Ewch i’r prif gynnwys

Arbenigwyr Ysgol Busnes Caerdydd yn helpu i ysgogi newid mewn cyflogaeth anabledd

21 Mawrth 2025

A woman in a wheelchair in a job interview smiling and shaking someone's hand

Mae academyddion o Ysgol Busnes Caerdydd wedi chwarae rhan allweddol wrth lunio adroddiad pwysig gan Lywodraeth Cymru ar fynd i’r afael â’r bwlch cyflogaeth anabledd.

Mae Os yw’r Gefnogaeth yn Gywir, Amdani!: Mynd i’r Afael â’r Bwlch Cyflogaeth Anabledd yn ymchwilio i’r rhwystrau y mae gweithwyr anabl yn eu hwynebu yng Nghymru. Mae’n tynnu sylw at yr angen dybryd i wella cyfleoedd gwaith, cymorth i gyflogwyr, ac arweinyddiaeth yn y sector cyhoeddus i sicrhau bod pobl anabl yn gallu cael swyddi o safon a ffynnu ynddyn nhw.

Er gwaethaf rhywfaint o gynnydd - mae bwlch cyflogaeth anabledd Cymru wedi lleihau o 35.4 pwynt canran yn 2015 i 30.9 yn 2024 - mae'r adroddiad yn rhybuddio bod newid yn digwydd yn rhy araf.

Mae’n galw am amddiffyniadau cyfreithiol cryfach, gwell canllawiau i gyflogwyr, a mesurau rhagweithiol i droi ymrwymiadau polisi yn gamau gweithredu ystyrlon, gan gynnwys cyhoeddi Cynllun Gweithredu Hawliau Anabledd ac ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yng nghyfraith Cymru.

Cyfraniad Ysgol Busnes Caerdydd

Fe wnaeth academyddion Ysgol Busnes Caerdydd gynnig syniadau allweddol a luniodd ganfyddiadau’r adroddiad, yn enwedig o ran agweddau cyflogwyr, heriau o ran recriwtio, ac ymyriadau polisi.

Chwaraeodd yr Athro Debbie Foster rôl ganolog wrth agor yr ymchwiliad yn Gyd-gadeirydd Tasglu Hawliau Anabledd Llywodraeth Cymru. Tynnodd sylw at yr heriau parhaus y mae gweithwyr anabl yn eu hwynebu a phwysigrwydd ymgorffori hawliau anabledd yng nghyfraith Cymru, gan nodi:

“Mae pobl anabl yng Nghymru wedi ymgyrchu’n galed iawn dros nifer o flynyddoedd i gael cydnabyddiaeth bod angen ymgorffori’r darn hwn o gyfraith yng nghyfraith Cymru.”
Yr Athro Deborah Foster Professor of Employment Relations and Diversity

Cyfrannodd Ruth Nortey, myfyriwr PhD, dystiolaeth o’i hymchwil i effeithiolrwydd cynllun Hyderus o ran Anabledd y DU a’r potensial ar gyfer nod barcud i gyflogwyr yng Nghymru er mwyn gwella cynwysoldeb yn y gweithle.

Pwysleisiodd yr Athro Melanie Jones a’r Athro Victoria Wass bwysigrwydd data wrth ysgogi newid polisi, gan alw am adroddiadau mwy cyson a chywir ar anabledd yn y gweithlu. Pwysleisiodd yr Athro Jones y byddai casglu data’n well yn caniatáu cymariaethau ystyrlon dros amser ac ar draws sefydliadau, gyda’r llywodraeth yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau tryloywder.

Mae'r adroddiad hefyd yn amlygu rôl hollbwysig cyflogwyr wrth gau'r bwlch cyflogaeth. Dadleuodd yr Athro Victoria Wass fod ymdrechion y gorffennol wedi rhoi gormod o bwyslais ar gymell pobl anabl i mewn i waith yn hytrach na mynd i’r afael â chyfrifoldebau cyflogwyr:“ Os nad yw cyflogwyr yn cyflogi, mae’r hyn y gallwch chi ei wneud yn gyfyngedig iawn… mae angen i ni sicrhau bod polisi’n canolbwyntio ar yr hyn sy’n digwydd gyda’r cyflogwyr.”

Darllenwch yr adroddiad llawn.

Rhannu’r stori hon