Ewch i’r prif gynnwys

Aelodau cymunedol SPARK wedi’u dewis ar gyfer rhaglen GW4 Crucible

10 Mawrth 2025

GW4 Crucible logo

Yn SPARK (The Social Science Research Park), rydym yn falch iawn o rannu bod nifer o aelodau o gymuned SPARK wedi’u dewis ar gyfer GW4 Crucible 2025 – rhaglen arweinyddiaeth i ymchwilwyr gyrfa gynnar sy’n cael ei chynllunio i feithrin cydweithio rhyngddisgyblaethol ac effeithiau ymchwil.

Mae cyfranogwyr SPARK eleni fel a ganlyn:

Mae GW4 Crucible yn dod â 30 o arweinwyr ymchwil y dyfodol ynghyd i ddatblygu sgiliau cydweithio traws-sefydliadol a rhyngddisgyblaethol drwy gyfres o labordai a chyfleoedd rhwydweithio. Mae’r rhaglen yn rhan o GW4, cynghrair o bedair prifysgol ymchwil-ddwys flaenllaw—Bath, Bryste, Caerdydd ac Exeter—sy’n ymrwymo i gydweithio ac i yrru arloesedd ar draws y byd academaidd, diwydiant a chymdeithas sifil.

Gallwch ddysgu mwy am y rhaglen yma.

Llongyfarchiadau i bawb sy’n cymryd rhan – edrychwn ymlaen at weld effaith eich cyfranogiad yn y rhaglen wych hon!