Marchnata yn Ysgol Busnes Caerdydd ymhlith y 100 uchaf yn fyd-eang
24 Mawrth 2025

Mae Ysgol Busnes Caerdydd wedi’i chydnabod yn arweinydd byd-eang ym maes marchnata, gan gael lle ymhlith y 100 uchaf ar Restr QS o Brifysgolion Gorau’r Byd yn ôl Pwnc 2025.
Mae'r rhestr QS, sy’n cael ei chyhoeddi’n flynyddol, yn asesu dros 18,300 o raglenni prifysgolion o 1,700 o sefydliadau ledled y byd ar gyfer 55 o ddisgyblaethau pwnc.
Maen nhw’n ffordd allweddol o fesur llwyddiant byd-eang ar gyfer addysg uwch, gan werthuso prifysgolion yn seiliedig ar enw da academaidd, canfyddiad cyflogwyr, ac effaith ymchwil.
Meddai’r Athro Tim Edwards, Deon a Phennaeth Ysgol Busnes Caerdydd: “Rydyn ni’n hynod falch o gael ein cydnabod ymhlith y gorau yn y byd ar gyfer marchnata. Mae’r safle hwn yn adlewyrchu ein henw da ar lefel fyd-eang, yn ogystal ag ymdrechion rhagorol ein staff a'n myfyrwyr. Mae ein hymroddiad i ymchwil flaengar, addysgu arloesol, ac ymgysylltu â diwydiant yn sicrhau ein bod yn cynnig profiad dysgu o’r radd flaenaf.
Yn Ysgol Busnes Caerdydd, rydyn ni wedi ymrwymo i roi’r wybodaeth, y sgiliau, a’r profiad byd go iawn sydd eu hangen ar ein myfyrwyr i ffynnu mewn tirlun marchnata sy’n datblygu’n gyflym. Mae’r safle hwn yn ailddatgan bod ein graddedigion ymhlith y rhai y mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw fwyaf yn fyd-eang, a byddwn ni’n parhau i adeiladu ar y llwyddiant hwn.”
Rhagor o wybodaeth am ein rhaglenni marchnata
Israddedig
Ôl-raddedig