hyn ar raddfa fyd-eang.
Mae’r papur, ‘A cross-country comparison of temporal change in adolescent mental health problems in the UK and Brazil’ wedi’i gyhoeddi yng nghyfnodolyn EPS ac ar gael i’w ddarllen ar-lein drwy Wasg Prifysgol Caergrawnt