Enhancing the impartiality of political news
14 Mawrth 2025

Bydd ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio didueddrwydd newyddion gwleidyddol ac yn canfod ble mae modd codi safonau golygyddol i roi gwell gwybodaeth i’r sawl sy’n cyrchu newyddion.
Bydd y prosiect dwy flynedd, dan arweiniad yr Athro Stephen Cushion a Dr Matt Walsh yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, yn cynnal ymchwil ar gynnwys y cyfryngau darlledu, ar-lein a chymdeithasol yn y DU ac yn rhyngwladol a’r ffordd mae’r rhain yn cael eu cynhyrchu a’u derbyn.
Mewn cydweithrediad â darlledwyr blaenllaw - BBC, ITV, Channel 4, Channel 5 a Sky News - mae'r prosiect yn un o'r astudiaethau mwyaf uchelgeisiol a manwl o'i fath. Bydd yn rhoi atebion sy’n seiliedig ar dystiolaeth i wella safon newyddiaduraeth, gan ehangu ar y gwaith y mae’r Athro Cushion wedi’i wneud ar ddidueddrwydd newyddion yn ystod y degawdau diwethaf.
Dyma a ddywedodd y prif ymchwilydd, yr Athro Cushion: “O ystyried y pryderon cynyddol am dwyllwybodaeth wleidyddol a’r gostyngiad yn lefelau ymddiriedaeth sector y cyfryngau digidol sy’n mynd yn fwyfwy tameidiog, mae’n hollbwysig bod y cyhoedd yn gallu cyrchu newyddion a dadansoddiadau sy’n gywir ac yn ddiduedd. Diben ein prosiect yw gweithio’n adeiladol gydag ymarferwyr y cyfryngau a’r cyhoedd ehangach i ganfod ble y gellir codi safonau golygyddol i helpu i roi gwybodaeth gytbwys sy’n apelio at ddinasyddion.”
Bydd y prosiect, ‘Enhancing the impartiality of news: An analysis of political reportingl yn dechrau ar 1 Gorffennaf 2025 yn dilyn grant ymchwil o £755,625 gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC).
Bydd yn recriwtio dau gydymaith ymchwil llawn amser i helpu i ddadansoddi newyddion, cynnal grwpiau ffocws gyda chynulleidfaoedd yn ogystal â helpu i ddadansoddi cyfweliadau ag ymarferwyr y cyfryngau, ac arolygon cynrychioliadol gan YouGov.
Ychwanegodd yr Athro Cushion: "Rydym yn gobeithio y bydd y gwaith ymchwil hwn yn darparu tystiolaeth bwysig i ffynonellau newyddion ynghylch sut i wella arferion er mwyn sicrhau bod sylw i ddigwyddiadau gwleidyddol yn rhoi'r offer i'r cyhoedd wneud synnwyr o fyd cynyddol gymhleth ac wedi’i hollti."