Ewch i’r prif gynnwys

Dr. James Panton a'i dîm yn datgelu gwybodaeth newydd am grombil y Ddaear

19 Mawrth 2025

Dr James Panton smiles as he is seated on a rocky mountain

Mae Dr. James Panton o Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd Prifysgol Caerdydd, ynghyd â’r ymchwilwyr Huw Davies (Prifysgol Caerdydd), Paula Koelemeijer (Prifysgol Rhydychen), Bob Myhill (Prifysgol Bryste), a Jeroen Ritsema (Prifysgol Michigan), wedi torri tir newydd o ran deall mantell isaf y Ddaear.

Mae ymchwil ddiweddaraf y tîm, a gyhoeddwyd yn Scientific Reports, yn taflu goleuni newydd ar ranbarthau dirgel o dan y Môr Tawel ac Affrica, a elwir yn daleithiau mawr isel eu cyflymder. Mae gan y parthau dwfn hyn yn y fantell briodweddau seismig unigryw a chredir eu bod yn cynnwys cramen gefnforol drwchus, sydd wedi'i hailgylchu.

Gan ddefnyddio efelychiadau 3D datblygedig, fe wnaeth y tîm ddarganfod bod taleithiau mawr isel eu cyflymder yn ffurfio'n naturiol wrth i gramen gefnforol sydd wedi'i hailgylchu gronni dros y biliwn o flynyddoedd diwethaf. Mae eu model, sy'n ystyried symudiad platiau tectonig dros amser, yn rhagweld cronni graddol o ddau bentwr enfawr o gramen gefnforol wedi'i thansugno ar y ffin rhwng mantell a chraidd y Ddaear - un o dan Affrica a'r llall o dan y Môr Tawel.

Mae canfyddiadau Dr. Panton yn herio’r ddealltwriaeth gyfredol o ranbarthau’r taleithiau mawr isel eu cyflymder hyn, gan nodi y gallai'r rhanbarthau hyn fod wedi esblygu mewn ffordd wahanol. Er bod rhai gwahaniaethau'n bodoli oherwydd heriau o ran modelu'n gywir ar gyfer parthau lle y bu tansugno yn y gorffennol a gludedd y fantell, mae'r canfyddiadau hyn yn gam tuag at ddealltwriaeth well o sut mae rhanbarthau’r taleithiau mawr isel eu cyflymder hyn wedi’u ffurfio dros amser daearegol.

Un peth allweddol y mae’r tîm wedi’i ddarganfod yw bod talaith fawr isel ei chyflymder y Môr Tawel yn cael ei hailgyflenwi'n gyson â chramen gefnforol gymharol ifanc o barthau tansugno o amgylch y Môr Tawel. Mae'r broses hon wedi bod yn fywiog iawn ers i Pangaea chwalu tua 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Ar y llaw arall, mae'r dalaith fawr isel ei chyflymder yn Affrica yn cynnwys deunydd llawer hŷn sydd wedi bod yn symud drwy'r fantell am gyfnod hirach. Mae'r gwahaniaeth hwn mewn oedran a chyfansoddiad yn awgrymu bod talaith fawr isel ei chyflymder y Môr Tawel yn ddwysach ac yn llai hynawf o'i gymharu â'r dalaith fawr isel ei chyflymder yn Affrica.

Canfyddiad hynod ddiddorol arall o'r efelychiadau yw bod ffrydiau’r fantell yn y Môr Tawel yn creu patrwm llif sy'n tynnu slabiau sydd newydd eu tansugno i mewn, gan gyfoethogi talaith fawr isel ei chyflymder y Môr Tawel ymhellach â chramen gefnforol ifanc. Mae'r canlyniadau hyn yn cyd-fynd â data seismig, sy'n cadarnhau bod y model yn rhagfynegi lleoliad slabiau wedi'u tansugno yn gywir.

Mae'r ymchwil hon yn gwella ein dealltwriaeth o ddeinameg y fantell ac yn cynnig cipolwg gwerthfawr ar sut mae crombil y Ddaear wedi newid dros y biliwn o flynyddoedd diwethaf.

Mae gwaith Dr. Panton a'i dîm yn paratoi'r ffordd ar gyfer astudiaethau yn y dyfodol ar ffrydiau’r fantell, tansugno, ac ailgylchu cramen gefnforol yn yr hirdymor, gan ein helpu i ddeall y grymoedd sy'n llywio hanes daearegol ein planed yn well.

Estynnwn ein diolch i Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol am eu cefnogaeth hael i’r prosiect hwn.

Rhannu’r stori hon