Ewch i’r prif gynnwys

Mae sawl aelod o staff academaidd yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd wedi derbyn cyllid ymchwil ac mae enwebiad am wobr wedi’i ddyfarnu

7 Mawrth 2025

Adeilad John Percival
Adeilad John Percival

Mae sawl aelod o staff academaidd Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd wedi derbyn dyfarniadau cyllid ar gyfer amrywiaeth o brosiectau ymchwil, tra bod aelod arall wedi’i enwebu am wobr.

Buom yn sgwrsio gyda phob aelod o'n tîm i glywed mwy am eu cyflawniadau diweddar.

Yr Athro Mary Heimann

Beth sydd wedi’i ddyfarnu i chi a beth yw’r cefndir i hyn?

Rwyf wedi denu cyllid allanol gan Sefydliad Keston i sefydlu swydd 3-blynedd cydymaith ymchwil ôl-ddoethurol mewn Crefydd o dan Gyfundrefnau Comiwnyddol yng Nghanolbarth a/neu Ddwyrain Ewrop.

Elusen yw Keston, a sefydlwyd ym 1969, sy'n ceisio hyrwyddo a lledaenu ymchwil yn ymwneud â chrefydd o dan gyfundrefnau Comiwnyddol. Mae ganddi hanes hir o ariannu swyddi academaidd ym Mhrifysgol Rhydychen, Prifysgol Sussex, Prifysgol Northwestern a mannau eraill.

Bydd Cydymaith Ymchwil Keston mewn Crefydd o dan Gyfundrefnau Comiwnyddol yn gysylltiedig â Chanolfan Ymchwil Canolbarth a Dwyrain Ewrop ac â Hanes.

Beth bydd ynghlwm wrth eich prosiect, a beth rydych chi'n gobeithio ei gyflawni?

Fi fydd y Prif Ymchwilydd, a bydd y swydd yn caniatáu i ysgolhaig iau ymuno â mi. Bydd hynny'n rhywun sydd newydd gwblhau eu doethuriaeth, gan roi tair blynedd iddynt i ganolbwyntio ar gyhoeddi eu llyfr academaidd cyntaf tra'n cael ymgymryd â dysgu cyfyngedig iawn o fewn eu maes arbenigedd cyffredinol.

Beth a ysbrydolodd eich ymchwil yn eich dewis faes?

Fel rhywun a oedd yn ddigon ffodus, ar ôl cwblhau fy noethuriaeth, i ennill Cymrodoriaeth Ymchwil 3-blynedd ym Mhrifysgol Caergrawnt, rwy’n gwybod faint y gall cyfle fel hwn ei olygu i ysgolhaig ifanc. Dyna pam y penderfynais sefydlu swydd ôl-ddoethurol 3-blynedd fel hon yma yng Nghaerdydd.

Yr Athro Keir Waddington a Dr Jan Machielsen

Beth sydd wedi’i ddyfarnu i chi a beth yw’r cefndir i hyn?

Rydym yn rhan o gais llwyddiannus i’r Sefydliad Ymchwil (Fflandrys) am gyllid ar gyfer prosiect sy’n archwilio sut rydym yn integreiddio hanes gwyddoniaeth a hanes y dyniaethau.

Beth bydd ynghlwm wrth eich prosiect, a beth rydych chi'n gobeithio ei gyflawni?

Mae’r prosiect yn ein hannog i ailymweld â gorffennol dwfn y dyniaethau gyda set newydd o gwestiynau i archwilio sut mae syniadau a dulliau wedi’u cyfnewid rhwng y dyniaethau a’r gwyddorau yn y gorffennol.

Mae'r cydweithrediad wedi'i leoli yn Ghent ond mae hefyd yn cynnwys haneswyr yn yr Iseldiroedd, Sweden a'r Almaen. Ni yw'r unig bartner yn y DU.

Nid yw'r prosiect yn ymwneud â damcaniaethu na hanesyddolu’r rhaniad rhwng 'gwyddoniaeth' a’r 'dyniaethau' ond ystyried sut y gallen ni ddatblygu ffyrdd newydd a gwahanol iddyn nhw siarad â'i gilydd. Mae’n gyfle cyffrous i weithio gyda chydweithwyr yng Ngwlad Belg a’r Iseldiroedd dros dair blynedd

Beth a ysbrydolodd eich ymchwil yn eich dewis faes?

Mae hyn yn adeiladu ar waith yn rhan o fenter y Dyniaethau Gwyddoniaeth yma ym Mhrifysgol Caerdydd, sy’n cael ei gyfarwyddo ar y cyd â Martin Willis yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, sydd wedi bod ar flaen y gad o ran ymchwil yng Nghaerdydd mewn perthynas â’r ffordd rydyn ni’n gweithio ar draws y dyniaethau, y gwyddorau cymdeithasol a’r gwyddorau, a hefyd rhyngddynt.

Mae wedi archwilio sut rydym yn gweithio mewn ffyrdd rhyngddisgyblaethol, gan ddarparu'r wybodaeth a gawsom yn sgil ein hymchwil a ariannwyd gan Wellcome i'r genhedlaeth nesaf o ysgolheigion ar sut i ddatblygu a rhedeg prosiectau rhyngddisgyblaethol.

Mae hefyd yn adeiladu ar fy ngwaith [Keir] ar lenyddiaeth a gwyddoniaeth – rwy'n archwilio ffuglen gothig ddrwg a'r hyn y mae'n ei ddweud am wyddoniaeth a meddygaeth.

Italy, Sardinia, Olbia region, panorama over Spalmatore wild beach in Tavolara island stock photo
Mae prosiect yr Athro Madgwick yn canolbwyntio ar economïau ynysoedd yn Sardinia, Mallorca a Menorca yn y cyfnod pontio Oes yr Haearn Efydd.

