Prifysgol Caerdydd yn arwain ymdrechion i fynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern mewn busnesau bach a chanolig yn y diwydiant creadigol
24 Mawrth 2025

Mae ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd wedi cymryd cam sylweddol ymlaen i frwydro yn erbyn risgiau caethwasiaeth fodern ym musnesau bach a chanolig (BBaChau) y diwydiant creadigol yng Nghymru.
Yn rhan o’r prosiect Caethwasiaeth Fodern a BBaChau, fe wnaeth academyddion gynnal grŵp ffocws a sesiwn hyfforddi, gan ddod â’r diwydiant, y byd academaidd a llunwyr polisïau o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd ynghyd.
Roedd y digwyddiad, wedi’i ariannu gan Medr a’i gefnogi gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd a Media Cymru, yn trin a thrafod sut y gall busnesau bach gryfhau arferion busnes moesegol a mynd i’r afael â risgiau camfanteisio.
Dan arweiniad Dr Maryam Lotfi a Dr Anna Skeels o Grŵp Ymchwil Caethwasiaeth Fodern a Chynaliadwyedd Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, mewn cydweithrediad â Dr Marian Buhociu o Brifysgol De Cymru, sbardunodd y sesiwn drafodaethau agored yn seiliedig ar atebion ar yr heriau a’r cyfleoedd y mae BBaChau yn eu hwynebu wrth liniaru risgiau caethwasiaeth fodern.
Ymhlith yr uchafbwyntiau roedd
- trafod cyfrifoldebau moesegol a chyfreithiol BBaChau y diwydiant creadigol.
- trin a thrafod strategaethau ymarferol i gryfhau arferion busnes moesegol.
- ymgysylltu â phartneriaid allweddol sydd wedi ymrwymo i fynd i’r afael â chamfanteisio a gwella cynaliadwyedd cymdeithasol yn y sector.
“Roedd y sesiwn hon yn gyfle ysbrydoledig i ymgysylltu ag arweinwyr y diwydiant ac arbenigwyr sydd wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth. Bydd y sgyrsiau a gawson ni heddiw yn llywio camau gweithredu ystyrlon tuag at arferion busnes moesegol a chyfrifol yng Nghymru.”
Wrth i’r prosiect symud yn ei flaen, mae Prifysgol Caerdydd a’i phartneriaid yn parhau i fod yn ymroddedig i droi’r trafodaethau hyn yn effaith wirioneddol, gan atgyfnerthu rôl y Brifysgol yn arweinydd mewn mentrau cynaliadwyedd cymdeithasol a gwrth-gaethwasiaeth.
Dyma ragor o wybodaeth am y Grŵp Ymchwil Caethwasiaeth Fodern a Chynaliadwyedd Cymdeithasol.