Ewch i’r prif gynnwys

Dinoethi masnach anghyfreithlon tsimpansïaid o Guinea-Bissau sy’n anifeiliaid anwes

24 Mawrth 2025

Tsimpansî yn y goedwig

Yn ôl gwyddonwyr, mae masnach anghyfreithlon tsimpansïaid byw yn Guinea-Bissau yn fwy cyffredin nag y mae'r data cyfredol yn ei ddangos, a hwyrach bod hyn yn ffactor pwysig sy'n cyfrannu at y dirywiad yn nifer y tsimpansïaid.

Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Porto, Prifysgol Caerdydd ac IBAP (asiantaeth genedlaethol rheoli bioamrywiaeth ac ardaloedd gwarchodedig Guinea-Bissau), yn helpu i ddeall masnach anghyfreithlon tsimpansïaid o Guinea-Bissau, ac mae gwyddonwyr a chadwraethwyr cenedlaethol yn argymell camau a allai wella problem y fasnach anghyfreithlon o'r wlad.

Guinea-Bissau yw cartref 5-6% o boblogaeth fyd-eang tsimpansïaid gorllewinol, sef primat sydd mewn perygl difrifol, ond ychydig a wyddys am fasnach y rhywogaeth yno.

Dyma a ddywedodd Dr Maria Joana Ferreira da Silva, Prifysgol Porto ac Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd: "Mae nifer sylweddol o tsimpansïaid yn Guinea-Bissau, ac o ystyried y risg o ddifodiant mae’r tsimpansî gorllewinol yn ei hwynebu, mae mynd i'r afael â masnach anghyfreithlon tsimpansïaid o frys dybryd.

Yn ein hymchwil, aethon ni ati i gasglu’r wybodaeth bresennol i dynnu sylw at fylchau gwybodaeth perthnasol er mwyn wedyn awgrymu camau rheoli i fynd i'r afael â'r mater cadwraeth brys hwn.
Dr Maria Joana Ferreira da Silva, Prifysgol Porto ac Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd

Mae poblogaeth amcangyfrifedig tsimpansïaid yn Guinea-Bissau yn amrywio rhwng 923 a 6,121. Mae maint y boblogaeth yn dirywio oherwydd colli cynefinoedd, hela a throsglwyddo afiechydon. Mae union nifer y tsimpansïaid a gyflenwir ar gyfer y fasnach ryngwladol yn anhysbys o hyd.

Mae data blaenorol yn dangos i fwy na 643 o tsimpansïaid gorllewinol gael eu masnachu yn fyd-eang rhwng 2005 a 2011. Yn ogystal, rhwng 2016 a 2020, mae’n debyg i 153 o tsimpansïaid, yn bennaf o'r isrywogaeth orllewinol, gael eu masnachu'n rhyngwladol.

Yn 2023, canfuwyd bod Guinea-Bissau yn ffynhonnell a gadarnhawyd mewn llwybrau masnachu anghyfreithlon, gan allforio tsimpansïaid yn benodol i’r wlad gyfagos, sef Gweriniaeth Gini.

Yn bennaf, gwerthir y tsimpansïaid sy’n cael eu masnachu yn anifeiliaid anwes i gartrefi preifat a gwestai.
Weithiau, bydd y fasnach anghyfreithlon yn golygu lladd 5–10 o tsimpansïaid sy’n oedolion i ddal un baban, gan effeithio'n sylweddol ar niferoedd y boblogaeth.

Dyma a ddywedodd Dr Ferreira da Silva: "Peth cyffredin yw i'r tsimpansïaid sy'n cael eu masnachu'n anghyfreithlon gael eu cadw wedyn yn anifeiliaid anwes o dan amodau annigonol, gan ddioddef ansawdd bywyd gwael, a bod hyn yn achosi iddyn nhw farw'n gymharol ifanc. Mae eu dal hefyd yn gysylltiedig â marwolaeth aelodau ei deulu, gan fod yr helwyr yn lladd y mamau ac unigolion eraill ac yn gwerthu babanod. Bydd llawer iawn o brimatiaid eraill hefyd yn cael eu masnachu’n anifeiliaid anwes yn y wlad, fel yn achos mwncïod Patas.

