Ewch i’r prif gynnwys

Ymgynghoriad Ein Dyfodol Academaidd - y newyddion diweddaraf

18 Mawrth 2025

A close up of an old stone brick building.

Darllenwch neges gan Nicola Innes, Rhag Is-Ganghellor Dros Dro, ar gyfer Addysg a Phrofiad Myfyrwyr a anfonwyd at fyfyrwyr ar 18 Mawrth.

Gan fod hwn yn gopi o e-bost a anfonwyd i fyfyrwyr, mae'r dolenni o fewn yr e-bost ar fewnrwyd y myfyrwyr, felly mae angen mewngofnodi i gael mynediad.

Annwyl fyfyriwr,

Yr wythnos hon rydyn ni hanner ffordd trwy ein hymgynghoriad ar gynigion i lunio ein Dyfodol Academaidd. Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, rwyf wedi cyfarfod â llawer ohonoch chi mewn Fforymau Trafod, cyfarfodydd a digwyddiadau i glywed eich adborth ac ateb eich cwestiynau.

Gallwch chi ddod o hyd i'r holl gyfarfodydd a digwyddiadau sy’n ymwneud â’r ymgynghoriad ar fewnrwyd y myfyrwyr ynghyd ag atebion i'ch cwestiynau mwyaf poblogaidd.

Y camau nesaf

Rwy’n ymwybodol bod llawer ohonoch chi wedi bod yn poeni am golli staff yn eich Ysgolion. Wrth i ni symud i ail hanner y cyfnod ymgynghori, mae gwaith eisoes wedi’i wneud i ddeall goblygiadau’r cynigion presennol i’n staff. Byddwn ni’n gallu dechrau rhoi gwybod i staff nad ydyn nhw bellach yn wynebu’r risg o ddileu eu swydd, a symud i gyfnod o ymgynghoriadau unigol gyda chydweithwyr sy'n wynebu’r risg o ddileu eu swydd o hyd.

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben am 10:00 ar 6 Mai. Yna bydd y Brifysgol yn llunio’r cynigion terfynol, a bydd Cyngor y Brifysgol yn gwneud penderfyniad ym mis Mehefin.

Rwy'n ymwybodol y gallai hwn fod yn gyfnod sy’n peri pryder. Cofiwch nad oes unrhyw benderfyniadau terfynol wedi'u gwneud eto a bydd ein holl fyfyrwyr presennol a'r rhai sy'n ymuno â ni ym mis Medi yn gallu cwblhau eu gradd gyda ni.

Gallwch chi barhau i rannu eich adborth a chyfrannu at yr ymgynghoriad. Mae popeth sydd ei angen arnoch chi yma:

Eich iechyd meddwl a'ch lles yw ein blaenoriaeth o hyd. Os oes angen cymorth arnoch chi, gallwch chi siarad â Cyswllt Myfyrwyr, defnyddio ap TalkCampus neu gael cyngor annibynnol gan y Ganolfan Cyngor i Fyfyrwyr yn Undeb y Myfyrwyr.

Cofion gorau,  
Yr Athro Nicola Innes