Ewch i’r prif gynnwys

Fforymau Trafod Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig: Atebion i’ch cwestiynau

6 Mawrth 2025

Three people side by side: a short-haired woman in a white shirt, a man in a suit with glasses, and a blonde woman in blue-framed glasses, smiling in front of bookshelves.
Professor Nicola Innes, Professor Roger Whitaker and Dr Liz Wren-Owens

Darllenwch neges gan eich Rhag Is-Gangellorion a'r Deon ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig, a anfonwyd ar 6 Mawrth.

Gan fod hwn yn gopi o e-bost a anfonwyd i fyfyrwyr, mae'r dolenni o fewn yr e-bost ar fewnrwyd y myfyrwyr, felly mae angen mewngofnodi i gael mynediad.

Annwyl Ymchwilydd Ôl-raddedig,

Da oedd gweld llawer ohonoch yn y Fforymau Trafod i ymchwilwyr ôl-raddedig ym mis Chwefror a chael y cyfle i drafod y cynigion i lywio ein Dyfodol Academaidd gyda’n gilydd. I unrhyw un nad oedd yn gallu dod, mae’r recordiadau ar gael yma:

Cafodd nodyn ei wneud o’r holl gwestiynau a holwyd, a byddwn yn ateb cymaint o’r rhain â phosibl. Yn yr e-bost hwn, rydym wedi cynnwys yr atebion i rai o’r cwestiynau sy’n cael eu holi’n aml gan ein cymuned ôl-raddedig.

Atebion i’ch cwestiynau

Byddwn yn eich helpu i orffen astudio ar gyfer eich gradd PhD. Os bydd eich goruchwylydd/eich tîm goruchwylio’n newid, byddwn yn gweithio gyda chi er mwyn dod o hyd i ateb sy’n seiliedig ar eich anghenion, prosiect ac arbenigedd unigol. Bydd pob opsiwn yn cael ei ystyried er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl arnoch. Nid yw'n wahanol i reoli newidiadau oherwydd salwch neu absenoldeb rhiant, er enghraifft.

Byddem yn ystyried opsiynau amrywiol   megis chwilio am oruchwylydd gwahanol yn y Brifysgol (gan ystyried methodoleg ac arbenigedd yn y pwnc), dod â chymorth allanol i mewn i’r Brifysgol neu eich helpu i symud i sefydliad arall (os byddwch yn teimlo mai dyma’r opsiwn gorau i chi).

Yn rhan o unrhyw gynllun i newid strwythur y Brifysgol, mae goruchwylio ymchwilwyr ôl-raddedig yn ystyriaeth allweddol. Mae ffyrdd ar gael o gynnal cymorth goruchwylio i ymchwilwyr ôl-raddedig, hyd yn oed os bydd nifer y staff yn gostwng. Er enghraifft, nid yw’r nifer fwyaf o fyfyrwyr wedi’i neilltuo i bob goruchwylydd, a rhan o’r rheswm dros awgrymu bod y newidiadau hyn yn cael eu gwneud dros y tair i bedair blynedd nesaf yw ein galluogi i ddirwyn rhai rhaglenni gradd i ben a sicrhau bod yr aelodau hynny o’r staff ar gael yn athrawon ac yn oruchwylwyr fel ei gilydd.

Mae cyllid wedi’i neilltuo ar eich cyfer chi, y myfyriwr ymchwil ôl-raddedig. Os bydd unrhyw newidiadau yn eich tîm goruchwylio, ni ddylai hynny effeithio ar eich cyllid, gan ei fod wedi’i neilltuo ar gyfer y myfyriwr.

Cafodd ei nodi yn y Fforymau Trafod bod torri cyllidebau’n barhaus dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi cael effaith ar les y myfyrwyr a’r staff. Rydym yn cydnabod y gall fod yn anodd gofalu am eich lles yn hyn o beth. Er y gallai’r cynigion hyn fod wedi bod yn anodd eu hystyried, gobeithio y gallwch weld pa mor bwysig yw ystyried opsiynau i sicrhau bod y Brifysgol yn ariannol gynaliadwy. Rydym hefyd yn cydnabod yr angen i sicrhau bod aelodau’r staff yn cael eu cefnogi wrth iddynt ymaddasu.

