Prifysgol Caerdydd ymhlith goreuon y Byd
21 Mawrth 2025

Mae Prifysgol Caerdydd wedi’i chydnabod yn un o brifysgolion gorau’r byd gyda 36 o’i phynciau yn y 200 uchaf yn fyd-eang mewn tabl cynghrair dylanwadol.
Mae Rhestr QS o Brifysgolion Gorau'r Byd yn ôl Pwnc yn darparu dadansoddiad cymharol annibynnol o berfformiad mwy na 18,300 o raglenni prifysgol unigol ledled y byd, ar draws 55 o ddisgyblaethau academaidd.
O blith 36 pwnc y Brifysgol sydd wedi cyrraedd y 200 uchaf, mae saith yn y 100 uchaf yn y byd:
- Deintyddiaeth
- Cyfathrebu ac Astudiaethau’r Cyfryngau
- Cymdeithaseg
- Iaith a Llenyddiaeth Saesneg
- Pensaernïaeth / Yr Amgylchedd Adeiledig
- Daearyddiaeth
- Marchnata
Mae dau o'r rheiny - Deintyddiaeth, ac Astudiaethau Cyfathrebu a'r Cyfryngau - yn y 50 uchaf yn y byd.
Mae QS yn defnyddio pum metrig allweddol i sgorio safleoedd y pynciau. Mae dangosyddion enw da yn seiliedig ar ymatebion mwy na 240,000 o gyflogwyr ac academyddion i arolygon QS, tra bod Dyfyniadau fesul Papur a Mynegai H yn mesur effaith ymchwil a chynhyrchiant. Caiff y Rhwydwaith Ymchwil Ryngwladol (IRN) ei ddefnyddio i asesu gwaith ymchwil ar y cyd trawsffiniol.
Meddai’r Is-Ganghellor, yr Athro Wendy Larner: “Mae’n wych gweld amrywiaeth o feysydd pwnc y Brifysgol yn cael eu cydnabod a hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o ddatblygu a chyflwyno’r cyrsiau hyn.”
Rydyn ni’n gwybod bod ein hymchwil yn cael effaith ac mae ein cymuned yn llawn unigolion dawnus, ymroddedig. Mae’r canlyniadau hyn yn cadarnhau hynny ac yn cydnabod ein hymrwymiad i addysg ac ymchwil o’r radd flaenaf.