Ewch i’r prif gynnwys

Medal Coke 2025 y Gymdeithas Ddaearegol yn cael ei dyfarnu i Dr Joel Gill

6 Mawrth 2025

Llongyfarchiadau gwresog i Dr Joel Gill, enillydd y Fedal Coke 2025, a ddyfarnwyd ar ran Cymdeithas Ddaearegol Llundain.

Cyflwynir y Fedal Coke yn flynyddol i gydnabod rhagoriaeth mewn cyfraniadau i faes daeareg, ochr yn ochr â gwasanaeth sylweddol i ddaeareg (gweithgareddau gweinyddol, ymgysylltu, neu drefnu) sydd o fudd i’r gymuned ehangach. Rhoddir dwy fedal yn flynyddol i anrhydeddu meibion cefnder yr Is-gyrnol Basil Elmsley Coke (1884-1970), a fu farw ym Mrwydr Arnhem ym 1944.

“Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Gymdeithas Ddaearegol am y gydnabyddiaeth hon, ac i’r rhai a gymerodd yr amser i fy enwebu ar gyfer y Fedal Coke. Dyma foment arbennig a bydd yn fy ysgogi ac yn fy annog yn y blynyddoedd i ddod” meddai Dr Gill.

Mae Dr Joel Gill yn Ddarlithydd mewn Geowyddorau Cynaliadwy yn Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd Prifysgol Caerdydd, lle mae hefyd yn cefnogi gweithgareddau ymgysylltu gan gynnwys ymweliadau, darlithoedd cyhoeddus a digwyddiadau yn yr Ysgol. Mae enw da Dr Gill yn parhau i dyfu ar lefel ryngwladol ym meysydd risg aml-berygl a geowyddorau cynaliadwy, ac mae ei waith sy’n dylanwadu ar sefydliadau mawr megis Swyddfa Cabinet y DU, y Cyngor Gwyddoniaeth Rhyngwladol, ac UNESCO. Mae Dr Gill wedi bod yn Gymrawd gweithredol yng Nghymdeithas Ddaearegol Llundain a chafodd wahoddiad yn ddiweddar i gadeirio ei Gweithgor Egwyddorion Moesegol (2025-presennol).

Yn 2011, yn dilyn dau gyfnod yn Tanzania yn gwerthuso effeithiolrwydd rhaglenni dŵr, sefydlodd Dr Gill yr elusen Geology for Global Development (GfGD). Mewn amrywiol rolau arwain, chwaraeodd ran ganolog wrth osod yr elusen ar flaen y gad mewn trafodaethau rhyngwladol ar rôl geowyddorau wrth gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig.  Mae hyn wedi golygu gwaith sylweddol ar y rhyngwyneb rhwng gwyddoniaeth a pholisi, gyda GfGD yn ennill statws arsylwr swyddogol gyda Chonfensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd yn 2021, a statws ymgynghorol arbennig gyda Chyngor Economaidd a Chymdeithasol y Cenhedloedd Unedigyn 2022.

Meddai Dr Gill, “Rwy bob tro wedi cyfrannu at y gymuned geowyddorau yn rhan o dîm. Mae ymchwil ac addysgu, gweithgareddau Geology for Global Development, a gwasanaeth i'r Gymdeithas Ddaearegol i gyd wedi fy ngalluogi i weithio gyda nifer o bobl ysbrydoledig. Rwy'n ddiolchgar am gyfeillgarwch a chefnogaeth cymaint o bobl dros y 14 mlynedd diwethaf, gan hyrwyddo rôl hollbwysig geowyddonwyr wrth sicrhau dyfodol gwell, mwy cynaliadwy i bawb”.

Rydyn ni’n falch iawn o gael arweinwyr fel Dr. Gill sy’n arwain daearegwyr a geowyddonwyr y dyfodol yma yn Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd Prifysgol Caerdydd ac rydyn ni’n estyn ein llongyfarchiadau unwaith eto ar y wobr haeddiannol hon.

Rhannu’r stori hon