Cofnodon ni 18 achos o tsimpansïaid a oedd yn anifeiliaid anwes, a hwyrach bod hyn wedi arwain at farwolaeth 90–180 o oedolion o leiaf.
Dr Maria Joana Ferreira da Silva, Prifysgol Porto ac Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd

"Dyma destun pryder mawr, gan fod lladd 90–180 o tsimpansïaid gyfystyr hwyrach â hyd at 20% o nifer y tsimpansïaid yn Guinea-Bissau.
Mae'r ymchwilwyr o'r farn bod masnach anghyfreithlon tsimpansïaid yn Guinea-Bissau yn debygol o fod yn fwy cyffredin nag y mae'r data cyfredol yn ei ddangos, ac mae heriau sylweddol o ran ffrwyno'r arfer hwn yn effeithiol.

Mae'r ymchwil yn tynnu sylw at heriau gorfodi'r gyfraith, gan gynnwys diffyg personél hyfforddedig, cyfarpar a gwasanaethau milfeddygol bywyd gwyllt. Mae'r astudiaeth hefyd yn pwysleisio deddfwriaeth annigonol yn ogystal â chosbau mewn arian cyfred nad yw bellach yn bodoli a deddfwriaeth sy’n defnyddio cosbau na ellir eu gorfodi, sef oddeutu € 5,000. Mae’r rhan fwyaf o boblogaeth Guinea-Bissau yn byw ar lai na dwy ddoler UDA y dydd.

Tynnwyd sylw hefyd at ddiffyg gwarchodfeydd neu ganolfannau adsefydlu yn Guinea-Bissau yn broblem yn yr astudiaeth, sy'n golygu nad oes canolfannau yn y wlad i gartrefu tsimpansïaid atafaeledig neu fywyd gwyllt arall a bod yr awdurdodau'n amharod i orfodi’r rheoliadau.

Mae'r ymdrechion presennol i adleoli tsimpansïaid atafaeledig i warchodfeydd dramor yn gostus ac yn gymhleth, ac mae'r ymchwilwyr yn poeni nad yw hyn yn ateb hirdymor cynaliadwy.

Mae diffyg rheoli’r ffiniau hefyd yn golygu ei bod yn weddol rhwydd smyglo yn Guinea-Bissau.

Ni ddaethpwyd o hyd i’r un tsimpansî o Guinea-Bissau yn swyddogol wrth atafael anifeiliaid ar y lefel ryngwladol. Mae hyn yn awgrymu bodolaeth llwybrau masnachu heb eu canfod y mae angen mynd i'r afael â nhw ar frys, yn ôl y tîm ymchwil.

Ychwanegodd Dr Ferreira da Silva: "Mae angen cryfhau gorfodi’r gyfraith drwy ddiweddaru’r ddeddfwriaeth a sicrhau cosbau clir a gorfodadwy, yn ogystal â hyfforddi swyddogion y farnwriaeth a'r ffiniau i ganfod a rheoleiddio troseddau bywyd gwyllt. Bydd gwella cydweithio rhwng asiantaethau cenedlaethol a rhyngwladol yn helpu i frwydro yn erbyn masnachu bywyd gwyllt.

"Mae'n hollbwysig bod atebion yn y wlad yn cael eu datblygu ar y cyd â gwarchodfeydd lleol i ofalu am anifeiliaid atafaeledig.

Mae codi ymwybyddiaeth am y peryglon ynghlwm wrth gynnal bywyd gwyllt yn fater brys i leihau'r galw am anifeiliaid anwes sy’n brimatiaid.
Dr Maria Joana Ferreira da Silva, Prifysgol Porto ac Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd

"Mae gofyn inni gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd yn Guinea-Bissau a ledled y byd, yn ogystal â chynyddu’r ymwybyddiaeth o effaith cadw tsimpansïaid yn anifeiliaid anwes er budd eu lles a'r risgiau cysylltiedig, ond hefyd oherwydd yr effeithiau ehangach ar y gwaith o sicrhau eu niferoedd. Mae'r tsimpansî gorllewinol mewn perygl difrifol o ddifodiant gan fod un tsimpansî sy’n anifail anwes yn gysylltiedig â marwolaeth llawer ohonyn nhw.”

Cefnogwyd yr ymchwil, ‘The Illegal Trade in Live Western Chimpanzees (Pan troglodytes verus) in Guinea-Bissau and Proposed Conservation Management Actions’, gan Gronfa Gadwraeth Sw Caer, Sefydliad Born Free, Cronfa Gadwraeth Rhywogaethau Mohamed bin Zayed, Primate Conservation Incorporated, Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Portiwgal, Banc y Byd a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.