Canolfan Wolfson yn bresennol yng Nghynhadledd Gwaith Ieuenctid Cymru 2025
10 Mawrth 2025

Roedd Canolfan Wolfson er Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yn falch o fynd i Gynhadledd Gwaith Ieuenctid Cymru 2025 yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 20 Chwefror.
Daeth digwyddiad eleni â dros 400 o weithwyr proffesiynol gwaith ieuenctid ynghyd i drin a thrafod sut y gall partneriaethau rymuso pobl ifanc a chreu dyfodol mwy cynhwysol. Roedd yn cynnwys cyflwyniadau panel gan arbenigwyr gwaith ieuenctid blaenllaw, gweithdai rhyngweithiol, cyfleoedd rhwydweithio, a pherfformiad gan grŵp ieuenctid i gloi. Gydag amserlen orlawn a ffocws cryf ar gydweithio, roedd yn ddiwrnod ysbrydoledig i bawb a gymerodd ran.
Roedd ein tîm yno i rannu cipolwg o’n hastudiaeth Sgiliau ar gyfer Lles Pobl Ifanc (SWELL), sy’n trin a thrafod a all rhaglen therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT) grŵp ar-lein ar gyfer pobl ifanc helpu i’w hamddiffyn rhag iselder a gwella ansawdd eu bywyd. Fe wnaethon ni hefyd siarad am ein Grŵp Cynghori Ieuenctid (YAG), sy'n cyfarfod bob mis i'n cynghori ar ymchwil i iechyd meddwl pobl ifanc ac sy'n gosod yr agenda ar gyfer llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau y ganolfan, tra'n datblygu sgiliau gwerthfawr megis cyfathrebu a siarad cyhoeddus. Mae digwyddiadau fel hyn yn gyfle pwysig i gysylltu â’r rhai sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phobl ifanc, gan sicrhau bod ymchwil yn cael ei llywio gan brofiadau byd go iawn ac sy’n gallu cael ei roi ar waith yn effeithiol.
Roedd ein swyddog cyfathrebu, Margarida, ymchwilwyr o dreial Sgiliau ar gyfer Lles Pobl Ifanc Emily ac Ellie, ein harweinydd cynnwys y cyhoedd, Emma, (sy’n goruchwylio’r Grŵp Cynghori Ieuenctid) ac yn un o’n cynghorwyr ieuenctid, i gyd yno i gynrychioli Canolfan Wolfson. Roedd eu presenoldeb wedi sbarduno sgyrsiau pwysig gyda gweithwyr ieuenctid am sut y gall ymchwil ac ymarfer gweithio gyda'i gilydd i gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc yn well a helpu i gynnig adnoddau a gwybodaeth am y gwaith rydyn ni’n ei wneud yn y ganolfan.
Myfyriodd Emma, sy’n arwain cynnwys y cyhoedd yng Nghanolfan Wolfson, ar y digwyddiad:
“Roedd yn wych cwrdd â chymaint o weithwyr ieuenctid ac angerddol sy’n awyddus i gefnogi pobl ifanc i ymgysylltu ag ymchwil. Mae’r Grŵp Cynghori Ieuenctid yn ffordd wych i bobl ifanc lywio dyfodol cymorth iechyd meddwl wrth ddatblygu sgiliau a gwneud cysylltiadau newydd.”
Rhannodd ein swyddog cyfathrebu ei barn hefyd:
“Mae cael gwahoddiad i ddigwyddiadau fel hyn yn hynod werthfawr. Mae’n ein galluogi i fynd ag ymchwil i feysydd lle gall wir gael effaith - mae gweithwyr ieuenctid yn hanfodol i gefnogi pobl ifanc, ac mae eu harbenigedd yn ein helpu i sicrhau bod ein gwaith yn berthnasol ac yn ddefnyddiol yn ymarferol."
Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol, gyda digon o sgyrsiau positif a diddordeb mawr yn ein stondin. Roedd yn ysbrydoledig gweld cymaint o bobl yn dod at ei gilydd gydag ymrwymiad ar y cyd i wella dyfodol pobl ifanc, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau â’r trafodaethau hyn yn y misoedd i ddod.
Dysgwch ragor am gynnwys y cyhoedd yn y Ganolfan a'n Grŵp Cynghori Ieuenctid.
Darllenwch am ein hastudiaeth Sgiliau ar gyfer Lles Pobl Ifanc yr ydyn ni ar hyn o bryd yn recriwtio pobl ifanc 13-19 oed a’u rhieni ar ei chyfer.