Iaith a Llenyddiaeth Saesneg yng 100 uchaf y byd
25 Mawrth 2025

Mae’r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth wedi cael ei chydnabod unwaith eto am ragoriaeth yn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, gyda’r pwnc ymhlith y 100 uchaf yn y byd yn Rhestr QS ddiweddaraf o Brifysgolion Gorau’r Byd yn ôl Pwnc.
Mae’r safleoedd blynyddol, a gafodd eu cyhoeddi gan y dadansoddwyr addysg uwch byd-eang QS, yn darparu dadansoddiad cymharol annibynnol o berfformiad mwy na 18,300 o raglenni prifysgol unigol ledled y byd, ar draws 55 o ddisgyblaethau academaidd.
Mae QS yn defnyddio pum metrig allweddol i sgorio safleoedd y pynciau. Mae dangosyddion enw da yn seiliedig ar ymatebion mwy na 240,000 o gyflogwyr ac academyddion i arolygon QS, tra bod Nifer y Cyfeiriadau fesul Erthygl a Mynegai H yn mesur effaith ymchwil a chynhyrchiant. Caiff y Rhwydwaith Ymchwil Ryngwladol (IRN) ei ddefnyddio i asesu gwaith ymchwil ar y cyd trawsffiniol.
Mae’r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth yn enwog am ei hymchwil arloesol, ei haddysgu cynhwysol, a’i hymrwymiad i ragoriaeth academaidd. Mae'r safle ddiweddaraf hwn yn tynnu sylw at ddylanwad byd-eang yr Ysgol a llwyddiant parhaus ei staff a’i myfyrwyr i lunio addysgu Iaith a Llenyddiaeth Saesneg ledled y byd.