Ewch i’r prif gynnwys

Y Ganolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig sy’n croesawu’r digwyddiad poblogaidd i deuluoedd ‘Dewch i chwilota’r ymennydd’ ar gyfer Gŵyl Wyddoniaeth Caerdydd.

1 Mawrth 2025

Ddydd Sadwrn 22 Chwefror, cynhaliodd y Ganolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig ddigwyddiad am ddim i blant a’u teuluoedd, gyda chefnogaeth y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl.

Mae Gŵyl Wyddoniaeth Caerdydd yn digwydd bob blwyddyn ar draws prifddinas Cymrua’i nod yw addysgu ac ysbrydoli pobl o bob oed am yr ymchwil wyddonol sy’n digwydd ar garreg eu drws. Croesawyd 150 o bobl i ddysgu am ymchwil niwrowyddonol ac iechyd meddwl, ac i ddysgu am gymhlethdod yr ymennydd drwy ddigwyddiadau ymarferol, gan gynnwys ymarfer pibedu, microsgopeg a sgan ymennydd realiti rhithiwr, yn ogystal â chyfle i neidio ar gastell bownsio ‘the brain dome’!

Dywedodd Dr Elle Mawson, trefnydd y digwyddiad: “Gwych oedd cael gweld ymchwilwyr a myfyrwyr yn dod at ei gilydd i wneud y digwyddiad yn hwyl ac yn rhyngweithiol i’r 150 o bobl a ddaeth i fwynhau’r diwrnod. ”

Cafodd yr arddangosfeydd eu cynnal gan 22 o wirfoddolwyr o nifer o sefydliadau ymchwil yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol Prifysgol Caerdydd, gan gynnwys y canlynol: Y Ganolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig, Sefydliad Ymchwil Dementia y DU, Y Sefydliad Arloesi er Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl a’r Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl.

Ychwanegodd Dr Mawson: “Cawsom adborth cadarnhaol gan deuluoedd, yn benodol am y ffordd yr oedd y digwyddiadau wedi cael eu trefnu i roi cyfle i’r plant ymgysylltu â'r cynnwys heb roi gormod o wybodaeth iddyn nhw.”

Dywedodd Dr Sarah Knott, rheolwr Y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl: “Roedden ni wrth ein bodd o gael cefnogi'r digwyddiad hwn a siarad â rhieni a gofalwyr am yr ymchwil iechyd meddwl diddorol sy'n digwydd yn y brifysgol, a chynnig adnoddau ar amrywiaeth o gyflyrau iechyd meddwl hefyd."

"Dywedodd llawer o’r bobl a oedd yn bresennol fod yr adnoddau’n ‘ddefnyddiol iawn', ac wedi rhoi dealltwriaeth well iddyn nhw o gyflyrau penodol a’r cymorth sydd ar gael i deuluoedd, ffrindiau a chydweithwyr sydd o bosib yn cael eu heffeithio ganddyn nhw. Diolch i bawb a ddaeth i’r digwyddiad eleni. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gynnal y digwyddiad y flwyddyn nesaf.”"
Dr Sarah Knott NCMH Manager, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Rhannu’r stori hon