Ymchwilio i realiti rhithwir, chwilfrydedd a chof gofodol
3 Ebrill 2025

Mae realiti rhithwir wedi datgelu bod chwilfrydedd yn hollbwysig wrth lunio ein cof gofodol a ffurfio mapiau meddyliol, yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd a Royal Holloway, Prifysgol Llundain.
Gan ddefnyddio realiti rhithwir i annog pobl i archwilio ystafelloedd rhithwir, mae ymchwilwyr wedi datgelu am y tro cyntaf y berthynas rhwng newidiadau o’r naill foment i’r llall mewn chwilfrydedd a datblygu mapiau gwybyddol, sef creu cynrychioliadau meddyliol o amgylcheddau ffisegol.
Credwn fod mapiau gwybyddol, sy'n cynrychioli y byd o’n cwmpas yn feddyliol, yn deillio o'n chwilfrydedd i archwilio gofodau newydd. Fodd bynnag, nid oedd y berthynas uniongyrchol rhwng pa mor chwilfrydig ydyn ni am gyd-destun penodol a'r ffordd rydyn ni’n archwilio'r cyd-destun hwnnw wedi cael ei rhoi ar brawf o'r blaen.
Yn yr astudiaeth, archwiliodd y sawl a gymerodd ran 16 o ystafelloedd rhithwir gwahanol a ddyluniwyd i annog y broses o archwilio. Cawson nhw eu hannog i archwilio'r ystafelloedd heb gyfyngiadau amser.
Nodwyd lefelau eu chwilfrydedd mewn amser real o’r naill foment i’r llall gan sgorio eu chwilfrydedd cyn iddyn nhw fynd i mewn i'r ystafelloedd realiti rhithwir, a gofynnwyd iddyn nhw wedyn i gwblhau prawf cof i asesu eu cof gofodol.
Yn ôl yr ymchwilwyr, po fwyaf chwilfrydig roedd y bobl fwyaf yn teimlo cyn mynd i mewn i ystafell benodol, mwyaf yn y byd roedden nhw’n tueddu i’w harchwilio. Po fwyaf diddorol y canfuon nhw ystafell, mwyaf yn y byd oedd eu hymgysylltiad gweledol â'r ystafell. Ond roedd gan wahaniaethau unigol ran bwysig yn y ffordd roedd chwilfrydedd yn gysylltiedig ag archwilio gofodol.
Dyma a ddywedodd Dr Gruber: "Roedd pobl sy'n gallu trin straen yn dda ar y cyfan yn dangos effaith gryfaf chwilfrydedd ar y broses o archwilio. Byddai’r bobl hyn yn mynd ati i arfer eu chwilfrydedd, gan arwain at ragor o archwilio. Ond doedd pobl â goddefgarwch straen is ddim wedi arfer eu chwilfrydedd cymaint. Mae'r canfyddiadau hyn yn awgrymu bod gallu rhywun i ymdopi ag ansicrwydd yn cryfhau'r cysylltiad rhwng chwilfrydedd ac archwilio."
Mae chwilfrydedd yn sbarduno’r awydd i archwilio. Mae ein hymchwil yn datgelu rhywbeth cyffrous - mae cysur pobl i oddef ansicrwydd, lefelau eu goddefgarwch o ran straen, yn chwyddo grym chwilfrydedd i ysgogi’r broses o archwilio. Mae'r canfyddiadau hyn yn awgrymu ffyrdd newydd o ddylunio cyd-destunau sy'n annog pobl i gofleidio'r hyn sy’n anhysbys.
Po fwyaf chwilfrydig oedd y bobl, a pho fwyaf yr aethon nhw ati i archwilio cynllun yr ystafelloedd realiti rhithwir, mwyaf yn y byd oedd perfformiad tasg y cof.
Mae'r ymchwilwyr yn credu bod y canfyddiadau hyn yn taflu goleuni ar sut mae chwilfrydedd yn sbarduno’r awydd i archwilio ac yn ein helpu i lunio mapiau meddyliol o'r byd o'n cwmpas.
Dyma'r tro cyntaf i astudiaeth ddangos bod cyflyrau chwilfrydedd yn gwella archwilio gofodol a ffurfio mapiau meddyliol.
"Mae goblygiadau ymarferol ym maes pensaernïaeth, cynllunio trefol, amgueddfeydd a dylunio gemau o ganlyniad i ddeall dylanwad chwilfrydedd ar archwilio dynol. Drwy harneisio chwilfrydedd, gallwn ni annog mewn ffordd gadarnhaol y broses o archwilio a’r cof mewn cyd-destunau yn y byd go iawn neu rai rhithwir.
"Yn yr ymchwil hon, mae realiti rhithwir wedi ein galluogi i ehangu ein dealltwriaeth o sut y gall newidiadau o’r naill foment i’r llall mewn chwilfrydedd sefyllfaol lunio ein byd mewnol a’r ffordd rydyn ni’n canfod ac yn cofio ein byd allanol."
Dyma a ddywedodd Dr Carl Hodgetts, o Royal Holloway, Prifysgol Llundain: "Yr hyn sy'n arbennig o drawiadol am y canfyddiadau hyn yw nad oedden nhw dan ddylanwad lefel gyffredinol o chwilfrydedd, ond yn hytrach y ffordd roedd chwilfrydedd yn amrywio o’r naill foment i’r llall. Mae gan hyn oblygiadau cyffrous o ran dylunio gofodau yn y byd go iawn a chyd-destunau addysgol er mwyn sicrhau bod dysgu'n ddifyr ac yn sbarduno myfyrwyr."
Cyhoeddwyd yr ymchwil, Curiosity shapes spatial exploration and cognitive map formation in humans, yn Communications Communications Psychology.