Hwyrach bod modd rhagfynegi newidiadau naturiol yn hinsawdd y Ddaear, yn ôl astudiaeth
27 Chwefror 2025

Mae dadansoddiad o newidiadau yn hinsawdd y Ddaear yn y gorffennol yn awgrymu y gellid disgwyl dechrau'r oes iâ nesaf ymhen 10,000 o flynyddoedd, yn ôl ymchwilwyr.
Mae eu hastudiaeth yn olrhain cylchoedd naturiol yn hinsawdd y blaned dros gyfnod o filiwn o flynyddoedd.
Gwnaeth y tîm rhyngwladol, dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, eu rhagfynegiad yn seiliedig ar ddehongliad newydd o'r newidiadau bach yng nghylchdro’r Ddaear o amgylch yr Haul, gan arwain at newidiadau enfawr yn hinsawdd y blaned dros gyfnodau o filoedd o flynyddoedd.
Mae eu canfyddiadau, a gyhoeddwyd yng nghyfnodolyn Science, yn ein helpu i ddeall yn well system ddeinamig hinsawdd y Ddaear ac yn newid sylweddol o ran dirnad cylchoedd rhewlifol y blaned.
Ymchwiliodd y tîm i gofnod o filiwn o flynyddoedd o newid yn yr hinsawdd sy'n dogfennu newidiadau ym maint llenni iâ ar y tir ledled hemisffer y Gogledd ynghyd â thymheredd y cefnfor dwfn.
Roedden nhw’n gallu paru'r newidiadau hyn ag amrywiadau cylchol bach yn ffurf cylchdro’r Ddaear o amgylch yr Haul, ei chryniad ac ongl ei hechel.
Dyma a ddywedodd y cyd-awdur, yr Athro Stephen Barker yn Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd ym Mhrifysgol Caerdydd: "Cawson ni ein syfrdanu yn sgil gweld pa mor glir yw paramedrau cylchdroadol gwahanol cofnod yr hinsawdd."

Mae'n eithaf anodd credu nad yw'r patrwm wedi cael ei weld o'r blaen.
Mae arbenigwyr wedi bod yn rhagfynegi cysylltiad rhwng cylchdro’r Ddaear o amgylch yr Haul a'r amrywiadau rhwng yr amodau rhewlifol a rhyngrewlifol ers mwy na chanrif ond roedd y rhain heb eu cadarnhau gan ddata yn y byd go iawn tan ganol y 1970au.
Ers hynny, mae gwyddonwyr wedi cael trafferth canfod yn union pa baramedr cylchdroadol sydd bwysicaf ar gyfer dechrau a diwedd cylchoedd rhewlifol oherwydd yr anhawster ynghlwm wrth ddyddio newidiadau hinsoddol mor bell yn ôl mewn amser.
Roedd y tîm, sy'n cynnwys ymchwilwyr o Goleg Prifysgol Llundain (UCL), Prifysgol California, Santa Barbara, a Sefydliad Alfred Wegener, Canolfan Helmholtz er Ymchwil Begynol a’r Môr, yn gallu goresgyn y broblem hon drwy edrych ar ffurf cofnod yr hinsawdd drwy’r oesoedd.
Oherwydd hyn, roedden nhw’n gallu canfod sut mae'r paramedrau gwahanol yn cyd-fynd â'i gilydd i gynhyrchu'r newidiadau yn yr hinsawdd a welwyd.
Dyma a ddywedodd yr Athro Barker: "Mae'r patrwm a ganfuon ni mor atgynhyrchadwy ein bod yn gallu rhagfynegi’n gywir pryd y byddai pob cyfnod rhyngrewlifol wedi bod yn ystod y miliwn o flynyddoedd diwethaf, fwy neu lai, a pha mor hir y byddai pob un yn para."
Ychwanegodd cyd-awdur yr astudiaeth, yr Athro Lorraine Lisiecki o Brifysgol California, Santa Barbara: "Mae hyn yn bwysig gan ei fod yn cadarnhau bod modd rhagfynegi i raddau helaeth y cylchoedd o newid naturiol yn yr hinsawdd a welwn yn y Ddaear dros ddegau o filoedd o flynyddoedd ac nad yw’n digwydd ar hap nac ar sail anhrefn lwyr.
"Ac oherwydd ein bod bellach yn byw mewn cyfnod rhyngrewlifol - o'r enw yr Holosen - rydyn ni hefyd yn gallu cynnig rhagfynegiad cychwynnol ynghylch pryd y bydd ein hinsawdd yn dychwelyd hwyrach i gyflwr rhewlifol."
"Ond mae trosglwyddo o'r fath i gyflwr rhewlifol ymhen 10,000 o flynyddoedd yn annhebygol iawn o ddigwydd oherwydd bod allyriadau dynol o garbon deuocsid i'r atmosffer eisoes wedi dargyfeirio'r hinsawdd o'i chwrs naturiol, gan arwain at effeithiau yn y tymor hwy yn y dyfodol," ychwanegodd Dr. Gregor Knorr o Sefydliad Alfred Wegener, Canolfan Helmholtz er Ymchwil Begynol a’r Môr, un arall o gyd-awduron yr astudiaeth.
Mae'r tîm yn bwriadu ychwanegu at eu canfyddiadau i greu gwaelodlin o hinsawdd naturiol y Ddaear yn ystod y 10,000-20,000 o flynyddoedd nesaf drwy raddnodi newidiadau yn y gorffennol.
Gobaith yr ymchwilwyr, ar y cyd ag efelychiadau modelau hinsawdd, yw mesur effeithiau absoliwt newidiadau yn yr hinsawdd a wneir gan bobl i'r dyfodol pell.
Ychwanegodd yr Athro Barker: "Bellach, rydyn ni'n gwybod bod yr hinsawdd yn rhagweladwy i raddau helaeth dros y cyfnodau hir hyn o amser, a gallwn ni ddefnyddio newidiadau yn y gorffennol i ddeall yn well yr hyn a allai fod wedi digwydd mewn dyfodol heb ddylanwad y ddynolryw."

Mae hyn yn rhywbeth nad oedden ni’n gallu ei wneud cyn hyn gyda'r lefel o hyder y mae ein dadansoddiad newydd yn ei roi ac mae'n hollbwysig er mwyn llywio penderfyniadau a wnawn nawr am allyriadau nwyon tŷ gwydr a fydd yn pennu newidiadau yn yr hinsawdd yn y dyfodol.
Dyma a ddywedodd yr Athro Chronis Tzedakis o UCL, un o gyd-awduron yr astudiaeth: "Mae'r astudiaeth newydd hon yn ehangu ar ein gwaith cynharach ac yn gyfraniad o bwys tuag at ddamcaniaeth unedig o gylchoedd rhewlifol."
Cyhoeddwyd eu papur, 'Distinct roles for precession, obliquity, and eccentricity in Pleistocene 100-kyr recial cycles', yn y cyfnodolyn Science.