Ymchwilydd o Brifysgol Caerdydd yn ceisio cryfhau gwytnwch rhag trychinebau mewn cymunedau ym Malawi
19 Mawrth 2025
Mae ymchwilydd o Brifysgol Caerdydd yn gwneud cyfraniad sylweddol mewn gwella gwytnwch cymunedau ym Malawi a’u paratoi ar gyfer trychinebau.
Yn ddiweddar, bu Dr Viviana Novelli, Athro Cyswllt yn yr Ysgol Beirianneg, yn arwain gweithdy ym Malawi gyda llunwyr polisïau lleol i ystyried atebion arloesol i amddiffyn cymunedau bregus rhag trychinebau naturiol.
Mae ymchwil Dr Novelli yn canolbwyntio ar gynnwys data o’r maes a thechnoleg synhwyro o bell i asesu gwendidau mewn cymunedau a mynd i’r afael â nhw, yn enwedig mewn aneddiadau anffurfiol sydd yn aml yn brin o gyfanrwydd strwythurol. Mae'r aneddiadau hyn ym Malawi yn aml yn wynebu llawer o beryglon, gan gynnwys llifogydd a daeargrynfeydd dinistriol.
Yn ystod y gweithdy, arweiniodd Dr Novelli drafodaethau ar ddau brosiect allweddol y mae hi’n Brif Ymchwilydd ar eu cyfer:
1. Mynd i’r afael â thai anffurfiol sy’n dueddol o ddioddef llifogydd: Roedd y prosiect hwn a gwblhawyd yn ddiweddar ac wedi’i ariannu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, yn asesu’r perygl o lifogydd mewn ardaloedd â thai anffurfiol ac yn ceisio eu lliniaru. Cyfunodd ddata synhwyro o bell, delweddau wedi’u tynnu gan ddrôn, a dadansoddiadau bregusrwydd i gefnogi ymdrechion sefydliadau llywodraeth leol. Roedd y gweithdy’n nodi diwedd y prosiect, lle rhannwyd argymhellion allweddol, gan gynnwys defnyddio mapiau perygl llifogydd ochr yn ochr â data tywydd a hinsawdd, gan ddefnyddio technoleg synhwyro o bell i ddeall ffactorau perygl yn well, codi cartrefi, a chryfhau safonau adeiladu a rheoliadau defnydd tir mewn parthau sy’n dueddol o gael llifogydd. Roedd yn brosiect ar y cyd â chyd-ymchwilwyr o adran Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd ac Ysgol Pensaernïaeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.
2. Adeiladu cyfleusterau gofal iechyd gwydn a chynaliadwy: Mae'r prosiect hwn, sydd wedi’i ariannu gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol, yn canolbwyntio ar sicrhau bod gwasanaethau gofal iechyd critigol yn parhau i fod yn weithredol cyn, yn ystod ac ar ôl trychinebau. Mae'n cynnig cynllun cynhwysfawr i randdeiliaid werthuso'r seilwaith gofal iechyd presennol a chreu strategaethau ar gyfer blaenoriaethu gwytnwch cyfleusterau gofal iechyd mewn trychinebau. Mae Ysgol Pensaernïaeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd yn gyd-ymchwilydd allweddol yn y prosiect hwn.
Yn y dyfodol, bydd Dr Novelli a'i thîm yn canolbwyntio ar sicrhau cefnogaeth y llywodraeth ar gyfer arolwg cenedlaethol o systemau a seilwaith gofal iechyd mewn cymunedau ar y cyrion. Gan ddefnyddio’r offer modelu uwch a ddatblygwyd drwy ei hymchwil, bydd yr arolwg hwn yn dod o hyd i fylchau hanfodol yn y seilwaith ac yn llywio strategaethau i wella gwytnwch a chynaliadwyedd.
Rwy’n gyffrous iawn i weld y gwaith hwn yn symud i’r camau nesaf. Byddaf yn cydweithio'n agos â Phrifysgol Busnes a Gwyddorau Cymhwysol Malawi (MUBAS), llunwyr polisïau, a chymunedau lleol i ddatblygu strategaethau sy'n gwella gwasanaethau a seilwaith gofal iechyd. Mae’n hanfodol bod canfyddiadau ein hymchwil yn cael eu cynnwys mewn polisïau sy’n cryfhau parodrwydd a gwydnwch ar gyfer trychinebau.
Cafodd Dr Novelli ei chyfweld am y gweithdy ar newyddion cenedlaethol YV ym Malawi. Ewch i 13 munud i wylio’r cyfweliad.