Ewch i’r prif gynnwys

Diweddariad ar Kazakhstan Prifysgol Caerdydd

17 Mawrth 2025

Y Prif Adeilad

Mae’r Is-ganghellor, yr Athro Wendy Larner a Chadeirydd y Cyngor, Pat Younge, yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ein cynlluniau i sefydlu campws yn Kazakhstan.

Yr wythnos ddiwethaf, cyfarfu’r Cyngor i ystyried y cynnig i Brifysgol Caerdydd sefydlu campws cangen yn Astana, Kazakhstan.

Ar ôl trafodaethau helaeth, gan gynnwys cyfraniadau a chwestiynau i lysgennad EF i Kazakhstan, Ms Kathy Leach, mae'r Cyngor wedi cymeradwyo'r cynnig, yn amodol ar gytundeb cyfreithiol terfynol, gan nodi cam pwysig yn strategaeth ymgysylltu fyd-eang Caerdydd.

Mae’r penderfyniad i symud yn ein blaenau yn adlewyrchu ein huchelgais i chwarae rhan lawn ac ystyrlon yn nyfodol addysg uwch fyd-eang, gan ddarparu rhaglenni gradd o safon mewn ystod o wledydd, yn unol â’n strategaeth, Ein dyfodol, gyda’n gilydd.

Gweithgarwch newydd inni yw addysg drawswladol ar y raddfa hon, a bydd yn ehangu ein cyrhaeddiad a’n henw da byd-eang, yn ogystal ag arallgyfeirio ein hincwm. Mae’n arwydd o’n huchelgais i gael effaith ledled y byd a dyma’r cyntaf mewn rhwydwaith o gyfleoedd addysg drawswladol newydd rydym yn eu hystyried, ac ymhlith eraill o dan ystyriaeth y mae Tsieina, yr India, Maleisia, Singapôr a’r Unol Daleithiau.

Mae’r cyfleoedd a ddaw yn sgil y campws cangen yn ein cyffroi: mae'n amlwg o'n trafodaethau manwl gyda llywodraeth Kazakhstan, y buddsoddwyr a sefydliadau eraill yn y wlad y bydd y fenter o fudd i bawb.

Nid yw sefydlu addysg drawswladol heb risgiau. Byddwn yn mabwysiadu ymagwedd fesul tipyn yn hyn o beth, gan ddechrau gyda dwy raglen sylfaen yn 2025, gan ehangu ein portffolio wrth inni ddeall yn well anghenion pobl Kazakhstan a sut mae'r rhain yn cyd-fynd â'n cryfderau academaidd. Ers dechrau’r prosiect hwn, rydym wedi gweithio gydag arbenigwyr rhyngwladol a lleol i ddeall gwleidyddiaeth, cymdeithas a diwylliant Kazakhstan, gan arfer diwydrwydd dyladwy ac asesiadau helaeth o’r risg ynghlwm.

Ysgrifennodd Wendy am y cynigion ar gyfer Kazakhstan yn Blas ychydig o wythnosau yn ôl, ond gwyddom y bydd y cyhoeddiad hwn yn arwain hwyrach at ragor o gwestiynau ac ymholiadau. Rydym eisiau ailbwysleisio rhai negeseuon allweddol gan i lawer o wybodaeth anghywir gael ei chreu am y fenter hon: nid ydym yn buddsoddi cyfalaf yn y fenter hon, nid ydym yn talu am gampws, nid ydym yn diswyddo staff ac yna’n cynnig contract iddynt yn Kazakhstan, ac nid ydym yn allanoli swyddi yno.

Byddwn yn cynnal sesiwn holi ac ateb, fydd yn agored i bawb, yn fuan – cadwch lygad ar Blas am y dyddiad. Yn y cyfamser, cysylltwch â'r Athro Ruedi Allemann neu Anne Morgan, Cyfarwyddwr Materion Rhyngwladol, a fydd yn hapus iawn i ateb eich cwestiynau. Bydd Ruedi ac Anne yn parhau i arwain y prosiect o safbwynt academaidd a’r gwasanaethau proffesiynol.

Rydym eisiau estyn ein diolch i’r tîm sydd wedi gweithio mor galed a chyflym i gyrraedd diwedd y cam cyntaf hwn wrth sefydlu’r campws cangen. Mae gwaith caled wedi bod ynghlwm wrth gyrraedd y pwynt hwn, a hynny ar adeg o flaenoriaethau sy’n gwrthdaro â’i gilydd, gan staff academaidd a’r gwasanaethau proffesiynol yn yr Ysgolion, y Colegau a’r gwasanaethau proffesiynol canolog. Dyma enghraifft wych o gydweithwyr sy’n cydweithio i gyflawni ein blaenoriaethau strategol ac i achub ar gyfleoedd pan fydd y rhain yn dod i’r amlwg.

Rhannu’r stori hon