Cynhadledd flynyddol yn trin a thrafod y datblygiadau diweddaraf ym maes plismona a thrais yn erbyn menywod a merched
1 Ionawr 2025

Ym mis Rhagfyr cynhaliodd y Sefydliad Arloesi er Diogelwch, Troseddau a Chudd-wybodaeth eu cynhadledd flynyddol yn sbarc.
Gyda bron i 100 o gynrychiolwyr o bob cwr o'r DU yn bresennol, roedd y digwyddiad yn canolbwyntio ar yr heriau mawr sy'n wynebu plismona a chymunedau yn 2025.
Dechreuodd y digwyddiad gyda sylwadau agoriadol gan yr Athro Martin Innes, Cyd-gyfarwyddwr Arweiniol y Sefydliad, wrth iddo amlinellu rhai o'r newidiadau cymdeithasol a thechnolegol mawr sy'n effeithio ar waith y Sefydliad.
Rhoddodd y gwestai arbennig, Matt Jukes, Pennaeth Plismona Gwrthderfysgaeth, amlinelliad o waith ei dîm a natur newidiol Diogelwch Gwladol y DU.
Yr Athro Katrin Hohl OBE a oedd yn gyfrifol am y prif anerchiad. Aeth hi ati i fyfyrio ar ei rhan yn Ymgyrch Soteria Bluestone. Nod yr ymgyrch oedd symud i ffwrdd o ddulliau plismona traddodiadol mewn perthynas ag achosion o drais rhywiol ac ymosodiadau rhywiol, a hynny er mwyn cefnogi goroeswyr yn well a chynyddu cyfraddau cyhuddiadau o drais rhywiol.

Drwy gydol y dydd, cafodd cyfres o bapurau o rwydwaith y Sefydliad Arloesi er Diogelwch, Troseddau a Chudd-wybodaeth ei chyflwyno, gan gynnwys y rheiny sy'n derbyn cyllid sbarduno wedi’i ddyrannu gan y Sefydliad. Roedd y rhain yn cwmpasu pynciau megis gwrthryfeloedd adain dde eithafol, delweddu cleisiau ar wahanol arlliwiau croen a defnyddio Modelau Iaith Mawr i helpu â llunio polisi.
Cafodd cwestiynau gan y sawl a oedd yn bresennol eu hateb gan banel o arbenigwyr yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector gan gynnwys yr Athro Hohl, Sara Kirkpatrick, Prif Swyddog Gweithredol Cymorth i Ferched Cymru ac Ian Roberts, Prif Uwch-arolygydd, Plismona yng Nghymru. Hefyd, trafododd y panel yr heriau wrth fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched yn effeithiol.

Ynglŷn â’r Sefydliad Arloesi er Diogelwch, Troseddau a Chudd-wybodaeth
Cafodd y Sefydliad Arloesi er Diogelwch, Troseddau a Chudd-wybodaeth ei sefydlu yn 2015. Y Sefydliad Ymchwil Troseddau a Diogelwch oedd yr enw arno cyn hynny.
Mae eu harbenigedd yn cwmpasu troseddeg, cyfrifiadureg, cyfathrebu strategol a’r gwyddorau ymddygiadol, gyda diddordeb arbennig mewn galluogi cydweithio ar draws disgyblaethau academaidd a chymunedau sy’n rhannu’r un syniadau. Mae llawer o'u gwaith yn cael ei arwain gan heriau, gan gynllunio a sicrhau datblygiadau gwyddonol newydd drwy fynd i’r afael â phroblemau yn y byd go iawn.