Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio i Gynnal Cynhadledd Ryngwladol o fri
5 Mawrth 2025

Bydd yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio yn cynnal 19eg Cynhadledd flynyddol y Gymdeithas Academaidd Ryngwladol ar Gynllunio, y Gyfraith a Hawliau Eiddo (PLPR) yn 2025.
Bydd y digwyddiad, a gynhelir rhwng 3 a 7 Mawrth, yn dod â thua 200 o gyfranogwyr o 44 o wledydd ynghyd, gan feithrin cydweithrediad rhyngwladol ar faterion hollbwysig ar y groesffordd rhwng cynllunio, y gyfraith a hawliau eiddo.
Bydd y gynhadledd yn cynnwys rhaglen ddeinamig o brif siaradwyr, trafodaethau panel, a sesiynau arbennig yn mynd i'r afael â rhai o'r heriau mwyaf enbyd ym maes datblygu trefol, defnydd tir, a llywodraethu. Bydd mynychwyr yn ymgysylltu ag ymchwil flaengar ar draws pynciau megis prisio tir, tai fforddiadwy, addasu hinsawdd, a dwysáu trefol.
Y prif siaradwyr yw Simon Gilbert, Pennaeth Cynllunio Cyngor Caerdydd, a'r Athro Antonia Layard o Brifysgol Rhydychen.
Yn ystod ei araith gyweirnod Datblygu Dinas: Myfyrdodau gan Bennaeth Cynllunio Caerdydd, bydd Simon Gilbert yn cynnig cipolwg ar drawsnewid trefol Caerdydd, gan archwilio cyflawniadau, heriau, a dyheadau ar gyfer y dyfodol o fewn cyd-destun ehangach cynllunio yng Nghymru a’r DU.
Bydd yr Athro Layard yn cyflwyno For Public Space, lle bydd yn archwilio arwyddocâd cyfreithiol a daearyddol mannau cyhoeddus, gan drafod sut y maent yn cyfrannu at gyfranogiad democrataidd, cynhwysiant cymdeithasol, a chynaliadwyedd economaidd.
Bydd panel o arbenigwyr nodedig, gan gynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, cymdeithasau tai, a chyrff diwydiant, yn trafod yr heriau a’r cyfleoedd ar gyfer darparu tai fforddiadwy yng Nghymru. Bydd y sesiwn hon yn archwilio atebion arloesol i gefnogi datblygiad tai cynaliadwy a chynhwysol.
Bydd myfyrwyr PhD ar unrhyw gam o'u hymchwil yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn gweithdy pwrpasol sydd wedi'i gynllunio i wella cydweithrediad rhyngddisgyblaethol a datblygiad academaidd. Bydd y cyfranogwyr yn derbyn mentoriaeth gan ymchwilwyr profiadol, yn mireinio eu cwestiynau ymchwil, ac yn meithrin cysylltiadau o fewn y gymuned PLPR.
Bydd cyfranogwyr y gynhadledd hefyd yn cael y cyfle i archwilio tirwedd drefol Caerdydd trwy deithiau tywys. Ymhlith yr opsiynau mae:
- Datblygiad Canol y Ddinas: Archwilio trawsnewidiad Caerdydd yn ganolbwynt manwerthu mawr.
- Adfywio Bae Caerdydd: Olrhain esblygiad y Bae o borthladd diwydiannol i ganolfan ddiwylliannol a gwleidyddol.
- Dinas yr Arcedau: Darganfod yr arcedau siopa hanesyddol sy'n diffinio treftadaeth bensaernïol Caerdydd.
- Taith Feic Dywys: Archwilio tirnodau allweddol y ddinas ar ddwy olwyn.
O’i hanes cyfoethog fel prif borthladd allforio glo i’w rôl bresennol fel canolfan ddatganoli yng Nghymru, gan groesawu’r Senedd (Senedd Cymru) a Llywodraeth Cymru, mae cyd-destun lleol hynod ddiddorol Caerdydd yn darparu cyfoeth o astudiaethau achos ar gyfer ymchwilwyr PLPR, yn ôl Dr Sina Shahab, Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd a Chadeirydd pwyllgor trefnu’r gynhadledd.
Fel canolfan flaenllaw ar gyfer ymchwil cynllunio trefol a rhanbarthol, mae’r Ysgol yn falch o groesawu PLPR 2025, gan ddarparu llwyfan ar gyfer trafodaethau beirniadol a fydd yn llywio dyfodol cynllunio a hawliau eiddo yn fyd-eang.
Am ragor o fanylion, ewch i wefan y gynhadledd.