Sefydliad Confucius Caerdydd yn dathlu Gŵyl y Gwanwyn 2025: Blwyddyn y Neidr
4 Mawrth 2025

Daeth Sefydliad Confucius Caerdydd â llawenydd Gŵyl y Gwanwyn i'r ddinas, gan ddathlu Blwyddyn y Neidr gyda chyfres o ddigwyddiadau bywiog ledled Caerdydd. Nod y dathliadau diwylliannol hyn, a drefnwyd ar gyfer trigolion Caerdydd ac ysgolion yng Nghymru, oedd dod â theuluoedd, myfyrwyr a chymunedau amrywiol ynghyd i brofi traddodiadau Blwyddyn Newydd Tsieineaidd.
Digwyddiadau Cymunedol
Dechreuodd y dathliadau ar 30 Ionawr ym Mhrifysgol Caerdydd, lle bu staff a myfyrwyr yn mwynhau profiad diwylliannol ymdrochol. Roedd y digwyddiad yn cynnwys gweithdai cerddoriaeth draddodiadol Tsieineaidd, caligraffeg a gwneud llusernau a chafodd pobl y cyfle i ddysgu am arwyddocâd Blwyddyn y Neidr mewn diwylliant Tsieineaidd ac i brofi seremoni de Tsieineaidd.

Ar ddydd Sadwrn 1 Chwefror, fe wnaeth Llyfrgell Ganolog Caerdydd gynnal digwyddiad arbennig i deuluoedd, gan gynnig diwrnod o adrodd straeon, gweithgareddau crefft, a pherfformiadau rhyngweithiol. Cymerodd tua 1,000 o ymwelwyr gan gynnwys plant a rhieni ran mewn gweithdai gwneud llusernau, torri papur a chaligraffi a mwynhau sesiynau blas mewn paentio Tsieineaidd, Gwyddbwyll Tsieineaidd, gwisgo gwisgoedd traddodiadol a blasu Te Tsieineaidd. Roedd adloniant hefyd yn rhan o’r dathliadau ar ffurf perfformiadau cerddoriaeth a dawns draddodiadol, ymddangosiad y Duw Cyfoethog a dawns arbennig y Llew Tsieineaidd.

Fe wnaeth y dathliadau barhau yng Nghanolfan Red Dragon ym Mae Caerdydd ddydd Sul 2 Chwefror, lle cafodd teuluoedd eu diddanu gan arddangosiad bywiog o ddiwylliant Tsieineaidd. Unwaith eto, roedd dawns y llew traddodiadol yn gwefreiddio'r torfeydd, tra gallai ymwelwyr roi cynnig ar baentio brwsh a chaligraffi. Roedd y gweithgareddau eraill yn cynnwys gêm Chopsticks, torri papur a gwneud llusernau. Hefyd, cyflwynodd staff Sefydliad Confucius Caerdydd berfformiadau dawns a cherddoriaeth hudolus gyda gwisgoedd traddodiadol a sŵn hardd yr offeryn ‘guzheng’. Daeth dros 3,300 o ymwelwyr i'r ganolfan gyda'r digwyddiad yn dod â phobl o bob cefndir ynghyd i fwynhau treftadaeth gyfoethog Gŵyl y Gwanwyn.

I ddod â’r dathliadau i ben ar ddydd Gwener 7 Chwefror, roedd Sefydliad Confucius wedi partenru â Women Connect First i gynnal digwyddiad arbennig i fenywod Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a'u teuluoedd. Roedd y casgliad hwn yn fan croesawgar i fenywod trin a thrafod traddodiadau Tsieineaidd trwy weithdai crefft ymarferol, adrodd straeon diwylliannol, a thraddodiadau arferol ymarfer Baduan Jin, gan feithrin cyfnewid diwylliannol a chysylltiad cymunedol.

Digwyddiadau i Ysgolion
“Roedd y sesiwn caligraffi ar rifau’n wych. Cafodd y disgyblion amser wrth eu bodd. Roedden nhw hyd yn oed eisiau ysgrifennu’r rhifau ym Mandarin yn rhan o’u gwers fathemateg!” – Oliver John, Ysgol Gynradd Griffithstown (Diwrnod Tsieina)
Daeth dathliadau Gŵyl y Gwanwyn â diwylliant Tsieina nid yn unig i’r gymuned ond i gannoedd o ddisgyblion yng Nghymru drwy gymysgedd o ddigwyddiadau wyneb-yn-wyneb ac ar-lein. Cymerodd tua 500 o fyfyrwyr ran mewn Diwrnodau Tsieina ymdrochol a gafodd eu cynnal ar gyfer ysgolion, gan gynnwys digwyddiad cydweithredol gyda Rhaglen Ysgolion Cynradd Prifysgol Caerdydd.
“Roedd yr amrywiaeth o weithgareddau a’r wybodaeth a gafodd ei rhannu [yng Ngŵyl y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd ar-lein] yn ddiddorol iawn ac ar lefel dda i’r plant allu deall.” – Athrawes ysgol gynradd
Llwyddodd Gŵyl y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd Ar-lein Sefydliad Confucius Caerdydd i gyrraedd hyn yn oed yn fwy o gynulleidfaoedd, gan ymgysylltu â 28 o ysgolion cynradd ac addysgwyr yn y cartref. Cymerodd dros 1,500 o ddisgyblion ran yn fyw. Dangosodd 46 o ysgolion ychwanegol (2,000-2,500 o fyfyrwyr ychwanegol o bosibl) ddiddordeb hefyd mewn defnyddio’r sesiynau wedi’u recordio, gan sicrhau effaith barhaus ar ddysgu diwylliannol ymhlith cynulleidfa ifanc eang yng Nghymru.
Cyrchwch recordiadau’r ŵyl ar-lein, sy’n cynnwys cyflwyniad i Ŵyl y Gwanwyn ac yn esbonio sut i wneud addurniadau drws traddodiadol ac adrodd straeon Tsieineaidd.
Yn chwilio am rywbeth ar gyfer ysgolion uwchradd? Edrychwch ar ein fideos Bywyd yn Tsieina, a gafodd eu creu’n arbennig gan diwtoriaid Sefydliad Confucius Caerdydd yn 2024. Maen nhw’n rhoi cipolwg ar dai te Tsieineaidd a diwylliant ieuenctid yn Tsieina ac yn rhoi cyflwyniad i baentio traddodiadol a gwneud bwyd yn Tsieina.
Mae dathliadau Sefydliad Confucius Caerdydd unwaith eto wedi dangos ysbryd amlddiwylliannol bywiog y ddinas, gan wneud Blwyddyn y Neidr yn achlysur cofiadwy i bawb a gymerodd ran.
Amlygodd yr Athro Guoxiang Xia, Cyfarwyddwr Academaidd Sefydliad Confucius Caerdydd, bwysigrwydd y dathliadau hyn o ran dod â chymunedau ynghyd. “Mae Gŵyl y Gwanwyn yn amser ar gyfer undod, llawenydd a gwerthfawrogi diwylliant. Rydyn ni’n falch iawn o rannu’r traddodiadau hyn â phobl Caerdydd a chreu cyfleoedd ar gyfer ymgysylltu traws-ddiwylliannol ystyrlon.”