Ewch i’r prif gynnwys

Bydd partneriaeth newydd yn amddiffyn diwydiannau allweddol rhag ymosodiadau seiber

20 Mawrth 2025

Llun o bump o bobl yng Nghanolfan Ymchwil Seiberddiogelwch Prifysgol Caerdydd i nodi partneriaeth newydd rhwng y Brifysgol ac Amentum.
O’r chwith i’r dde: Matthew Morgan, Cyfarwyddwr Grŵp Amentum; yr Athro Pete Burnap, Prifysgol Caerdydd; Gwen Clavon, Uwch Is-lywydd Diogelwch Data a Dadansoddeg Amentum; Matthew Turner, Pennaeth Gweithrediadau, Canolfan Arloesi Seiber Cymru; a Chris Hamilton, Is-lywydd Diogelwch Systemau ac Arloesi Amentum.

Bydd partneriaeth newydd yn sicrhau diogelwch seiber uwch, gan helpu diwydiannau i addasu i’r bygythiadau a’r cyfleoedd yn y byd digidol rhyng-gysylltiedig.

Mae Prifysgol Caerdydd ac Amentum, yr arweinydd byd-eang ym maes peirianneg uwch a datrysiadau technoleg arloesol wedi dod at ei gilydd i gyflwyno cyrsiau uwchsgilio ymarferol ar hanfodion hylendid seiber yn ogystal â diogelwch systemau rheoli diwydiannol uwch.

Mae Prifysgol Caerdydd, yn dilyn mewnbwn ac arweiniad Amentum, wedi datblygu cyfleusterau labordy arbenigol i brofi gwendidau systemau, a hynny’n ddiogel ac yn sicr.

Mae eu deunyddiau dysgu, eu cynnwys a’r cynlluniau arbrawf yn benllanw misoedd lawer o gydweithio rhwng y partneriaid academaidd a diwydiannol, gan gyfuno ysgolheictod a phrofiad ymarferol o’r byd go iawn yn y marchnadoedd Seilwaith Cenedlaethol Hanfodol megis ffyrdd, rheilffyrdd, ynni a thelathrebu.

Dyma a ddywedodd yr Athro Burnap, Cyfarwyddwr y Ganolfan Seiber Arloesi ym Mhrifysgol Caerdydd a Chyd-gyfarwyddwr Sefydliad Arloesi er Trawsnewid Digidol y Brifysgol: “Credwn fod gan Gaerdydd a’r rhanbarth o amgylch y Brifddinas gyfoeth helaeth o ragoriaeth ym maes datblygu seiberddiogelwch a all hybu gwytnwch mentrau byd-eang.”

Mae uno dotiau addysg, ymchwil a byd diwydiant â’i gilydd yn ein symbylu’n fawr ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at y bartneriaeth ag Amentum a’r ffocws dyfnach ar drawsnewid digidol gwydn.

Yr Athro Pete Burnap Lecturer

Mae Prifysgol Caerdydd yn cael ei chydnabod gan brif awdurdod technegol y DU, y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, yn Ganolfan Rhagoriaeth Academaidd ym maes ymchwil ac addysg.

Mae’r Brifysgol yn arwain Canolfan Arloesi Seiber Cymru sy’n dod â’r byd academaidd a byd busnes at ei gilydd i sicrhau rhagoriaeth wrth ddatblygu seiberddiogelwch i hyrwyddo byd seiberddiogelwch.

Mae tîm seiber a digidol tra medrus Amentum, y mae llawer o’r rhain yn gweithio yng Nghaerdydd, yn ehangu i ateb y galw cynyddol ledled y DU ac yn fyd-eang.

Dyma a ychwanegodd Matthew Morgan, Cyfarwyddwr Grŵp Amentum: “Mae llawer o ddiwydiannau wedi amddiffyn eu hunain hyd yn hyn drwy beidio â chysylltu rhai ardaloedd sensitif o’u gweithrediadau â’r rhyngrwyd, a hynny’n fwriadol.”

Fodd bynnag, nid yw hyn bellach yn ymarferol gan fod hyn yn gwadu’r cyfle iddyn nhw ddadansoddi data at ddibenion cynnal a chadw rhagfynegi a rheoli asedau’n ddeallus, er enghraifft. Mae cysylltu’r cyfan â’r rhyngrwyd yn golygu eu bod yn cynyddu’r risg o ymosodiadau seiber, felly mae gofyn iddyn nhw hyfforddi eu pobl i ymdopi yn y cyd-destun newydd hwn.

Matthew Morgan Cyfarwyddwr Grŵp Amentum

Y rhan o’r bartneriaeth, sydd bellach wedi hen ddechrau, bu’r Athro Burnap a Mr Morgan yn ymweld â Siapan yn ddiweddar.

Yno, eu nod yw sefydlu cynnig datblygu seiber rhyngwladol yn Tokyo i gefnogi cytundeb Hiroshima, sef prosiect ar y cyd rhwng llywodraethau’r DU a Siapan.