Gweithio ar y cyd ag Ysgol Busnes Queen’s i gynnig profiad dysgu ymdrochol ar y MSc Rheoli Adnoddau Dynol
25 Mawrth 2025

Yn ddiweddar, aeth myfyrwyr o raglen MSc Rheoli Adnoddau Dynol (HRM) Ysgol Busnes Caerdydd ar daith breswyl pedwar diwrnod i Belfast, gan gryfhau eu dealltwriaeth o waith a chyflogaeth yn y cyd-destun datganoledig.
Cafodd y daith ei chynnal rhwng 4 a 7 Mawrth 2025, gan nodi partneriaeth newydd gyffrous ag Ysgol Busnes Queen’s. Datblygwyd y daith gan Gyfarwyddwyr y Rhaglen MSc Rheoli Adnoddau Dynol yn y ddwy ysgol, Dr Ruth Reaney (Ysgol Busnes Queen’s) a Dr Toma Pustelnikovaite (Ysgol Busnes Caerdydd). Daeth y bartneriaeth â myfyrwyr, academyddion a gweithwyr proffesiynol y diwydiant ynghyd i gael profiad dysgu ymdrochol.
Trin a thrafod gwahaniaethau rhanbarthol
Dros gyfnod o ddau ddiwrnod ym Mhrifysgol Queen's Belfast, bu myfyrwyr yn trin a thrafod y ffordd mae gwahaniaethau rhanbarthol yn dylanwadu ar farchnadoedd llafur, polisïau cyflogaeth, a hawliau gweithwyr. Roedd siaradwyr arbenigol, gan gynnwys yr Athro Jean Jenkins (Ysgol Busnes Caerdydd) a Dr Anne Devlin (Sefydliad Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol Iwerddon), wedi cynnig cipolwg gwerthfawr i’r ffactorau cymdeithasol, economaidd a deddfwriaethol sy’n dylanwadu ar swyddi yng Nghymru a Gogledd Iwerddon.
Mewn trafodaethau grŵp bywiog, roedd myfyrwyr wedi dadansoddi astudiaethau achos ar heriau ym maes cyflogaeth mewn gwledydd datganoledig a thrafod sut y gall rheolwyr AD addasu i wahanol gyd-destunau.
“Y daith breswyl yw un o uchafbwyntiau’r rhaglen MSc mewn Rheoli Adnoddau Dynol. Mae'n rhoi cyfle i fyfyrwyr ddod i adnabod ei gilydd, defnyddio’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu mewn cyd-destunau o’r byd go iawn trwy amrywiaeth o ymarferion, a datblygu eu parodrwydd ar gyfer gyrfaoedd ym maes AD."
..."Eleni, roedden ni wrth ein bodd yn cael gweithio ar y cyd ag Ysgol Fusnes Queen’s, a chynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr drin a thrafod sut mae cyd-destun yn llywio gwaith a chyflogaeth wrth feithrin perthnasoedd parhaol gyda chyd-fyfyrwyr Rheoli Adnoddau Dynol, academyddion a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant yn Belfast.”
Datblygu sgiliau AD allweddol
Dim ymdrin â theori yn unig oedd bwriad y daith. Roedd yn brofiad ymarferol gyda’r bwriad o gryfhau cymwyseddau allweddol mewn AD at ddibenion gyrfaoedd myfyrwyr yn y dyfodol.
Roedd gweithgaredd “Proffil Rheolwr AD y Dyfodol” yn uchafbwynt, lle bu timau yn creu cyflwyniadau ar rôl esblygol AD, gan dderbyn adborth arbenigol gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant.
Bu myfyrwyr hefyd yn cymryd rhan mewn ymarfer trafod a pherswadio diddorol dan arweiniad yr Athro Niall Cullinane (Ysgol Busnes Queen’s) a'r Athro Deborah Hann (Ysgol Busnes Caerdydd), gan ddysgu technegau ymarferol i ymdrin â gwrthdaro yn y gweithle a thrafodaethau cymhleth.

Rhwydweithio a phrofiad cyfnewid diwylliannol
Roedd gweithgareddau cymdeithasol, gan gynnwys rhwydweithio anffurfiol gyda myfyrwyr Prifysgol Queen’s a dysgu am hanes cyfoethog Belfast, wedi ychwanegu at y profiad. Cafodd y myfyrwyr fwynhad arbennig o ddysgu am sefyllfa ddiwylliannol a gwleidyddol Gogledd Iwerddon a'r effaith barhaol mae’n ei chael ar gyflogaeth.
Roedd y daith wedi ehangu safbwyntiau myfyrwyr, yn ogystal â gwella eu rhwydweithiau proffesiynol. Dywedodd un myfyriwr: “Mwynheais yn fawr y cyfle i gydweithio a rhwydweithio ag academyddion a chyd-fyfyrwyr ym Mhrifysgol Queen’s.”
Soniodd myfyriwr arall am y cysylltiadau personol a wnaeth: “Roedd cael y cyfle i greu atgofion gyda fy nghyd-fyfyrwyr a phrofi diwylliant Belfast yn uchafbwynt personol i fi.”
Dysgwch ragor am y MSc mewn Rheoli Adnoddau Dynol.