Llunio'r ecosystem greadigol yng Nghymru
24 Mawrth 2025

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi creu offeryn i bobl greadigol, gweithwyr llawrydd a chwmnïau uchelgeisiol sydd eisiau gwneud busnes yng Nghymru.
Mae Atlas Economi Greadigol Cymru gan Ganolfan yr Economi Greadigol, yn dilyn prototeip cynharach a grëwyd yn 2020 yn rhan o raglen ymchwil a datblygu Clwstwr (2018-2023) gwerth £4m a ariannwyd gan yr AHRC.
Yn 2023-2024, aeth Canolfan yr Economi Greadigol ati i ddiweddaru’r Atlas a’i ehangu gyda chymorth Cymru Greadigol a Media Cymru.
Gan ddefnyddio data a gyfunwyd o sawl ffynhonnell, mae'r “Atlas Creadigol” yn rhoi darlun daearyddol unigryw o ecosystem greadigol Cymru. Mae'r map rhyngweithiol yn caniatáu i ymwelwyr bori drwy naw sector creadigol gwahanol a naw math o le creadigol. Ar ben hynny, mae’n mapio mathau eraill o rwydweithiau creadigol ledled Cymru.
Caiff ymwelwyr edrych yn fanylach ar ranbarthau a chodau post penodol drwy chwyddo’r ddelwedd, neu ei ddadchwyddo i gael syniad o ble mae gweithgarwch creadigol yn digwydd ledled Cymru. Yn ôl ymchwilwyr Canolfan yr Economi Greadigol, yr Atlas newydd hwn yw'r mwyaf cynhwysfawr o'i fath yn y DU, gan helpu i chwalu seilos data ecosystem greadigol Cymru er mwyn rhoi darlun cyflawn a manwl gywir o ddiwydiannau creadigol Cymru.
Bydd yr Atlas Creadigol yn parhau i ehangu ac ymgorffori unrhyw data newydd a ddaw i’r fei. Canolfan yr Economi Greadigol, gyda chymorth 4Global, sy’n rheoli cartref ar-lein yr Atlas.
Dyma a ddywedodd yr Athro Marlen Komorowski, Uwch-gymrawd Ymchwil Media Cymru: “Yng Nghanolfan yr Economi Greadigol, daethon ni i ddeall pa mor bwysig yw’r diwydiannau creadigol o ran ysgogi twf yng Nghymru. Ond serch hynny, oherwydd diffyg data hygyrch, nid yw hyn yn cael ei werthfawrogi o hyd i raddau helaeth.”
“Mae cymaint o arloesi, talent a gweithgarwch yn digwydd yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru, ond yn aml bydd y straeon anhygoel hyn heb eu hadrodd. Yr Atlas Creadigol yw ein hymateb ni i'r her hon, sef platfform unigol a hygyrch i chwalu seilos data a dangos y gwaith anhygoel sy'n cael ei wneud. Mae hefyd yn cynnig adnodd ymarferol i’r sector amlygu’r mannau busnes, dod o hyd i gyfleoedd hyfforddi neu gael gwybod am brosiectau sy’n ysbrydoli pobl.”
Ariannwyd yr Atlas Creadigol newydd yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.
Dyma a ddywedodd Joedi Langley, Pennaeth Dros Dro Cymru Greadigol: “Gwych o beth yw gweld yr Atlas Creadigol yn cael ei lansio, sef casgliad o adnoddau hanfodol lle mae modd cael gafael ar wybodaeth hollbwysig mewn un lle. Yn ogystal â chynnwys data gwerthfawr, mae hefyd yn adnodd defnyddiol i weithwyr creadigol a llawrydd yn ogystal â darpar gwmnïau y dyfodol sydd eisiau gwneud busnes yng Nghymru. Bydd yn parhau i ehangu a gwella dros amser, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ei rannu â'n rhanddeiliaid.”
Rhannu’r stori hon
Ymunwch â'n rhwydwaith ar gyfer cymuned greadigol y brifddinas.