Darlithydd cydlynol yn cyrraedd rhestr fer Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion
12 Mawrth 2025

Mae'r gwobrau'n dathlu cyflawniadau, angerdd eithriadol ac ymrwymiad pobl sy'n gweithio ym maes dysgu gydol oes.
Mae Dr Paul Webster wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion, sydd wedi’u trefnu gan Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru. Mae Paul yn cydlynu Llwybr Archwilio’r Gorffennol, sy’n cynnig llwybr i raddau israddedig ym meysydd hanes, archaeoleg a chrefydd ym Mhrifysgol Caerdydd.
Cafodd ei enwebu gan Abdul, Anastazia a Lisa (cyn-fyfyrwyr) oherwydd yr effaith gadarnhaol y mae wedi’i chael ar eu bywydau, gan gynnwys grym trawsnewidiol dysgu gydol oes. Roedden nhw eisiau cefnogi Paul ar ôl cael cymorth rhagorol ganddo dros y blynyddoedd.
Mae gan Abdul radd BA Hanes (anrhydedd dosbarth cyntaf) ar ôl graddio yn 2023, ac mae bellach yn dilyn rhaglen MA Cysylltiadau Rhyngwladol:
“Yn 17 oed, roeddwn i mewn damwain ffordd, a arweiniodd at detraplegia. Ar ôl cyfnod hir o adsefydlu, roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau cael addysg uwch a gwneud cyfraniad ystyrlon at gymdeithas.
Oherwydd fy namwain, doeddwn i ddim yn gallu gorffen fy addysg Safon Uwch, ac fe wnaeth hynny wneud i mi deimlo’n ansicr am fy nyfodol. Rhoddodd y llwybr gymorth a strwythur angenrheidiol i fi.
Mae wedi newid fy mywyd ac wedi fy ngrymuso, gan fy helpu i ddatblygu’n bersonol a rhoi ymdeimlad newydd o bwrpas a phenderfyniad i fi.
Mae Paul wedi rhoi cymorth eithriadol, ac fe wnaeth hynny wneud i mi deimlo'n barod a rhoi ymdeimlad o gysylltiad i fi. Fe wnaeth y gefnogaeth honno barhau tra oeddwn i’n astudio ar gyfer fy ngradd, boed hynny ar ffurf cyfarfodydd un-i-un, adborth defnyddiol ar aseiniadau neu fynediad at adnoddau ychwanegol.
Mae ein cynnydd a’n llwyddiant yn wirioneddol bwysig iddo, ac mae ei anogaeth wedi bod yn amhrisiadwy.”
Mae gan Anastazia radd BA Hanes yr Henfyd a Hanes (anrhydedd dosbarth cyntaf) ar ôl graddio yn 2023, ac mae bellach yn gweithio yn y sector treftadaeth. Ar hyn o bryd, mae’n dilyn rhaglen MA Hanes:
“Cafodd fy mab ei eni ym mis Mai 2019, ac ymunais â’r llwybr ym mis Medi 2019. Fe wnes i gwblhau’r rhan fwyaf o’r modiwlau gydag ef yn fy mreichiau! Cyn dilyn y llwybr, doeddwn i ddim yn gallu sefyll arholiad TGAU Hanes oherwydd cymhlethdodau gartref.
Rhoddodd y llwybr gyfleoedd a hyder annisgwyl i fi. Rhoddodd Paul gymaint o gymorth a dealltwriaeth i fi.
Bydda i wastad yn ddiolchgar iddo am ei amser, ei egni a'i dosturi. Paul oedd fy mhwynt cyswllt cyntaf dros y pum mlynedd diwethaf, ac alla i ddim mynegi cymaint y mae wedi fy helpu i ddatblygu'n academaidd.”
Mae gan Lisa radd BA Hanes yr Henfyd a’r Oesoedd Canol (2:1) ar ôl graddio yn 2023. Cwblhaodd raglen MA Hanes (Teilyngdod) yn ddiweddar, ac mae bellach yn bwriadu astudio ar gyfer PhD:
“Pan oeddwn i’n tyfu i fyny, doedd astudio ar gyfer gradd erioed yn opsiwn. Roedd disgwyl i fi adael yr ysgol, dechrau gweithio ac ennill arian. Er hynny, roedd bob amser arna’ i awydd dysgu, ac roeddwn i’n gwybod y gallwn i astudio yn y brifysgol.
Roeddwn i yn fy mhedwardegau, yn anabl ac wedi ymgolli mewn hunan-drueni pan glywais i sôn am Archwilio’r Gorffennol am y tro cyntaf. Mae'r llwybr yn magu eich hyder, ac fe ges i gymaint o gyngor a chymorth. Syrthiodd popeth i'w le’n gyflym iawn.
Mae Paul wedi bod yn anhygoel. Mae wedi gwneud cymaint i fi. Mae’r llwybr wedi gwneud mwy na newid fy mywyd – mae wedi rhoi fy mywyd nôl i fi! Fe ges i gymaint o gymorth ac anogaeth.”
Er nad Paul oedd yr enillydd terfynol, hoffen ni ei longyfarch ar gyrraedd y rhestr fer.
Mae'n gweithio'n ddiflino i sicrhau bod anghenion yr holl fyfyrwyr yn cael eu diwallu drwy gyfuniad o ryngweithio cyfeillgar ac unigol a sefydlu gweithgareddau cefnogi cymheiriaid. Mae'r canlyniadau’n aml yn newid bywydau.
Dywedodd Paul:
“Roedd cael fy enwebu ar gyfer y wobr hon yn anrhydedd mawr. Dw i’n hoff iawn o weithio gyda myfyrwyr ar y Llwybr Archwilio’r Gorffennol, ac mae gweld ein myfyrwyr yn dychwelyd i addysg ac yn llwyddo i gyflawni eu dyheadau, gan fagu hyder a mynd o nerth i nerth wrth iddyn nhw wneud hynny, yn rhoi cymaint o foddhad i fi.
Mae’n llwybr amhrisiadwy i fyfyrwyr oedd yn aml yn meddwl na fyddai’n bosibl iddyn nhw astudio mewn prifysgol, ac mae’n cynnig cyfleoedd i ehangu cyfranogiad ym maes addysg uwch a chreu cysylltiadau â’r gymuned, gan ddangos popeth y dylai prifysgol fod yn y byd heddiw.”