Ewch i’r prif gynnwys

Caerdydd yn cynnal rownd derfynol cystadleuaeth seiber ar gyfer pobl ifanc 14-18 oed

18 Mawrth 2025

Cynhaliwyd y gystadleuaeth a’r rownd derfynol mewn cydweithrediad â’r diwydiant a Phrifysgol De Cymru a Phrifysgol Gorllewin Lloegr

Cynhaliwyd y rownd derfynol ar 14 Mawrth, gyda chystadleuwyr yn dod mor bell â Sir Benfro a Rhuthun.

Bu timau’n cystadlu mewn dwy gystadleuaeth Cipio’r Faner a drefnwyd gan Women in Cyber ​​a’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg. Roedd y gystadleuaeth yn canolbwyntio ar Ddeallusrwydd Ffynhonnell Agored (OSINT) a sgiliau ymchwilio ar-lein, gan herio cystadleuwyr i ddatgelu cliwiau a datrys posau seiberddiogelwch gan ddefnyddio data ac adnoddau sydd ar gael yn gyhoeddus.

Rhoddwyd y gwobrau ar gyfer enillwyr y gystadleuaeth gan y Sefydliad Arloesi Trawsnewid Data, Deadstar Publishing, Thales ac Empirisys. Daeth y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol i’r digwyddiad hefyd.

“Mae ein tîm ni wedi dangos diddordeb yn y maes seiber drwy gydol eu bywyd ysgol, felly mae hwn yn gyfle iddyn nhw weld myfyrwyr, athrawon a darlithwyr a chael syniad o’r hyn y gallen nhw fod eisiau ei wneud yn y dyfodol.”
Dafydd Owens, Pennaeth Cyfrifiadureg a TG yn Ysgol Glantaf

Dywedodd Dr Lowri Williams a Dr Eirini Anthi, a oedd yn gyfrifol am un o’r cystadlaethau Cipio’r Faner:  “Yn wahanol i heriau seiberddiogelwch traddodiadol sy’n dibynnu’n helaeth ar raglennu neu orchestion technegol, mae’r gystadleuaeth Cipio’r Faner hon yn tynnu sylw at bŵer adnoddau ffynhonnell agored ac ymchwilio creadigol, sy’n ei gwneud yn ffordd wych i ddechreuwyr gymryd rhan ac i chwaraewyr profiadol fireinio eu technegau.

“Mae cystadleuwyr yn cymryd rhan am resymau amrywiol. Mae’n ffordd hwyl a deniadol i ddechreuwyr archwilio seiberddiogelwch heb fod angen gwybodaeth dechnegol ddofn, tra bod darpar weithwyr proffesiynol yn ei defnyddio fel carreg gamu i ddatblygu ac arddangos eu sgiliau ymchwiliadol a dadansoddol. Mae chwaraewyr profiadol yn mwynhau'r her a'r amgylchedd cystadleuol, gan fireinio eu galluoedd OSINT mewn fformat strwythuredig ar ffurf gêm. Waeth beth fo lefel y profiad, mae'r gystadleuaeth yn cynnig mewnwelediadau gwerthfawr i gymwysiadau seiberddiogelwch yn y byd go iawn, sy’n ei gwneud yn addysgol a gwerth chweil.

“Mae’r myfyrwyr sy’n cymryd rhan yn astudio cyfrifiadureg, ond nid yw’n ymwneud yn gyfan gwbl â’r byd seiber, felly roedden nhw’n awyddus i edrych ar feysydd eraill o’r pwnc nad oedden nhw’n eu hastudio’n uniongyrchol. Maen nhw i gyd yn cydweithio’n dda iawn ac yn mwynhau’r tasgau’n fawr.”
Dafydd Griffiths, athro Cyfrifiadureg yng Ngholeg Gwent Glynebwy

“Mae annog mwy o ferched i gymryd rhan yn arbennig o bwysig gan fod menywod yn dal i fod wedi’u tangynrychioli mewn seiberddiogelwch. Mae'r gystadleuaeth Cipio’r Faner hon yn bwynt mynediad croesawgar a deniadol, gan helpu i fagu hyder a dangos nad yw sgiliau seiber yn ymwneud â chodio neu hacio yn unig - maen nhw’n cynnwys ymchwil, rhesymeg a chreadigrwydd, sy'n apelio at ystod eang o alluoedd. Mae cynyddu cyfranogiad menywod mewn seiberddiogelwch yn hanfodol ar gyfer amrywiaeth, gan arwain at atebion diogelwch mwy arloesol a chynhwysol.

“Y tu hwnt i gystadlu, mae cystadlaethau Cipio’r Faner sy’n seiliedig ar OSINT yn dangos nad yw seiberddiogelwch wedi'i gyfyngu i hacio technegol; mae’n ymwneud â meddwl fel ymchwilydd. Nid yw llawer o'r adnoddau sy’n cael eu defnyddio yn y gystadleuaeth Cipio’r Faner hon, fel dadansoddi’r cyfryngau cymdeithasol, echdynnu metadata, a thechnegau geoleoli, yn draddodiadol gysylltiedig â seiberddiogelwch, ac eto maen nhw’n chwarae rhan hanfodol mewn cymwysiadau yn y byd go iawn. O hacio moesegol a gwybodaeth am fygythiadau i orfodi'r gyfraith neu ganfod twyll, mae sgiliau OSINT yn werthfawr iawn. Yn y pen draw, mae’r gystadleuaeth Cipio’r Faner hon yn fwy na dim ond gêm—mae’n gyfle i ddatblygu sgiliau ymarferol, archwilio dyfodol mewn seiberddiogelwch, a chwalu rhwystrau rhag mynediad i’r maes.”

Rhannu’r stori hon