Gwybodaeth newydd ar sut mae canser y fron yn mudo
18 Mawrth 2025

Mae ymchwilwyr yn Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd, ar y cyd â Phrifysgol Dundee, wedi cynnig cliwiau newydd am sut mae canser y fron yn mudo o amgylch y corff.
Mewn nifer sylweddol o gleifion canser y fron, mae’r clefyd yn symud o’r lleoliad gwreiddiol i rannau eraill o'r corff, gan gynnwys yr organau. Mae'r broses fudo hon, a’i gelwir yn fetastasis, yn cyfrif am 90% o holl ystadegau marwolaethau canser.
Gyda’r nod o ddeall sut mae celloedd canser y fron yn mudo i leoliadau eilaidd, canolbwyntiodd tîm o ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, dan arweiniad Dr. Youcef Mehellou, eu sylw ar ensym o'r enw OSR1, sy'n dod yn actif yng nghamau hwyr canser y fron.
Dysgodd yr ymchwilwyr fod actifedd OSR1 yn “weithredol” yng nghelloedd canser y fron sy’n ymosodol ac yn fudol iawn, tra ei fod yn “anweithredol” yng nghelloedd canser y fron nad yw'n hysbys eu bod yn lledaenu. Awgrymodd hyn rôl bosibl actifedd OSR1 wrth gychwyn metastasis canser y fron. I gadarnhau'r rhagdybiaeth hon, rhoddodd y tîm OSR1 gweithredol yng nghelloedd canser y fron nad oeddent yn fudol iawn a chanfod bod ei ychwanegu wedi annog y canser i fudo. Yn hollbwysig, gan ddefnyddio moleciwl bach sy'n atal gweithgarwch OSR1, gallai’r tîm atal symudedd celloedd canser y fron.
Dywedodd Dr Youcef Mehellou, “Amlygodd yr hyn a ddysgon ni rôl bwysig gweithgarwch OSR1 wrth annog mudiant canser y fron, sy'n digwydd mewn nifer sylweddol o gleifion canser y fron. Wedi'n hysgogi gan y wybodaeth gyffrous hon, rydyn ni bellach yn canolbwyntio ar ddatblygu atalyddion OSR1 penodol a all gael eu defnyddio i atal mudiant canser y fron mewn cleifion. Bydd hyn yn debygol o weithio ar y cyd â therapïau presennol i ddarparu ffyrdd mwy effeithiol o drin canser y fron.”
Cyhoeddwyd canlyniadau'r ymchwil hon yn ACS Pharmacology and Translational Science, a gellir dod o hyd iddyn nhw yma.