Dinasoedd byd-eang sydd fwyaf agored i newidiadau eithafol yn yr hinsawdd, yn ôl adroddiad newydd
12 Mawrth 2025

Mae’r 100 o ddinasoedd mwyaf poblog y byd yn mynd yn fwyfwy agored i lifogydd a sychder, gan beryglu diogelwch a gallu eu cymunedau i oroesi, yn ôl adroddiad newydd.
Mae’r ymchwil, a ddatblygwyd gan WaterAid ar y cyd ag academyddion o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bryste, yn dangos mai’r dinasoedd sydd fwyaf mewn perygl o ddioddef newidiadau eithafol yn yr hinsawdd ledled y byd, ymddengys, yw dinasoedd ledled Affrica ac Asia.
Mae'r newidiadau hyn yn arwain at effeithiau dinistriol ar allu cymunedau trefol ar reng flaen newid yn yr hinsawdd i gyrchu dŵr glân, medd yr awduron.
Mae'r astudiaeth arloesol newydd yn cymharu gwendidau yn seilwaith cymdeithasol a dŵr pob dinas ochr yn ochr â gwerth 40+ mlynedd o ddata newydd ar beryglon yn yr hinsawdd - gan ddod i'r casgliad ynghylch y dinasoedd a’r cymunedau ledled y byd sydd fwyaf agored i newidiadau eithafol yn yr hinsawdd a'r rheini sydd leiaf cymwys i fynd i’r afael â nhw.
Mae’r gwendidau yn yr adroddiad yn amrywio o dlodi i systemau dŵr a gwastraff gwael – gan roi poblogaethau trefol sy’n ehangu’n barhaus mewn perygl o lifogydd neu sychder dwysach ac yn arwain at ddadleoli, ansefydlogrwydd a cholli bywydau.
Dyma a ddywedodd yr Athro Katerina Michaelides, Gwyddonydd Arweiniol o Brifysgol Bryste: “Mae canfyddiadau ein hastudiaeth yn dangos pa mor wahanol a dramatig y mae newidiadau yn yr hinsawdd yn digwydd ledled y byd – does yr un ateb i bawb.”
Mae lleoedd a oedd wlyb yn hanesyddol yn mynd yn sych ac fel arall. Bellach, mae lleoedd eraill yn cael eu curo fwyfwy gan lifogydd a sychder eithafol. Gall dealltwriaeth ddyfnach o beryglon lleol yn yr hinsawdd gefnogi’r gwaith o gynllunio mwy deallus a phwrpasol mewn dinasoedd o bwys.
Datgelir bod bron i 1 ym mhob 5 (17%) o'r dinasoedd a astudiwyd yn wynebu 'chwip yr hinsawdd' – dwysáu sychder a llifogydd fel ei gilydd – ac mae 20% o ddinasoedd wedi newid yn gyflym o’r naill begwn i'r llall.
Mae'r adroddiad yn dangos sut mae dinasoedd yn ne Asia yn tueddu i fynd yn agored i lifogydd i raddau helaeth iawn ac mae dinasoedd Ewropeaidd yn dangos tueddiadau sychu sylweddol, a gall pob un o’r rhain effeithio ar allu pobl i gael gafael ar ddŵr glân a diogelwch dŵr.
Mae pob un o’r dinasoedd Ewropeaidd a ddadansoddwyd yn dangos tueddiadau sychu dros y 42 o flynyddoedd diwethaf, gan gynnwys Madrid, Paris a Llundain – a gallai hyn arwain at y rhanbarth yn wynebu sychder amlach a mwy hirhoedlog.
Mae Madrid a Barcelona ill dwy yn dangos 'newidiadau llwyr o ran peryglon yn yr hinsawdd', a Madrid yw’r ail ar y rhestr o ddinasoedd sy'n dechrau wynebu amodau sych eithafol.
Un canlyniad diddorol yn dilyn yr astudiaeth hon yw faint o dueddiadau’r peryglon yn yr hinsawdd yr ymddengys eu bod yn ymledu dros ranbarthau eang, gan awgrymu ei bod yn bosibl y bydd heriau addasu sylweddol o ran y peryglon newydd, ond bydd hefyd gyfleoedd rhanbarthol i genhedloedd gydweithio â’i gilydd i ddod yn fwy gwydn o ran newidiadau yn yr hinsawdd mewn canolfannau trefol.
Mae WaterAid yn gweithio gyda phartneriaid yn fyd-eang i sicrhau bod gan bobl y dŵr sydd ei angen arnyn nhw i addasu i effeithiau newidiadau yn yr hinsawdd – gan gynnwys mewn rhai lleoliadau trefol ac amdrefol.
Mae'r atebion yn cynnwys cynaeafu dŵr glaw i ddarparu dŵr glân a diogel drwy sychder; monitro lefelau dŵr fel y gall cymunedau baratoi ar gyfer tywydd eithafol; gosod toiledau sy’n gwrthsefyll llifogydd a chadw ffynonellau dŵr yn lân.
Ond mae'r sefydliad yn rhybuddio nad rôl cymdeithas sifil yn unig yw datrys y materion hyn ac mae'n galw ar i’r rheini sy'n gwneud penderfyniadau byd-eang i flaenoriaethu a buddsoddi yn yr atebion allweddol hyn sy'n cryfhau gwydnwch cymunedol yn erbyn tywydd eithafol er mwyn amddiffyn bywoliaethau, achub bywydau a chryfhau diogelwch byd-eang mewn byd cythryblus.
Dyma a ddywedodd Tim Wainwright, Prif Weithredwr Wateraid y DU: “Daw’r ymchwil hwn ar adeg hollbwysig, gan ein bod ni’n gweld cytser o doriadau cymorth yn fyd-eang a allai olygu bod hawliau dynol sylfaenol yn y fantol.
“Mae’n amlygu’r newidiadau dinistriol mewn patrymau eithafol yn yr hinsawdd ym mhob cyfandir, ac mae’r effaith i’w theimlo amlycaf mewn gwledydd incwm isel lle mae absenoldeb dŵr yn her ond ar ben hynny yn fater o fywyd a marwolaeth.”
Mae llifogydd a sychder yn dileu sylfaen goroesi pobl, sef dŵr. Ond os oes cyflenwad dibynadwy o ddŵr glân, gall cymunedau wella ar ôl trychinebau, parhau’n iach a bod yn barod ar gyfer beth bynnag a ddaw yn y dyfodol. Mae’r cyfan yn dechrau gyda dŵr glân.
Cyhoeddwyd yr adroddiad, ‘Water and Climate: Rising Risks for Urban Populations, gan WaterAid.