Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol Caerdydd yn lansio MSc newydd Dadansoddeg Busnes i fynd i’r afael a’r galw cynyddol yn y diwydiant

13 Mawrth 2025

Two students sat in a lecture room

Mae Ysgol Busnes Caerdydd a'r Ysgol Mathemateg wedi dod at ei gilydd i lansio MSc newydd Dadansoddeg Busnes i roi’r sgiliau i fyfyrwyr drawsnewid data i benderfyniadau busnes effeithiol.

Mae'r rhaglen hon yn rhoi'r adnoddau a'r arbenigedd i fyfyrwyr ymdrin â data mawr, dysgu rhagor a chael effaith go iawn yn y gymdeithas a’r maes busnes. Mae’r cwricwlwm yn cynnwys dysgu peirianyddol, darogan, rheoli risgiau ac ymchwil weithredol. Bydd myfyrwyr yn dysgu i feddwl yn ddadansoddol, y mae galw mawr amdano ymhlith cyflogwyr.

Dywedodd Dr Laura Purvis o Ysgol Busnes Caerdydd:

"Mewn oes sy'n seiliedig ar ddata, mae busnesau angen gweithwyr proffesiynol medrus sy’n gallu gwneud data cymhleth yn gipolygon strategol. Mae'r rhaglen hon yn rhoi arbenigedd dadansoddol a phrofiad ymarferol i fyfyrwyr lwyddo mewn marchnad fyd-eang sy’n tyfu’n gyflym."
Dr Laura Purvis Senior Lecturer in Logistics and Operations Management

Bydd myfyrwyr yn cael eu haddysgu gan arbenigwyr blaenllaw o Ysgol Busnes Caerdydd a’r Ysgol Mathemateg, ac yn archwilio i’r datblygiadau arloesol diweddaraf ym maes dadansoddeg busnes wrth roi eu gwybodaeth ar waith mewn sefyllfaoedd y byd go iawn. Mae'r rhaglen yn cynnwys systemau efelychu uwch, i roi’r cyfle i fyfyrwyr gael gwybodaeth ymarferol a mynd i’r afael â heriau busnes cymhleth.

Dywedodd yr Athro Paul Harper, arweinydd y rhaglen o'r Ysgol Mathemateg:

"Mathemateg yw sylfaen dadansoddeg busnes. Gan roi technegau gwyddor data uwch ar waith, rydyn ni’n cynnig cyfle i fyfyrwyr sydd â sgiliau meddwl yn ddadansoddol a datrys problemau gael gwybodaeth werthfawr gan setiau data cymhleth.’’
Yr Athro Paul Harper Deputy Head of School, Professor of Operational Research

Dyma gyfle perffaith i’r rhai sy’n dilyn gyfra ym maes dadansoddeg, rheoli data, ymgynghoriaeth a thu hwnt. Bydd graddedigion yn barod i wneud effaith sylweddol mewn oes sy’n dod yn fwyfwy seiliedig ar ddata.

Mae’r cyfnod ymgeisio i ddechrau astudio ym mis Medi 2025 ar agor.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am y rhaglen Dadansoddeg Busnes (MSc)

Rhannu’r stori hon