Ewch i’r prif gynnwys

Amser da yn nigwyddiad cyn-fyfyrwyr Kuala Lumpur

18 Mawrth 2025

Mae Cangen Kuala Lumpur Prifysgol Caerdydd wedi cynnal cyfarfod rhwydweithio a phêl-bicl yn ddiweddar i roi cyfle i gyn-fyfyrwyr gysylltu eto drwy ychydig o gystadleuaeth gyfeillgar a rhannu profiadau.

Meddai’r Cyd-gadeirydd Junaidy Ab-Mutalib (BSc 1996) roedd yn ‘amser da iawn’ gyda phob un o’r 24 o leoedd ar gyfer y gêm wedi’u gwerthu’n gyflym iawn. Rhoddodd Junaidy ddiolch arbennig i Lim Keat Long (BEng 1999), a drefnodd y digwyddiad.

Daeth y cyn-fyfyrwyr hynny na lwyddodd i hawlio un o’r lleoedd i’r gêm draw i wylio ac i rwydweithio a mwynhau’r lluniaeth ar ôl y gêm.

“Roedd yr egni’n wych ac roedd pawb wedi gwneud eu gorau glas, ac wedi cysylltu efo hen ffrindiau a gwneud cysylltiadau newydd hefyd. Nid gêm yn unig oedd hon, ond cyfle i wneud ffrindiau a chryfhau ein rhwydwaith o gyn-fyfyrwyr a chael diwrnod gwych gyda’n gilydd. Diolch yn fawr iawn i bawb a ddaeth, a fu’n chwarae ac yn ein cefnogi. Gwnaeth eich brwdfrydedd a'ch cefnogaeth yn ystod y digwyddiad hwn y diwrnod yn arbennig iawn."
Junaidy Ab-Mutalib (BSc 1996)

Wrth edrych i’r dyfodol, mae cangen Kuala Lumpur yn edrych ymlaen at gyhoeddi ei digwyddiad nesaf: cyfarfod Buka Puasa.

Rhannodd y cyd-gadeirydd Larissa Ann Louis (Y Cwrs Hyfforddiant Proffesiynol y Bar 2014) fanylion digwyddiad sydd ar y gweill â mwy na 400 o aelodau’r gangen drwy LinkedIn, a gwahodd cyn-fyfyrwyr i ymuno am bryd ymprydio yn ystod mis sanctaidd Ramadan.

“Mae Buka Puasa yn amser gwych i bobl o Faleisia ddod at ei gilydd a dathlu’r tymor ochr yn ochr â’n ffrindiau Mwslimaidd. Rydyn ni’n siŵr y bydd y digwyddiad hwn yn sefydlu rhagor o gysylltiadau rhyngom, a hynny ar ben y ffaith ein bod ni’n gyn-fyfyrwyr o’r un brifysgol.”
Larissa Ann Louis (BPTC 2014)

Dywedodd Barry Sullivan, Dirprwy Gyfarwyddwr Cysylltiadau Cefnogwyr a Phennaeth Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr a Chefnogwyr:

“Mae ein holl ganghennau cyn-fyfyrwyr yn cael eu harwain gan wirfoddolwyr, felly mae’n wych gweld grŵp Kuala Lumpur yn mynd â phethau i’r lefel nesaf. Peth gwych yw gwybod ein bod yn gallu helpu cymunedau ledled y byd i gysylltu'n lleol drwy eu profiadau cyffredin yma ym Mhrifysgol Caerdydd."

Ymunwch â'ch Grŵp LinkedIn lleol i ddechrau cysylltu: