Dathliad o ddysgu gydol oes
27 Mawrth 2025

Mae ein seremoni wobrwyo yn cydnabod llwyddiannau ein myfyrwyr a'n staff
Y seremoni wobrwyo yw uchafbwynt y flwyddyn i'r Is-adran Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae'n gyfle gwych i gydnabod ymrwymiad, angerdd a llwyddiannau ein myfyrwyr a’n cydweithwyr.
Dechreuodd y noson gyda derbyniad anffurfiol gan roi cyfle i bawb cael sgwrs, rhannu profiadau ac ymhyfrydu yn y dathliadau.
Yna, roedd y seremoni ffurfiol, (er ei fod yn llai ffurfiol o ystyried y chwerthin, bloeddio a chymeradwyaeth hynod frwd oedd yn medru cael ei glywed ymhob man).

Derbyniodd myfyrwyr eu tystysgrifau, eu diplomâu a'u gwobrau. Mae pob dysgwr gydol oes yn dychwelyd i'r ystafell ddosbarth am reswm gwahanol. Mae pob stori yn unigryw.
Mae llawer o'n myfyrwyr yn symud ymlaen at astudiaethau israddedig ac astudiaethau ôl-raddedig ac mae eu penderfyniad i gyflawni eu huchelgeisiau yn ysbrydoledig.
Agorwyd y noson gan ein Cyfarwyddwr Dros Dro, Dr Michelle Deininger, gydag araith ar bwysigrwydd dysgu gydol oes a sut y gall cyfleoedd i gael mynediad at addysg uwch fod yn drawsnewidiol i unigolion, teuluoedd, cymunedau lleol a chymdeithas yn gyffredinol.

Cyflwynwyd y dyfarniadau a'r gwobrau gan Venice Cowper, Cyfarwyddwr Dros Dro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Mae Venice yn hyrwyddwr dysgu gydol oes a siaradodd am bwysigrwydd cefnogi pobl o bob cefndir i wireddu eu potensial mewn addysg uwch.
Cafodd ein tiwtoriaid eu hanrhydeddu yn y digwyddiad hefyd:
- Gwobr am roi gofal bugeiliol arbennig o dda ac eirioli dros y rhai nad ydyn nhw’n ddysgwyr traddodiadol.
Dr Catherine Phelps
- Gwobr am addysgu rhagorol ac ymroi i hyrwyddo Dysgu Gydol Oes ar draws Prifysgol Caerdydd
Dr Juliette Wood
- Gwobr am addysgu rhagorol a gwella ansawdd
Angharad Berrow
- Gwobr am roi cefnogaeth eithriadol i fyfyrwyr
Ana Costa
- Gwobr am ymroi i hyrwyddo Dysgu Gydol Oes yn y gymuned
Dr Rhiannon Maniatt
Mae proffesiynoldeb, empathi ac arbenigedd ein tiwtoriaid yn ein galluogi i gynnig ystod eang o bynciau. Maen nhw hefyd yn cynnal rhagoriaeth addysgu wrth sicrhau bod ein holl gyrsiau yn hygyrch i bawb.

Meddai Dr Michelle Deininger:
“Un o'r rhesymau rwy'n credu bod Dysgu Gydol Oes, yn ei holl weddau amrywiol, wedi bod yn gonglfaen i'r brifysgol ers cyhyd yw bod rhywbeth yn cael ei gynnig i bawb.
P'un a ydych chi am ddysgu gallu sgwrsio mewn Sbaeneg, dechrau ysgrifennu nofel, neu hyfforddi i fod yn nyrs — mae gennyn ni lwybr i chi. Mae cyfleoedd dysgu sydd wir yn rhai gydol oes yn ystyried bod gan bobl wahanol anghenion a diddordebau mewn gwahanol adegau o'u bywydau.
Dyma pam mae digwyddiadau fel y Seremoni Wobrwyo mor bwysig — i gydnabod cyflawniadau gwych ein myfyrwyr ac i ddathlu eu llwyddiannau, yn aml mewn amgylchiadau anodd.
Yn yr un modd, mae pawb sy'n gweithio yn Dysgu Gydol Oes yn gwneud hynny oherwydd eu bod yn angerddol am ddysgu oedolion, am y cyfleoedd y gall dosbarthiadau nos a chyrsiau byr yn ystod y dydd ddod â nhw, a'r drysau sy'n cael eu hagor wrth ddychwelyd i astudio.
Mae Gwobrau Addysgu a Chymorth i Fyfyrwyr Dysgu Gydol Oes yn rhoi cyfle i'n myfyrwyr, nad ydyn nhw wedi'u cynnwys ym mhrosesau enwebu gwobrau ehangach y brifysgol, i dynnu sylw at y gwaith ysblennydd y mae ein staff yn ei wneud i hyrwyddo dysgu gydol oes, yn yr ystafell ddosbarth a'r gymuned ehangach. Rwy'n falch iawn o'n myfyrwyr a'n staff.”