Ewch i’r prif gynnwys

Anogir y cyhoedd i gael profion am feirysau a gludir yn y gwaed fel mater o drefn yn rhan o brosiect ymgysylltu

4 Mawrth 2025

Bydd animeiddiadau a grëwyd gan ymchwilwyr a chlinigwyr yn y Sefydliad Ymchwil er Imiwnedd Systemau i normaleiddio profion rheolaidd ar gyfer feirysau a gludir yn y gwaed, yn cynnwys hepatitis a HIV.

Asiantau heintus yw feirysau a gludir yn y gwaed (BBV) a’r mwyaf cyffredin yw hepatitis B (HBV), hepatitis C (HCV), a’r feirws diffyg imiwnedd dynol (HIV). Mae’r feirysau hyn yn gallu ymledu drwy gysylltiad rhywiol heb ddiogelwch, rhannu nodwyddau neu ddod i gysylltiad â chynnyrch gwaed halogedig. Mae’n nhw’n risg i iechyd pobl gan eu bod yn gallu arwain at glefydau cronig, megis cirosis yr afu neu ganser yr afu yn achos hepatitis B a C, a syndrom diffyg imiwnedd caffaeledig (AIDS) yn achos HIV os na wneir diagnosis ar eu cyfer.

Roedd prosiect BBV a Fi, prosiect ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, a ariannwyd gan Gilead, yn cynnwys cymunedau a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol dros gyfnod o bedwar mis er mwyn deall rhagor am agweddau at brofion ac ymwybyddiaeth o feirysau a gludir yn y gwaed. Cynhyrchwyd dau animeiddiad i'w defnyddio mewn lleoliadau gofal iechyd i annog pobl i wneud profion am feirysau cyffredin a gludir yn y gwaed fel mater o drefn er mwyn hyrwyddo iechyd da a’r broses o drin pobl yn dda.

Early diagnosis is important to reduce the transmission of BBV and routine testing in is essential for detection. We aim to raise awareness, break down myths, reduce stigma and encourage everyone to get tested and healthcare professionals to offer testing. Testing is quick, easy, and could help you continue to live a full and healthy life

Dr Lucy Jones, Clinical Senior Lecturer

Dyma a ddywedodd Dr. Lucy Jones, ‘Mae gwneud diagnosis cynnar yn bwysig i leihau’r graddau y bydd feirysau a gludir yn y gwaed yn cael eu trosglwyddo ac mae cynnal profion rheolaidd yn hollbwysig er mwyn dod o hyd iddyn nhw. Mae feirysau a gludir yn y gwaed yn fwy cyffredin nag y mae rhai pobl yn ei feddwl ac yn dilyn ein profiad yn y gwasanaeth iechyd rhywiol, datblygon ni brosiect BBV a Fi yng nghymoedd y De. Yn ein hymarfer, gwelon ni fod pobl o’r farn nad yw pobl heterorywiol a defnyddwyr nad ydyn nhw’n ddefnyddwyr cyffuriau mewn perygl o gael feirysau a gludir yn y gwaed. Ein nod oedd dysgu rhagor am wybodaeth a syniadau am feirysau a gludir yn y gwaed mewn cymunedau lled-wledig yng Nghymru yn ogystal â phrofiad gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o brofion feirysau a gludir yn y gwaed yn eu gwaith a'r rhwystrau y maen nhw’n eu hwynebu o ran profion feirysau a gludir yn y gwaed. Ein nod yw codi ymwybyddiaeth, chwalu mythau, lleihau’r stigma ac annog pawb i gael profion a bod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cynnig y rhain. Mae gwneud y prawf yn digwydd yn gyflym ac yn hawdd, ac efallai y bydd yn eich helpu i barhau i fyw bywyd llawn ac iach'.

Dyma a ddywedodd Geraint Jones, fferyllydd HIV ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: Cynhalion ni ymarferion gwrando pwrpasol gyda phobl sy'n byw mewn ardaloedd lled-wledig a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol dros gyfnod o 4 mis i drafod feirysau a gludir yn y gwaed er mwyn deall barn y bobl a oedd yn cymryd rhan. Yn y sesiynau hyn, daethon ni o hyd i themâu cyffredin a sut mae’r rhain yn cyfrannu tuag at ddiffyg ymwybyddiaeth o feirysau a gludir yn y gwaed a’r profion.

Dyma a ddywedodd Dr Lucy Jones, 'Drwy gynyddu ymwybyddiaeth a normaleiddio profion, gallwn ni gynnig diagnosis o feirysau a gludir yn y gwaed yn gynnar, atal cymhlethdodau hirdymor a gwella deilliannau cleifion. '

Watch the animations

Roedd y prosiect hwn yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a chafodd ei ariannu gan grant gan Gilead. Hoffai'r tîm ddiolch i aelodau'r cyhoedd a staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a'r Is-adran Heintiau ac Imiwnedd, Prifysgol Caerdydd am ein helpu i godi ymwybyddiaeth o sut y gall feirysau a gludir yn y gwaed effeithio ar bob un ohonon ni. Estynnwn ein diolch arbennig i'r enwogyn Katie Owen a Dr David Samuel, gastroenterolegydd Ymgynghorol am y trosleisio ardderchog!