Yr Athro Richard Madgwick

Beth sydd wedi’i ddyfarnu i chi a beth yw’r cefndir i hyn?

Cymrodoriaeth Marie Skłodowska-Curie Actions (MSCA), a ddyfarnwyd i Dr Lua Valenzuela-Sua (Cymrawd) a minnau (goruchwyliwr).

Bydd y grant (€276,000) yn ariannu Lua i ymuno â Chaerdydd am 2 flynedd i ymgymryd ag OVIS: Tarddiad Amrywioldeb mewn Systemau Ynysol. Datgelu diet da byw a symudedd ar draws y cyfnod pontio rhwng yr Oes Efydd a’r Oes Haearn. (OVIS yw Origins of Variability in Island Systems).

Sgoriodd y cais 98% a dyma’r pumed grant MSCA i gael ei ddyfarnu i mi. Mae’r cynllun wedi cyfoethogi amgylchedd ymchwil yr Ysgol yn fawr, gan ddenu pobl a phrosiectau o bob rhan o Ewrop a Gogledd America.

Beth bydd ynghlwm wrth eich prosiect, a beth rydych chi'n gobeithio ei gyflawni?

Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar economïau ynysol yn Sardinia, Mallorca a Menorca yn y cyfnod pontio rhwng yr Oes Efydd a'r Oes Haearn. Roedd hwn yn gyfnod o newid hinsawdd ac ansefydlogrwydd economaidd mawr gyda rhwydweithiau newydd yn cael eu creu ledled Ewrop. Bydd OVIS yn asesu sut yr addasodd economïau ynysol ac arferion ffermio yn y byd cyfnewidiol hwn.

Beth a ysbrydolodd eich ymchwil yn eich dewis faes?

Datblygiadau newydd mewn gwyddoniaeth, sydd wedi trawsnewid potensial ymchwil ac wedi gwella eglurder deongliadol yn aruthrol.

Yn y prosiect hwn rydym yn defnyddio dadansoddiad isotopau i ddarparu eglurder mawr am sut roedd anifeiliaid yn cael eu rheoli, eu symud a'u bwydo trwy gydol eu hoes, gan gynnwys manylion am dymoroldeb genedigaethau.

Dr Paul Webster

Am beth rydych chi wedi cael eich enwebu?

Ces i fy enwebu, a chyrraedd y rhestr fer, yn rownd derfynol Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid  y Sefydliad Dysgu a Gwaith i diwtoriaid a mentoriaid sy'n cefnogi dysgu oedolion ledled Cymru.

Daeth yr enwebiad gan Abdul Aldhfeiry, Anastazia Thomas a Lisa Mapley, myfyrwyr hŷn a gwblhaodd eu graddau israddedig yn ein Hysgol yn 2023 ac sydd oll wedi mynd ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig.

Dechreuodd Abdul, Anastazia a Lisa eu graddau ar ôl cwblhau Llwybr Archwilio’r Gorffennol i ennill graddau yn yr Ysgol; partneriaeth yw hyn rhyngom ni ac Is-adran Dysgu Gydol Oes y brifysgol. Fi yw cydlynydd y Llwybr ac rwy'n gweithio'n agos gyda'r myfyrwyr yn ystod y llwybr ac ar ôl iddyn nhw symud ymlaen.

Beth mae'r enwebiad hwn yn ei olygu i chi?

O ran yr hyn y mae’r enwebiad yn ei olygu i mi, roedd yn anrhydedd fawr cael fy enwebu ar gyfer y wobr hon.

Mae gweithio gyda myfyrwyr ar y Llwybr Archwilio’r Gorffennol yn angerdd gwirioneddol i mi, ac mae’n destun balchder mawr gweld ein myfyrwyr yn dychwelyd i astudio a llwyddo i wireddu eu huchelgeisiau, magu hyder a mynd o nerth i nerth wrth wneud hynny.

Mae’r llwybr yn darparu ffordd amhrisiadwy i fyfyrwyr a oedd yn aml yn meddwl nad oedd y posibilrwydd o astudio mewn prifysgol ar gael iddynt, ac mae’n darparu cyfleoedd i ehangu cyfranogiad mewn Addysg Uwch a meithrin cysylltiadau â’r gymuned, sef popeth y dylai prifysgol fod yng nghanol heriau’r byd modern.

Dywedwch wrthym am rywfaint o'r gwaith rydych chi wedi'i wneud gyda dysgwyr sy'n oedolion.

Rwy'n diwtor personol i fyfyrwyr ar y Llwybr, ac i fyfyrwyr sy'n symud ymlaen o'r Llwybr i raddau ein Hysgol, yn enwedig mewn Hanes anrhydedd sengl a rhaglenni cydanrhydedd sy'n cynnwys Hanes.

Rwyf hefyd yn darparu cymorth i bob dysgwr sy’n oedolyn yn yr Ysgol yn rhan o’r rôl hon, p’un a ydynt wedi astudio ar y llwybr o’r blaen ai peidio. Mae hyn ar ffurf tiwtora personol a chynnal grwpiau cymorth i fyfyrwyr. Mae'r grwpiau hyn yn galluogi ein myfyrwyr hŷn i ymgysylltu â'u cyfoedion a darparu cymorth i’w gilydd.

Mae tiwtora personol a'r gweithgareddau grŵp yn darparu amgylchedd â chymorth lle gallaf roi arweiniad ar yr adnoddau cymorth sydd ar gael yn y brifysgol, mewn perthynas â lles personol a sgiliau astudio fel ei gilydd.

Rhagor o wybodaeth am ein Hysgol.

Rhannu’r stori hon