Ewch i’r prif gynnwys

Cymorth addysgol ar gyfer 'Ysgol Noddfa Feddygol' wedi'i lleoli mewn ardal o wrthdaro.

11 Mawrth 2025

Mae Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Arabaidd America Palesteina (AAUP) wedi llofnodi 'Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth' (MOU) i gynnig cymorth addysgol i fyfyrwyr meddygol sy'n gobeithio cwblhau eu hastudiaethau mewn ardal o wrthdaro.

Mae'r MOU yn fecanwaith i gofrestru AAUP ar 'Lwybr Gwrthdaro a Thrychineb' Prifysgol Caerdydd (ar gyfer myfyrwyr meddygol tramor)'. Nod y dull hwn yw dad-wleidyddoli'r rhesymeg y tu ôl i bartneriaeth mewn ardal o wrthdaro. Yn hytrach, mae'n ceisio canolbwyntio ar y broses o helpu myfyrwyr meddygol ledled y byd i gwblhau eu hastudiaethau. Gwelwyd dull tebyg yn llwyddo ym mhartneriaeth Caerdydd â Phrifysgol Genedlaethol Zaporizhzhya Polytechnic, Wcráin.  Nod y cynllun hwn yw sicrhau nid yn unig bod prifysgolion Wcráin yn goroesi ond yn parhau’n gryfach er gwaetha’r rhyfel, gan ganiatáu iddyn nhw chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o ailadeiladu ar ôl y gwrthdaro. Mae'n enghraifft bellach o'n hymrwymiad i werthfawrogi addysg ledled y byd fel ffordd o rymuso pobl ifainc a chymunedau.

Mae'r sefyllfa y mae AAUP ynddi bellach oherwydd gwrthdaro yn y rhanbarth yn parhau i beri risg sylweddol o darfu ar astudiaethau grwpiau blwyddyn gyfan sy’n symud ymlaen trwy eu rhaglen feddygol. Heb fewnbwn gan ffynonellau allanol, gallai hyn arwain at ohirio graddio carfan(nau) cyfan o feddygon dros y blynyddoedd nesaf. O ganlyniad, mae potensial am fwy o afiachedd a marwolaeth, yn ystod ac ar ôl y gwrthdaro.

Dywedodd Steve Riley, Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd ym Mhrifysgol Caerdydd: "Mae’r effaith bosibl y gallai gwrthdaro ei chael ar addysg yn ddwys. Mae'n dod yn arbennig o ddifrifol pan allai oedi hyfforddi myfyrwyr meddygol arwain at y gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth mewn rhai cymunedau.  Fel prifysgol fyd-eang, rwy'n hyderus mai cynnig cymorth addysgol lle mae modd trwy ein 'Llwybr Gwrthdaro a Thrychineb' yw'r peth cywir i'w wneud, ar gyfer AAUP a sefydliadau addysgol eraill sydd mewn ardaloedd o wrthdaro ledled y byd."

Dywedodd Dr Bara Asfour, Llywydd yr AAUP: "Rydyn ni’n falch iawn o fod yn dyfnhau ein partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd. Bydd y cytundeb hwn yn rhoi cyfleoedd unigryw i'n myfyrwyr a'n cyfadran gydweithio'n rhyngwladol, cyfnewid gwybodaeth, a gwneud cyfraniadau uchel eu heffaith at ymchwil fyd-eang."

Ychwanegodd yr Athro Zaben, Deon Meddygaeth AAUP, "Mae'r cytundeb hwn yn rhoi fframwaith i ni i hwyluso hyfforddiant a lleoliadau clinigol y mae mawr eu hangen; diolchwn i'r Athro Riley a phawb ym Mhrifysgol Caerdydd a chydweithwyr y GIG am ein helpu yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn."

I ddechrau, bydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn rhoi fframwaith i alluogi'r ddwy ochr i ddod o hyd i gyfleoedd posibl i gydweithredu. Gallai meysydd o'r fath gynnwys cydweithio ar waith ymchwil, cyfnewid myfyrwyr a staff, a'r potensial i ddatblygu neu gyfnewid deunyddiau academaidd. Mae'n gyfle gwych i gyd-greu a rhannu gwybodaeth newydd a helpu i adfer dyfodol mwy disglair ar gyfer y rhanbarth.

Rhannu’r stori hon