Ewch i’r prif gynnwys

Darlithfa Syr Stanley Thomas yn agor yn ffurfiol

6 Mawrth 2025

Syr Stanley Thomas OBE (Hon 2011), gyda Is-ganghellor y Brifysgol, Wendy Larner a Arglwydd Raglaw De Morgannwg Mrs Morfydd Meredith.
(o’r chwith i’r dde) Syr Stanley Thomas OBE (Hon 2011), Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd Yr Athro Wendy Larner, Arglwydd Raglaw De Morgannwg Mrs Morfydd Meredith.

Mae'r dyn busnes a'r dyngarwr blaenllaw o Gymru, Syr Stanley Thomas OBE (Anrhydeddus 2011) wedi ymweld â Chanolfan Bywyd y Myfyrwyr i agor Darlithfa Syr Stanley Thomas yn ffurfiol.

Gwnaeth cyfraniad o £1.1 miliwn gan Syr Stanley Thomas yn 2018 helpu i adeiladu darlithfa newydd gyda 550 o seddi, sydd bellach wedi’i henwi ar ei ôl.

Y ddarlithfa yw awditoriwm mwyaf y Brifysgol ac mae'n cynnig gofod hanfodol ar gyfer dysgu myfyrwyr yng nghanol y campws.

Mae Canolfan Bywyd y Myfyrwyr, a agorodd yn 2021, yn cynnig mannau astudio braf sy’n meithrin gwaith tîm a llwyddiant academaidd, ynghyd ag arweiniad gyrfaoedd, cyngor ariannol, a chymorth lles.

I gydnabod haelioni anhygoel Syr Stanley, cafodd penddelw efydd ei chreu gan yr artist Hywel Pratley. Mae'r cerflunydd yn adnabyddus am greu'r cerflun coffa cyntaf o'r Frenhines Elizabeth II ac mae ganddo gysylltiadau teuluol â Chymru.

Cafodd y gwaith celf newydd ei ddadorchuddio yn y seremoni agoriadol, a welodd westeion uchel eu parch yn bresennol gan gynnwys Arglwydd Raglaw De Morgannwg Mrs Morfydd Meredith, Is-Ganghellor y Brifysgol, Wendy Larner, yn ogystal â'r cyn Is-Ganghellor, Colin Riordan. Roedd cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru, Syr Gareth Edwards CBE, y canwr a’r diddanwr Max Boyce MBE, a’r cyflwynydd a’r diddanwr Owen Money MBE.

Wrth ystyried effaith caredigrwydd Syr Stanley, meddai TJ Rawlinson, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau â Chyn-fyfyrwyr: “Mae haelioni a gweledigaeth hirsefydlog Syr Stanley wedi gadael effaith sylweddol ar ein campws. Mae ei rodd eithriadol wedi cyfoethogi profiad dysgu myfyrwyr ac wedi creu man o safon fyd-eang ar gyfer addysgu. Rydyn ni’n hynod ddiolchgar am ei gefnogaeth ac i’r gymuned anhygoel o roddwyr sy’n rhannu ein hymrwymiad i lunio dyfodol addysg.”

Dywedodd Syr Stanley, bu’n ymweld â Chanolfan Bywyd y Myfyrwyr yn ystod y gwaith adeiladu: “Mae’n ysbrydoledig gweld yr adeilad eiconig hwn yn llawn bwrlwm gyda myfyrwyr, sy’n gwneud defnydd llawn o’r mannau a’r gwasanaethau sydd ar gael iddyn nhw. Rwy’n falch o fod wedi chwarae i wireddu’r nod hwn, ac rwy’ wrth fy modd y bydd fy rhodd yn gwneud cymaint o wahaniaeth i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd am genedlaethau i ddod.”

Mae rhoddion dyngarol yn chwarae rhan bwysig wrth wella profiad myfyrwyr a gallu ymchwil Prifysgol Caerdydd. Mae'r Brifysgol yn hynod ddiolchgar i'r holl roddwyr y mae eu haelioni yn parhau i ysgogi arloesedd a rhagoriaeth mewn addysg.

Rhannu’r stori hon

Gyda'ch help chi, gallwn ddarparu cymorth holl bwysig ar gyfer ymchwil arloesol a gweld therapïau newydd yn datblygu o fainc y labordy i wely ysbyty.