Rhagoriaeth wedi'i hamlygu yn Rhestr QS o Brifysgolion Gorau’r Byd
19 Mawrth 2025

Yn Rhestr QS o Brifysgolion Gorau’r Byd yn ôl Pwnc 2025, mae’r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant ymhlith y 50 ysgol orau yn y byd ar gyfer astudiaethau cyfathrebu a’r cyfryngau.
Nod y rhestr a gyhoeddir yn flynyddol yw helpu darpar fyfyrwyr i nodi'r prifysgolion mwyaf blaenllaw mewn pwnc penodol. Mae’r rhestr yn defnyddio data cyfeirnodi ymchwil, ynghyd â chanlyniadau arolygon ledled y byd o gyflogwyr ac academyddion, i restru prifysgolion. Eleni, mae dros 250 o sefydliadau wedi’u cynnwys yn y rhestr.
Dywedodd Dr Matt Walsh, Pennaeth yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant: “Dyma gyflawniad rhyfeddol arall i’r Ysgol, ac mae’n wych gweld ein rhagoriaeth mewn addysgu ac ymchwil yn cael ei chydnabod ledled y byd.
“Mae’r Ysgol wedi perfformio’n dda yn Rhestr QS o Brifysgolion Gorau'r Byd mewn blynyddoedd blaenorol, gan gael ei gosod yn gyson ymhlith y 50 ysgol orau, ac mae’n dyst i’n staff ymroddedig sy’n gweithio mor galed i roi’r profiad gorau posibl i’n myfyrwyr yn ystod eu hamser gyda ni.
“Rydyn ni’n gobeithio y bydd y canlyniad hwn yn ailddatgan y bydd dewis astudio ym Mhrifysgol Caerdydd yn arwain at gael addysg o’r safon uchaf.”