Eich iechyd meddwl a'ch lles yw ein blaenoriaeth o hyd. Os bydd angen cymorth arnoch, cysylltwch â’r Tîm Cyswllt Myfyrwyr naill ai ar-lein, dros y ffôn neu wyneb-yn-wyneb yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr. Gall y Ganolfan Cyngor i Fyfyrwyr yn Undeb y Myfyrwyr hefyd gynnig cyngor a chymorth annibynnol.

Ar y cyd â chwe phrifysgol arall yng Nghymru, rydym hefyd wedi datblygu platfform digidol mynediad agored newydd o’r enw Llesiant Ymchwilydd Cymru. Cafodd y platfform ei gynllunio gan ymchwilwyr ôl-raddedig, ar gyfer ymchwilwyr ôl-raddedig. Mae’r platfform yn cynnig mwy na 130 o adnoddau ar-lein wedi’u teilwra, gan gynnwys:

  • cyngor ymarferol ar weithio gyda goruchwylwyr, rheoli amser a chadw i fynd, straeon ysbrydoledig gan fyfyrwyr, argymhellion defnyddiol, a fideos ‘diwrnod ym mywyd ...’ diddorol;
  • blog preswyl sy'n dod â phrofiad ymchwilwyr ôl-raddedig yn fyw.

Gall myfyrwyr hefyd elwa o allu cymryd rhan mewn grwpiau cymunedol a digwyddiadau rheolaidd ar-lein, megis sesiynau ‘eistedd ac ysgrifennu’.

Mae hyn yn dibynnu ar sut mae'r cynigion yn newid mewn ymateb i'r ymgynghoriad. Ni fydd penderfyniadau terfynol yn cael eu gwneud tan ddiwedd y cyfnod ymgynghori.

Mae’r cynigion i lywio ein Dyfodol Academaidd yn canolbwyntio ar ein darpariaeth academaidd. Mae cynlluniau’n cael eu datblygu i ystyried sut olwg fydd ar strwythurau’r Brifysgol i gefnogi’r ysgolion, a byddwch yn cael y cyfle i roi eich adborth cyn i’r Brifysgol gytuno ar unrhyw beth.

Mae hyn yn dibynnu ar ganlyniad terfynol y cynigion. Ni fydd unrhyw benderfyniadau’n cael eu gwneud tan ddiwedd y cyfnod ymgynghori. Byddwn wedyn yn gwneud unrhyw waith cynllunio sydd ei angen, gan ymgysylltu â’r staff a’r myfyrwyr yn ôl yr angen.  

Mae ymchwilwyr ôl-raddedig ar gontractau tiwtor/arddangoswr graddedig y tu allan i gwmpas y cynigion presennol. Nid yw'r swyddi hyn yn agored i gael eu dileu. Rydym yn gweithio gyda’r Tîm Adnoddau Dynol ac ymchwilwyr ôl-raddedig unigol sydd ar fathau eraill o gontractau.

Rydym hefyd yn parhau i ateb y cwestiynau eraill y mae myfyrwyr yn eu holi amlaf ar fewnrwyd y myfyrwyr, sy’n cynnwys:

  • ‘Ai rhywbeth sy’n berthnasol i Brifysgol Caerdydd yn unig yw hwn?’
  • ‘Pam nad oes modd i’r Brifysgol ddefnyddio ei chronfeydd wrth gefn?’
  • ‘Pam mai dim ond rhai ysgolion sy'n gorfod wynebu newidiadau?’

Os hoffech roi adborth ar y cynigion i lywio ein Dyfodol Academaidd, llenwch y ffurflen ar-lein ar fewnrwyd y myfyrwyr. Fel arall, e-bostiwch newid-change@caerdydd.ac.uk.

Cofion gorau,

Yr Athro Nicola Innes
Rhag Is-Ganghellor Dros Dro, Addysg a Phrofiad Myfyrwyr

Yr Athro Roger Whitaker
Rhag Is-Ganghellor, Ymchwil, Arloesi a Menter

Dr Liz Wren-Owens
Deon y Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig